|
Rhagarweiniad
Cefndir i’r sefydliad
Cynllunio a chyflenwi gwasanaeth
Delio â’r cyhoedd sy’n siarad Cymraeg
Ein wyneb cyhoeddus
Gweithredu’r cynllun
Dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 mae’n ofynnol i bob corff cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru baratoi cynllun yn amlinellu sut y bydd yn darparu’r gwasanaethau hynny yn y Gymraeg.
Dyma’n cynllun ni.
Mae’n disgrifio fel y byddwn yn rhoi mewn grym, cyn belled â’i bod yn briodol yn yr amgylchiadau ac yn rhesymol o ymarferol, yr egwyddor a sefydlwyd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg y dylai’r iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg, wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, gael eu trin yn gyfartal.
Mae’r cynllun yn cwmpasu’r gwasanaethau a ddarparwn ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru.
Yn y cynllun hwn, mae’r term cyhoedd yn golygu unigolion, personau cyfreithiol a chyrff corfforaethol. Mae’n cynnwys y cyhoedd fel cyfangorff, neu ran o’r cyhoedd, ynghyd ag aelodau unigol o’r cyhoedd. Mae’r term yn cynnwys mudiadau gwirfoddol ac elusennau. Mae cyfarwyddwyr ac eraill sy’n cynrychioli cwmnïau cyfyngedig hefyd o fewn ystyr y term ‘cyhoeddus’. Nid yw, fodd bynnag, yn cynnwys personau sy’n gweithredu fel cynrychiolwyr y Goron, y Llywodraeth neu’r Wladwriaeth. O ganlyniad, ni ddaw personau sy’n cyflawni swyddogaethau swyddogol o natur gyhoeddus, er eu bod yn bersonau cyfreithiol, o fewn ystyr y gair cyhoeddus pan fyddant yn cyflawni’r swyddogaethau swyddogol hynny.
Gellir cael mwy o wybodaeth ar rychwant a diben cynlluniau iaith Gymraeg yng nghanllawiau Bwrdd yr Iaith Gymraeg (www.Welsh-language-board.org.uk).
Paratowyd y cynllun hwn dan Adran 21 o’r Ddeddf – ac yn unol â chanllawiau gyflwynwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg dan Adran 9 o’r Ddeddf. Daeth i rym ar 13/12/06 ac mae’n adolygu ac yn diweddaru’r cynllun a gymeradwywyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 07/11/96.


|