VOA logo
 Valuation Office Agency homepage  Council Tax homepage Business Rates homepage District Valuer Services homepage Media Centre homepage  Recruitment homepage  Publications homepage  How to find us homepage  
Publications - Fact Sheets - Council Tax and Business Rates - Working at or from home

Download a printable PDF version of this fact sheet

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gyfrifol am fandio’r holl eiddo domestig (yng Nghymru a Lloegr) at ddibenion treth gyngor. Rydym yn prisio anheddau, na chânt eu defnyddio at unrhyw ddefnydd annomestig, yn unol â’n hasesiad o’r gwerth cyfalaf ar y farchnad agored ar 1 Ebrill 1991 yn Lloegr a 1 Ebrill 2003 yng Nghymru.

Gosodir pob eiddo mewn band yn unol â’u gwerth ar yr un dyddiad i sicrhau bod y system yn deg i bawb. Os nad oedd eich eiddo yn bodoli ar y dyddiad prisio, bydd staff yn ein swyddfeydd lleol yn gallu manteisio ar wybodaeth ddigonol ynghylch gwerthiant eiddo tebyg i bennu beth fyddai ei werth wedi bod ar y dyddiad hwnnw.

Mae’r daflen hon yn esbonio sut allech chi gael eich heffeithio os ydych yn defnyddio rhan o’ch eiddo ar gyfer rhywbeth ac eithrio lle i fyw.

Gweithio o’ch cartref

Os ydych yn gweithio gartref neu’n gweithio o’ch cartref, efallai y bydd angen talu trethi busnes (a elwir yn drethi annomestig hefyd) ar gyfer rhan yr eiddo a ddefnyddir i wneud gwaith a bydd angen parhau i dalu treth gyngor ar gyfer gweddill yr eiddo (er ei bod yn bosibl y bydd y band yn cael ei addasu).

Er mwyn penderfynu a ddylid tali trethi busnes ar gyfer eich eiddo neu beidio, rhaid i ni ystyried nifer o bethau, gan gynnwys graddau ac amlder y defnydd annomestig (busnes) o’r ystafell (neu ystafelloedd) ac unrhyw addasiadau a wnaethpwyd i’r eiddo at y diben hwnnw.

Ystyrir pob achos yn ôl ei haeddiant ac fel arfer, byddwn yn ymweld â’ch eiddo i archwilio’r ffeithiau cyn gwneud asesiad ar gyfer trethi annomestig.

Trethi busnes

Os bydd angen asesu eich eiddo at ddibenion trethi busnes, byddwn yn cyfrifo’r gwerth trethadwy ar gyfer y rhan a ddefnyddir at ddibenion annomestig. Mae gwerthoedd trethadwy yn cael eu seilio yn fras ar y rhent blynyddol am adeilad neu ran o adeilad pe byddai ar gael i’w rentu ar y farchnad agored ar ddyddiad prisio penodol. 1 Ebrill 2003 yw’r dyddiad hwn ar hyn o bryd

Mae’n bwysig nodi bod gwerthoedd trethadwy yn ffactor allweddol wrth gyfrifo trethi busnes ond nid ydynt yn cyfateb â’r bil trethi. Nid yw cynnydd neu ostyngiad mewn gwerth trethadwy yn arwain at fil is neu fil uwch yn awtomatig oherwydd caiff y cyfrifiad terfynol ei seilio ar nifer o ffactorau eraill. Mae’r rhain yn cynnwys gostyngiad dros dro a’r lluoswr, (cyfradd yn y bunt) a osodir gan

Canllaw sylfaenol i ardrethu gwestai a llety gwely a brecwast

Beth yw gwerth trethadwy?

  • Mae gan bob eiddo annomestig werth trethadwy, ac eithrio’r eiddo hynny sydd wedi’u heithrio o’r drefn talu trethi.

Yn fras, mae’r gwerth trethadwy yn cynrychioli’r rhent blynyddol y gellid fod wedi gosod yr eiddo ar y farchnad agored ar ddyddiad penodol, yn unol ag amodau trwsio ac yswirio llawn. Ar gyfer y rhestr ardrethu bresennol, nodwyd mai 1 Ebrill 2003 yw’r dyddiad hwn.

