|
Mae ar ein gweithleoedd sydd â chyswllt â’r cyhoedd yng Nghymru angen mynediad i ddigon o staff priodol gymwys sy’n siarad Cymraeg i alluogi’r gweithleoedd hynny i gyflenwi gwasanaeth llawn yn y Gymraeg. Gweithredir, felly, y gweithdrefnau canlynol:
Byddwn yn nodi’r gweithleoedd a’r swyddi hynny lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol neu’n hanfodol. Gellid diffinio’r gofyniad hwn fel cydran gweithle neu dîm, neu fe ellir ei atodi i swydd benodol.
O bryd i’w gilydd, byddwn yn cyflawni archwiliadau i sefydlu nifer, lefel gallu a lleoliad staff sy’n gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg (gan gynnwys staff sy’n dysgu Cymraeg). Byddwn hefyd yn clustnodi staff sy’n dymuno dysgu Cymraeg.
Caiff canlyniadau’r ddau ymarferiad hwn eu cymharu i ddynodi gweithleoedd lle mae prinder staff sy’n siarad Cymraeg.
Byddwn yn ymateb i unrhyw brinderau drwy’n gweithgareddau recriwtio a hyfforddiant.
Ein dull arferol fydd sicrhau bod ein hardaloedd derbynfa a’n prif switsfyrddau wastad yn gallu cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg.
Pan fyddwn yn recriwtio staff fe’n harweinir gan y wybodaeth gasglwyd drwy ddilyn y gweithdrefnau a ddisgrifir dan Staffio uchod.
Pan roddir ystyriaeth i ruglder yn y Gymraeg i fod yn ddymunol neu’n hanfodol, nodir hyn yn hyfedreddau a hysbysebion swyddi.
Lle na ellir dod o hyd i ymgeisydd sy’n siarad Cymraeg ar gyfer swydd lle mae’r Gymraeg yn ddymunol, anogir y person a benodir i ddysgu Cymraeg.
Pan na ellir dod o hyd i ymgeiswyr addas sy’n siarad Cymraeg ar gyfer swydd lle mae’r Gymraeg yn hanfodol (neu lle penodwyd ymgeisydd nad yw’n gallu siarad Cymraeg ac sy’n dysgu’r iaith) fe wnawn drefniadau dros dro y gellir danynt ddarparu gwasanaeth cyfrwng Cymraeg (drwy ddefnyddio, er enghraifft, staff sy’n siarad Cymraeg o rywle arall yn ein sefydliad i gyflenwi rhannau o’r gwasanaeth).
Anogir ein staff i ddysgu neu wella’u Cymraeg – a byddwn yn cefnogi’r rheiny sy’n dymuno gwneud hynny.
Byddwn yn ariannu’r hyfforddiant hwn ac yn caniatáu i staff fynychu hyfforddiant yn ystod gwaith.
Byddwn yn datblygu gallu’n staff sy’n siarad Cymraeg i weithredu yn y Gymraeg drwy ddarparu hyfforddiant galwedigaethol yn y Gymraeg, lle bynnag bydd yn ymarferol.
Cynhwysir yr angen i ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau yn y Gymraeg, a gweithredu yn unol â’r cynllun hwn, fel byddwn yn datblygu, dylunio a phwrcasu gwasanaethau a chynhyrchion technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.
Byddwn yn addasu’n systemau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu presennol i sicrhau eu bod yn ein galluogi ni i ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau yn y Gymraeg – a gweithredu yn unol â’r cynllun hwn.
Fel byddwn yn datblygu neu’n caffael systemau TGCh byddwn yn ystyried Canllawiau a Safonau Meddalwedd Dwyieithog y Bwrdd.
Pan mai ni fydd arweinydd strategol ac ariannol partneriaeth, byddwn yn sicrhau bod unrhyw agweddau gwasanaeth cyhoeddus yn cydymffurfio â’r cynllun hwn.
Pan ymunwn â phartneriaeth mae sefydliad arall yn ei harwain, bydd ein mewnbwn i’r bartneriaeth yn cydymffurfio â’r cynllun hwn a byddwn yn annog y partneriaid eraill i gydymffurfio.
