|
Cynhyrchir yr holl gyhoeddusrwydd, y wybodaeth gyhoeddus, deunydd arddangos a hysbysebu yng Nghymru yn ddwyieithog, neu fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Os bydd yn rhaid cynhyrchu’r fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, bydd y ddau fersiwn yn gyfartal o ran maint, amlygrwydd ac ansawdd – a bydd y ddau fersiwn ar gael ar yr un pryd a byddant yr un mor hygyrch.
Bydd unrhyw hysbysebion a osodir mewn papurau newydd Saesneg (neu ddeunydd tebyg), a ddosberthir yn bennaf neu’n gyfangwbl yng Nghymru, yn ddwyieithog, neu fe fyddant yn ymddangos fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân (gyda’r ddau fersiwn yn ymddangos ar yr un pryd, ac yn gyfartal o ran maint, amlygrwydd ac ansawdd).
Mewn cyhoeddiadau cyfrwng Cymraeg, bydd hysbysebion yn y Gymraeg yn unig.
Wrth staffio stondinau arddangosfeydd a dangosfeydd, ein dull arferol fydd sicrhau bod siaradwyr Cymraeg priodol gymwys yn eu mynychu, yn ôl yr angen.
Ein dull arferol fydd cyhoeddi deunydd fydd ar gael i’r cyhoedd yn ddwyieithog, gyda’r fersiynau Cymraeg a’r Saesneg gyda’i gilydd mewn un ddogfen.
Os bydd yn rhaid cyhoeddi’r fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, (er enghraifft, lle byddai un ddogfen yn rhy faith neu’n rhy drwchus), bydd y ddau fersiwn o’r un maint ac ansawdd – a’n dull arferol fydd sicrhau bod y ddau fersiwn ar gael ar yr un pryd a’u bod yr un mor hygyrch. Bydd pob fersiwn yn nodi’n glir fod y deunydd ar gael yn yr iaith arall.
Byddwn yn defnyddio system sgorio, i’w chytuno gyda’r Bwrdd, i ddynodi’n wrthrychol pryd dylai deunyddiau gael eu cyhoeddi fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân neu fel dogfennau dwyieithog.
Os na fyddant ar gael yn ddi-dâl, ni fydd pris dogfen ddwyieithog yn fwy na chyhoeddiad uniaith – a’r un pris fydd fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân.
Bydd yr uchod hefyd yn gymwys i ddeunydd fydd ar gael yn electronig ar ein gwefan, ar CD Rom neu fel arall.
Bydd ein gwefannau yn cynnwys tudalennau yn y Gymraeg ynghyd â’r Saesneg.
Ein dull arferol fydd darparu fersiynau Cymraeg o’r tudalennau rhyngweithiol ar ein gwefannau.
Wrth ddylunio gwefannau newydd, nau ailddatblygu’n gwefannau presennol, fe fyddwn yn ystyried Canllawiau a Safonau Meddalwedd Dwyieithog Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Pryd bynnag byddwn yn gosod cyhoeddiadau cyfrwng Saesneg ar ein gwefannau, gosodir y fersiynau Cymraeg ar yr un pryd, os byddant ar gael.
Byddwn yn paratoi rhaglen, i’w chytuno gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yn amlinellu sut byddwn yn cynyddu’n cynnwys cyfrwng Cymraeg ar ein gwefan, dros amser.
Ein dull arferol fydd sicrhau y bydd yr holl ffurflenni a deunydd eglurhaol arall cysylltiedig i’w defnyddio gan y cyhoedd yng Nghymru yn hollol ddwyieithog, gyda’r fersiynau Cymraeg a Saesneg gyda’i gilydd mewn un ddogfen. Bydd hyn yn cynnwys ffurflenni rhyngweithiol gyhoeddir ar ein gwefannau.
Os bydd yn rhaid cyhoeddi’r fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, (er enghraifft, lle byddai un ddogfen yn rhy faith neu’n rhy drwchus), bydd y ddau fersiwn o’r un maint ac ansawdd – a byddwn yn sicrhau bod y ddau fersiwn ar gael ar yr un pryd a’u bod yr un mor hygyrch. Bydd pob fersiwn yn nodi’n glir fod y deunydd ar gael yn yr iaith arall.
Byddwn yn defnyddio system sgorio, i’w chytuno gyda’r Bwrdd, i ddynodi’n wrthrychol pryd dylai ffurflenni gael eu cyhoeddi fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân neu fel dogfennau dwyieithog.
