|
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB) yn asiantaeth weithredol o Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) gydag 85 o swyddfeydd wedi’u gwasgaru ar hyd Lloegr, Cymru a’r Alban gan gyflogi oddeutu 4500 o bobl.
- Crynhoi a chynnal rhestri gwerthoedd trethiannol 1.6 miliwn o eiddo masnachol yn Lloegr a 100,000 yng Nghymru.
- Crynhoi a chynnal rhestri bandinau treth gyngor oddeutu 21.7 miliwn o eiddo domestig yn Lloegr ac 1.3 miliwn yng Nghymru.
- Prif Briswyr ar gyfer yr Alban a Chymru yn darparu gwasanaethau i Senedd yr Alban a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
- Rhoi cyngor prisio i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn gysylltiedig ag enillion cyfalaf, treth etifeddiant a gwaith cysylltiedig arall.
- Cynghori Gweinidogion y Llywodraeth ar faterion prisio eiddo.
- Rhychwant o wasanaethau prisio anstatudol ac arolygu ystadau ar gyfer Adrannau’r Llywodraeth a’r sector cyhoeddus ehangach.
Rydym yn ymrwymedig i :
- geisio rhagoriaeth o amrywiaeth
- weithio mewn timoedd a phartneriaethau
- welliant parhaus ac arloesi
- fod yn effeithiol a chwsmer ganolog
- fod yn deg a diduedd
- gael pobl i gyfranogi ac ymddiried ynddynt
Lleolir ein swyddfeydd yng Nghymru ym Mangor, Caerdydd, Caerfyrddin, Merthyr Tudful, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam.
Cyfeiriad ein gwefan yw www.voa.gov.uk

|