Pa ffactorau gellir eu hystyried wrth bennu’r gwerth trethadwy?

Wrth bennu’r gwerth trethadwy, gellir ystyried y rhent go iawn a delir gan weithredwyr. Yn ogystal, gellir ystyried ffactorau eraill hefyd megis:

  • Nifer yr ystafelloedd gwely, os ydynt yn rhai sengl, dwbl neu deuluol, sylfaenol neu gydag ystafell ymolchi yn gysylltiedig
  • Lleoliad ac ansawdd y llety
  • Presenoldeb cyfleusterau bwyty i’r rhai nad ydynt yn breswylwyr

Pryd mae eiddo Gwely a Brecwast yn eiddo domestig?

Bydd yr eiddo yn eiddo domestig ac felly, bydd angen talu treth gyngor ar ei gyfer yn hytrach na threthi busnes os:

  • Nad ydych yn bwriadu cynnig llety am gyfnod byr ar gyfer mwy na chwech unigolyn ar yr un pryd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn i ddod ac
  • Os mai’r eiddo yw’ch unig preswylfa neu’ch prif breswylfa ac mae’r defnydd gwely a brecwast yn atodol i’r defnydd preifat

Pa ffactorau a ystyrir wrth ddefnyddio’r ‘prawf defnydd atodol’?

Diben y ‘prawf defnydd atodol’ yw sicrhau, gymaint ag y bo modd, er na fydd darparu llety cyfyngedig am gyfnod byr mewn cartref rhywun yn cael ei asesu ar gyfer trethi, ni fydd yr eithriad hwn yn ymestyn i’r rhai y mae gwely a brecwast yn fenter busnes sylweddol iddynt.

1. Llety a ddefnyddir

Dyma gyfanswm yr eiddo a ddefnyddir ar gyfer Gwely a Brecwast ar unrhyw adeg; os defnyddir hanner y t þ neu fwy at gyfer gwesteion ar unrhyw adeg, mae’n debygol y codir trethi ar yr eiddo hwnnw.

2. Addasu eiddo

Os bydd addasiadau a wneir yn benodol er lles gwesteion yn newid cymeriad yr eiddo y tu hwnt i gymeriad t þ preifat, ni all y defnydd fel lle Gwely a Brecwast fod yn atodol ac mae’n debygol y codir treth ar yr eiddo.

Enghraifft: Gosod basnau ymolchi, ystafelloedd ymolchi neu gyfleusterau ystafelloedd ymolchi ychwanegol sy’n gysylltiedig ag ystafelloedd, rhagofalon tân megis drysau tân, larymau tân a diffoddwyr tân.

3. Natur y defnydd

Ystyrir ffactorau megis a yw’r eiddo ar agor trwy gydol y flwyddyn, a yw’n cynnig prydau gyda’r nos neu a oes ganddo drwydded, wrth benderfynu a yw’n ddefnydd atodol.

A yw fy ngwerth trethadwy yr un fath â’r trethi y byddaf yn eu talu?

Na. Mae gwerthoedd trethadwy yn ffactor allweddol wrth gyfrifo trethi busnes ond nid ydynt yn cyfateb â’r bil trethi. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am gyfrifo biliau trethi go iawn ac am gasglu trethi a byddant yn defnyddio’r gwerth trethadwy wrth gyfrifo faint fydd yn rhaid i chi ei dalu . Bydd yr awdurdod lleol yn defnyddio’r lluoswr (cyfradd yn y bunt) ar gyfer y gwerth trethadwy ac yna, bydd yn tynnu unrhyw ostyngiadau perthnasol. Yn Lloger mae’r lluoswr yn cael ei benni gan Adran ar gyfer Cymunedau a Llywodraeth Leol ac yng Nghymru, pennir y lluoswr gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC). Bydd yr awdurdod lleol yn cyfrifo unrhyw addasiad dros dro hefyd. Mae’r addasiad dros dro yn cyfyngu’r swm y bydd eich bil trethi yn newid yn dilyn ymarfer ailbrisio. Nid oes addasiad dros dro yng Nghymru.