Pan ydym yn bartner mewn consortiwm, byddwn yn annog y consortiwm i gydymffurfio â’r cynllun hwn. Pan fyddwn yn gweithredu yn enw’r consortiwm, byddwn yn gweithredu yn unol â’r cynllun hwn.
Mae’r mesurau yn y cynllun hwn yn dwyn awdurdod, cefnogaeth a chymeradwyaeth lawn ein sefydliad.
Bydd gan reolwyr gyfrifoldeb i weithredu’r agweddau hynny o’r cynllun sy’n berthnasol i’w gwaith.
Byddwn yn penodi uwch swyddog staff i gydlynu’r gwaith sy’n ofynnol er mwyn cyflenwi, monitro ac adolygu’r cynllun hwn.
Byddwn yn paratoi, ac yn diweddaru’n gyson, gynllun gweithredu manwl, i’w gytuno gan y Bwrdd, yn amlinellu fel byddwn yn sicrhau y byddwn yn gweithredu’n unol â’r cynllun hwn. Daw’r cynllun gweithredu i rym ar y dyddiad y daw’r cynllun i rym. Bydd y cynllun yn cynnwys targedau, dyddiadau cau ac adroddiad ar gynnydd yn erbyn pob targed.
Rhoddir cyhoeddusrwydd i’r cynllun ymhlith ein staff, a’r cyhoedd yng Nghymru. Fe’i cyhoeddir ar ein gwefan mewn man amlwg.
Byddwn yn cynhyrchu cyfarwyddiadau desg, neu gyfarwyddyd tebyg, ar gyfer ein staff i sicrhau eu bod yn gwybod sut i weithredu’r mesurau a gynhwysir yn y cynllun hwn.
Newidir y cyfarwyddiadau desg presennol, neu gyfarwyddyd tebyg a ddefnyddir gan ein staff, i adlewyrchu’r mesurau a gynhwysir yn y cynllun hwn.
Byddwn yn trefnu briffio a hyfforddiant, sesiynau i’n staff gynyddu’u hymwybyddiaeth o’r cynllun hwn – ac egluro sut y bydd yn effeithio ar eu gwaith o ddydd i ddydd.
Byddwn yn sicrhau ein bod yn defnyddio cyfieithwyr neu droswyr cymwys yn unig i gynorthwyo gyda chyflenwi’r cynllun hwn.
Cyflawnir unrhyw ffurf ar gyswllt â’r cyhoedd yng Nghymru, nad ymdrinnir ag ef yn benodol gan y cynllun hwn, mewn modd sy’n gyson â’r egwyddorion cyffredinol gynhwysir yn y cynllun hwn.
Byddwn yn monitro’n cynnydd wrth gyflenwi’r cynllun hwn yn erbyn y targedau a amlinellir yn ei gynllun gweithredu amgaeëdig.
Bydd ein gweithdrefnau monitro a chofnodi presennol yn cynnwys cyfeiriad at y cynnydd wrth gyflenwi’r cynllun hwn, fel y bydd yn briodol.
Byddwn yn anfon adroddiadau monitro i Fwrdd yr Iaith Gymraeg, pan ofynnir amdanynt, yn amlinellu cynnydd wrth gyflenwi’r cynllun hwn.
Byddwn yn adolygu’r cynllun hwn o fewn pedair blynedd iddo ddod i rym.
Hefyd, o dro i dro, gallai fod angen i ni adolygu’r cynllun hwn, neu gynnig diwygiadau i’r cynllun hwn, o ganlyniad i newidiadau i’n swyddogaethau, neu i’r amgylchiadau y cyflawnwn y swyddogaethau hynny o’u mewn, neu am unrhyw reswm arall.
Ni wneir unrhyw newidiadau i’r cynllun hwn heb gymeradwyaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Dylid cyfeirio cwynion ynghylch y cynllun hwn, neu awgrymiadau ar gyfer gwelliant, i’r uwch swyddog staff â chyfrifoldeb dros y cynllun, yn y cyfeiriad canlynol:
Guy Hirst
Cydgysylltydd yr Iaith Gymraeg
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Tŷ’r Rhaglaw
Stryd y Rhaglaw
WRECSAM
LL11 1PR
Neu drwy e-bost i: guy.j.hirst@voa.gsi.gov.uk
|