Pan fyddwn yn cofnodi gwybodaeth ar fersiynau Cymraeg ffurflenni a anfonir allan i’r cyhoedd, fe wnawn hynny yn y Gymraeg.
Pan fyddwn yn cofnodi gwybodaeth ar fersiynau dwyieithog ffurflenni a anfonir allan i’r cyhoedd, fe wnawn hynny’n ddwyieithog oni bai ein bod yn gwybod y byddai’n well gan y derbynyddion dderbyn y wybodaeth yn y Gymraeg neu’r Saesneg yn unig.
Pan fydd sefydliadau eraill yn dosbarthu ffurflenni ar ein rhan, fe fyddwn yn sicrhau y gwnânt hynny yn unol â’r uchod.
Byddwn yn mabwysiadu hunaniaeth gyfun ddwyieithog yng Nghymru. Bydd ein henw, ein manylion cyswllt, ein logo, ein sloganau a gwybodaeth safonol arall yn ymddangos yn y Gymraeg a’r Saesneg ar yr holl ddeunyddiau sy’n dangos ein hunaniaeth gyfun. Mae hyn yn cynnwys ein deunydd ysgrifennu – a deunyddiau megis cardiau busnes, bathodynnau hunaniaeth, cardiau awdurdodedig, tocynnau, gwahoddiadau a cherbydau.
Gallem ddefnyddio brandio Cymraeg yn unig ar gyfer rhai mentrau.
Ein dull arferol fydd sicrhau y bydd ein holl arwyddion, parhaol a dros dro, sy’n rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd, yn ddwyieithog gyda’r testun Cymraeg a Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal yng nghyd‑destun maint, eglurder ac amlygrwydd.
Byddwn yn glynu at y dull hwn pryd bynnag y bydd arwyddion yn cael eu gosod am y tro cyntaf, neu bryd bynnag rydym yn disodli arwyddion.
Os darperir arwyddion Cymraeg a Saesneg ar wahân, byddant yn gyfartal yng nghyd-destun diwyg, maint, ansawdd ac amlygrwydd.
Bydd yr uchod yn gymwys ar gyfer pob math o arwyddion, gan gynnwys arwyddion electronig.
Bydd hysbysiadau swyddogol, hysbysiadau cyhoeddus a hysbysiadau recriwtio staff osodir mewn papurau newydd cyfwng Saesneg (neu gyfryngau tebyg) a ddosberthir yn bennaf neu’n gyfangwbl yng Nghymru, yn ddwyieithog, neu’n ymddangos fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Bydd hysbysiadau yn y Gymraeg mewn cyhoeddiadau Cymraeg.
Bydd y fersiynau Cymraeg a Saesneg yn gyfartal yng nghyd‑destun diwyg, maint, ansawdd ac amlygrwydd – os cynhyrchir hwy fel fersiwn dwyieithog sengl, neu fel hysbysiadau Cymraeg a Saesneg ar wahân.
Yn y cyfryngau cyfrwng Saesneg, gallai swyddi lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol, gael eu hysbysebu yn y Gymraeg, gyda disgrifiad byr yn y Saesneg.
Gallai hysbysiadau recriwtio osodir mewn cylchgronau cyfrwng Saesneg (a chyhoeddiadau eraill) ddosberthir ledled y Deyrnas Unedig, fod yn y Saesneg, oni bai fod y swydd yn un lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol, ac yn yr achos hwnnw gallai’r hysbysiad fod yn hollol ddwyieithog, neu yn y Gymraeg gyda disgrifiad byr yn y Saesneg.
Bydd unrhyw hysbysiadau swyddogol, hysbysiadau cyhoeddus neu hysbysiadau recriwtio staff osodir rywle arall yng Nghymru yn ddwyieithog.
Cyflwynir datganiadau i’r wasg ar gyfer cyfryngau’r wasg a darlledu yng Nghymru yn y Gymraeg a’r Saesneg lle mae dyddiadau cau yn caniatáu – neu yn unol â dewis iaith sefydliad y cyfryngau neu’r cyhoeddiad fydd yn eu derbyn.
Pan fyddwn yn gosod datganiadau i’r wasg ar ein gwefan, ein dull arferol fydd eu gosod yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Byddwn yn sicrhau bod siaradwyr Cymraeg ar gael i gymryd cyfweliadau gyda’r wasg a’r cyfryngau darlledu cyfrwng Cymraeg.

|