O ba ddyddiad y bydd yr eiddo Gwely a Brecwast yn cael ei ardrethu?

Yn gyffredinol, bydd eiddo yn cael ei nodi ar y rhestr ardrethu o’r dyddiad yr oedd ar gael i’w ddefnyddio yn gyntaf fel lle Gwely a Brecwast. Gelwir y dyddiad y ‘Dyddiad Effeithiol’.

A oes modd i mi apelio yn erbyn yr asesiad ardrethu?

Oes. Gallwch apelio yn erbyn y gwerth trethadwy a’r Dyddiad Effeithiol – gelwir hwn yn ‘gynnig’ i addasu’r rhestr ardrethu.

Os ydych wedi cael cofnod yn rhestr ardrethu 2005 er 1 Ebrill 2005, gallwch wneud un apêl yn erbyn y cofnod gwreiddiol yn y rhestr hon ar unrhyw adeg tan 31 Mawrth 2010. Os yw’n gofnod newydd ar y rhestr ardrethu, neu os addaswyd y cofnod er 1 Ebrill 2005, byddwch yn cael hysbysiad gan y Swyddog Prisio, a bydd modd i chi wneud un apêl yn ei gylch.

Os ceir unrhyw newid materol mewn amgylchiadau sy’n effeithio ar yr eiddo neu ei leoliad ffisegol ar unrhyw adeg, mae gennych yr hawl i wneud apêl bellach.

Gellir gwneud cynigion sy’n ymateb i newid rhestr neu gofnod newydd yn rhestr 2005 hyd at 31 Mawrth 2010. Gall Dyddiad Effeithiol addasiad i’r rhestr ardrethu mewn ymateb i apêl gan drethdalwr fod yn rhwym i gyfyngiadau penodol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’ch Swyddfa Brisio leol.

Gallwch gael ffurflen gynnig gan eich Swyddfa Brisio leol neu gallwch wneud apêl ar-lein ar ein gwefan sef:

www.voa.gov.uk

Sylwer mai diben y wybodaeth hon yw rhoi arweiniad yn unig ac efallai nad yw’n cynnwys yr holl amgylchiadau penodol. Os bydd gennych unrhyw ymholiad, a fyddech gystal â chysylltu â’ch Swyddfa Brisio leol. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynghylch talu trethi i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r eiddo ynddo. Ysgrifennwyd y daflen hon ym mis Gorffennaf 2005 gan ystyried y ddeddfwriaeth bresennol.

(ar gyfer Lloegr) a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am gyfrifo biliau trethi go iawn ac am gasglu trethi.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’ch Swyddfa Brisio leol – mae’r manylion yn y llyfr ffôn – neu trowch at www.voa.gov.uk a www.mybusinessrates.gov.uk – y mae’r ddwy ohonynt yn wefannau swyddogol y llywodraeth

Isod, ceir rhai enghreifftiau o asesiadau posibl a wneir gennym pan ddefnyddir rhan o eiddo at ddibenion domestig ac annomestig

1. Annedd Edwardaidd ar wahân mewn ardal breswyl sy’n eiddo i gyfreithiwr hunangyflogedig sy’n arbenigo mewn cyfraith briodasol. Mae’r ystafell ffrynt ar y llawn gwaelod yn cynnwys soffa a chadeiriau cyffyrddus, teledu a dangosir addurniadau/lluniau o natur bersonol yn yr ystafell. Fe’i defnyddir o bryd i’w gilydd fel ystafell aros i gleientiaid yn ystod yr wythnos ac fel lolfa i’r cyfreithiwr gyda’r nos ac ar benwythnosau.

Defnyddir yr hen ystafell fwyta fel swyddfa ac mae’n cynnwys cyfrifiadur, llinell ffôn a ffacs un pwrpas, cypyrddau ffeilio, desg a silffoedd sy’n cynnwys llyfrau cyfreithiol. Ni wneir unrhyw ddefnydd domestig o’r ystafell hon. Fe’i defnyddir gan ysgrifenyddes rhan-amser pan fo’r cyfreithiwr yn ymweld â chleientiaid neu yn y llys.

