|
Bydd ein polisïau, ein mentrau a’n gwasanaethau’n unol â’r cynllun hwn. Byddant yn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg ac yn helpu’r cyhoedd yng Nghymru i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o’u bywyd bob dydd.
Pan ydym yn cyfrannu at ddatblygu neu gyflenwi polisïau, mentrau, gwasanaethau neu ddeddfwriaeth newydd arweinir gan sefydliadau eraill, fe wnawn hynny mewn modd sy’n gyson â’r cynllun hwn.
Ein dull arferol fydd sicrhau bod ein gwasanaethau ar gael i’r cyhoedd yn y Gymraeg.
Fe rown wybod i’r cyhoedd pan fydd gwasanaethau ar gael yn y Gymraeg.
Bydd unrhyw gytundebau neu drefniadau wnawn ni gyda thrydydd parti yn gyson â rhannau perthnasol y cynllun hwn, pan fydd y cytundebau neu’r trefniadau hynny yn ymwneud â darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru.
Bydd hyn yn cynnwys gwasanaethau gaiff eu contractio allan, rhoi trwyddedau a rhoi caniatadau eraill.
Bydd gwasanaethau a ddarperir yn y Gymraeg a’r Saesneg o’r un ansawdd ac fe’u darperir o fewn yr un raddfa amser.

|