Defnyddir y gegin ar y llawr gwaelod i baratoi prydau teuluol ond hefyd i wneud te a choffi i gleientiaid. Mae’r llawr cyntaf, sy’n cynnwys ystafell wely ac ystafell ymolchi, yn cael ei ddefnyddio at ddibenion domestig yn unig.

Ein hasesiad: Y swyddfa yw’r unig ran annomestig ac fe’i hasesir ar gyfer trethi busnes. Prif ddiben yr ystafell ffrynt yw lolfa. Yn yr achos hwn, mae’r defnydd annomestig yn ddigon bach i olygu na fydd angen ei hasesu ar gyfer trethi busnes. Bydd y lolfa a gweddill yr annedd yn cael ei fandio at ddibenion treth gyngor.

2. Mae garej gyflawn mewn t þ ar ystad wedi cael ei thrawsnewid yn swyddfa sy’n cynnwys waliau plastredig, pwyntiau p ð er trydan, tu blaen soled, nenfwd crog a llawr wedi’i lefelu er mwyn gosod carped arno. Gosodwyd llinell ffôn ar wahân. Rhaid mynd trwy gyntedd y t þ i gyrraedd yr ystafell. Mae’r holl gyfleusterau toiled yn y prif d þ .

Defnyddir yr ystafell gan y teulu gyda’r nos ac o bryd i’w gilydd ar benwythnosau. Yn ystod y dydd, mae’r deiliad yn dylunio meddalwedd cyfrifiadurol. Fe'i cyflogir gan gwmni mawr i weithio gartref oherwydd anabledd corfforol. Darparwyd yr holl eiddo gan ei gwmni ac mae wedi cael ei addasu’n benodol i’w anghenion. Mae’n ymweld â swyddfa ei gyflogwr o bryd i’w gilydd i gynnal cyfarfodydd gyda chydweithwyr a chwsmeriaid.

Ein hasesiad: Nid yw’r hen garej yn eiddo domestig mwyach. Fe’i haddaswyd at ddefnydd swyddfa a dylid ei hasesu ar gyfer trethi busnes. Mae’r gweddill yn eiddo domestig.

3. Mae’r deiliad yn cael ei chyflogi fel lleolwraig safleoedd gan gwmni adeiladu mawr ac mae’n teithio ar hyd a lled de’r wlad gan ddefnyddio’i chartref fel ei phrif leoliad ond mae’n galw yn swyddfa’r cwmni unwaith yr wythnos i gael cyfarwyddiadau newydd, i fynychu cyfarfodydd ac i adael gwaith a gwblhawyd.

Mae ganddi gabinet pedwar drôr yng nghornel ystafell fwyta, sy’n ‘swyddfa’ hefyd ar gyfer cyfrifiadur y teulu, ac ni cheir llinell ffôn un pwrpas at ddibenion busnes.

Mae’r deiliad allan yn ymweld â safleoedd bedwar diwrnod yr wythnos ac mae’n ‘ysgrifennu adroddiadau’ gartref ar y bwrdd bwyta gyda’r hwyr ac ar benwythnosau. Nid oes unrhyw gleientiaid nac aelodau’r cyhoedd yn ymweld â’r t þ at ddibenion busnes.

Ein hasesiad: Mae’r annedd yn eiddo domestig, a dylid ei fandio ar gyfer treth gyngor.

4. Mae meddyg yn defnyddio ystafell yn ei gartref fel ystafell ymgynghori dri diwrnod yr wythnos. Mae’r brif feddygfa rhyw dair milltir i ffwrdd ger canol y dref. Mae’r t þ yn fwy cyfleus i gleifion sy’n byw yn lleol.

Ychwanegwyd ramp concrid i’r drws ffrynt a lledaenwyd y drws sy’n agor i mewn i’r cyntedd a’r ystafell ymgynghori er mwyn eu gwneud yn addas i ddefnyddwyr cadair olwyn. Nid oes unrhyw aelod o deulu’r meddyg yn anabl.

Mae’r ystafell ei hun yn cynnwys gwely archwilio sef gwely sengl a lliain gotwm drosto. Gosodir dalen bapur newydd arno ar gyfer pob claf.

Ni cheir desg swyddfa ond ceir cyfrifiadur, bwrdd a chadair yng nghornel yr ystafell, a ddefnyddir gan y meddyg yn ystod ei ymgynghoriadau.

Ni chedwir unrhyw gofnodion cleientiaid yn y t þ ac ni chedwir unrhyw feddyginiaeth yno ychwaith. Cedwir offer meddygol sylfaenol ym mag meddygol y meddyg neu mewn drôr ar ôl eu defnyddio.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio i’w ddefnyddio fel cangen meddygfa a gosodwyd arwyneb ar ran o’r ardd ffrynt er mwyn sicrhau lle i ddau i dri cerbyd preifat ychwanegol. Ceir cyfyngiadau parcio yn y stryd.

Ar furiau’r ystafell ymgynghori, mae’r meddyg wedi gosod lluniau a dynnwyd gan ei blant ifanc a cheir teganau yng nghornel yr ystafell, sy’n eiddo i’w blant ond gall cleifion ifanc chwarae â nhw hefyd. Ceir arwydd pres ar y drws ffrynt sy’n hysbysebu oriau’r feddygfa.

Yn ystod gweddill yr wythnos, mae’r meddyg yn mynychu meddygfeydd yn y prif eiddo ac mae’n ymweld â chleifion yn eu cartrefi yn ystod y prynhawniau. Ni ddefnyddir yr ystafell yn aml ac eithrio ar gyfer ymgynghoriadau, ond pan fydd ffrindiau yn dod i aros, gellir ei defnyddio fel ystafell wely sbâr. Ar benwythnosau a gyda’r nos o bryd i’w gilydd, mae’r meddyg yn defnyddio’r ystafell i ddarllen papurau proffesiynol neu i wylio teledu cludadwy i ffwrdd o’r plant.

Ein hasesiad: Mae’r ystafell hon yn cael ei defnyddio fel meddygfa meddyg ar y cyfan ac mae’r defnydd domestig yn fach ac yn achlysurol. Dylid asesu’r ystafell ar wahân at ddibenion trethi busnes a dylid bandio gweddill yr eiddo ar gyfer treth gyngor.

5. Mae tele-weithwraig a arferai gael ei chyflogi gan gwmni cenedlaethol mawr mewn canolfan alwadau, bellach yn gweithio i’r cwmni bum diwrnod yr wythnos o’i chartref gan ddefnyddio ystafell wely sbâr lle y ceir desg swyddfa, conswl ffôn, terfynell gyfrifiadur a chadair, a gyflenwyd gan ei chyflogwr. Mae ei horiau gwaith yn hyblyg ond ar y cyfan, defnyddir yr ystafell at ddibenion gwaith o leiaf 40 awr yr wythnos. Gyda’r hwyr ac ar benwythnosau, fe’i defnyddir gan aelodau eraill y teulu at ddibenion hamdden, a chan y trethdalwr ar gyfer cyflawni tasgau domestig megis smwddio. Ni wnaethpwyd unrhyw addasiadau ffisegol i’w heiddo, ac eithrio gosod llinellau ffôn newydd, ac nid oes unrhyw aelodau’r cyhoedd neu gydweithwyr yn ymweld â’r t þ at ddibenion busnes.

Ein hasesiad: Ni fydd gwerth ardrethol yn codi oni bai bod offer annomestig yn cael ei osod neu os caiff yr eiddo ei addasu’n ffisegol ar gyfer y defnydd busnes. Mae hyn oherwydd bod cymeriad yr ystafell yn parhau i fod yn gydnaws â llety byw domestig, ac mae dibenion llety byw yn gallu cynnwys gwaith a defnydd hamdden ac adloniant. Yn ogystal, mae’r trethdalwr yn defnyddio dodrefn ac offer sy’n gyffredin mewn eiddo domestig.

 

 


Image of a bookcase
Accessibility | Search | Site Map | News | About Us | Privacy Statement | © Crown Copyright | Feedback | Contacts