VOA logo
 Valuation Office Agency homepage  Council Tax homepage Business Rates homepage District Valuer Services homepage Media Centre homepage  Recruitment homepage  Publications homepage  Where to find us homepage  
Publications - Fact Sheets - Bandiau’r Dreth Gyngor ac unedau hunangynhwysol

Download a printable PDF version of this fact sheet

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn gyfrifol am bennu band treth gyngor i bob eiddo domestig yng Nghymru a Lloegr. Mae band treth gyngor eiddo yn seiliedig ar bris gwerthu’r eiddo ar ddyddiau penodedig, ar 1 Ebrill 2003 yng Nghymru a 1 Ebrill 1991 yn Lloegr. Caiff y rhain eu galw’n ddyddiadau prisio.

Caiff pob eiddo ei osod mewn band yn seiliedig ar ei werth ar yr un dyddiad er mwyn sicrhau bod y system yn deg i bawb. Os nad oedd eich eiddo yn bodoli ar y dyddiad prisio, mae gan staff yn ein swyddfeydd lleol wybodaeth am werthiant eiddo tebyg oedd yn bodoli bryd hynny i bennu eich band.

Mae ambell i eiddo ag un aelwyd (e.e. un uned deuluol) yn cael ei nodi’n un sy’n cynnwys mwy nac un uned hunangynhwysol. Yna rhaid pennu band treth gyngor ar wahân i bob uned.

Unedau hunangynhwysol

Mae uned hunangynhwysol yn golygu:

‘adeilad, neu ran o adeilad, a godwyd neu a addaswyd at ddefnydd llety preswyl ar wahân.’

Gall uned hunangynhwysol olygu gofod byw sydd ar wahân i lety arall, a hefyd lety byw sy’n gysylltiedig â llety cyfagos ac yn rhannu’r un fynedfa. Gallai hyn fod, er enghraifft, yn estyniad ar gyfer perthynas hen.

Nid yw’r ffaith bod uned yn rhannu gwasanaethau cyffredin ac na ellir ei gwerthu ar ei phen ei hun yn ei hatal rhag cael ei dosbarthu yn llety hunangynhwysol ac felly’n agored i fand treth gyngor.

Yn yr un modd, nid yw’n gwneud gwahaniaeth os yw’r uned yn cael ei defnyddio gan ddeiliaid y prif gartref. Os caiff uned ei chodi neu’i haddasu at ddiben llety byw ar wahân, yna pennir band treth gyngor ar wahân iddi waeth pa ffordd y caiff ei defnyddio.

Wrth ystyried a oes unrhyw lety byw yn uned hunangynhwysol, rydym yn ystyried sawl prif bwynt.

Sef:

  • Y nodweddion ffisegol a’r cynllun:
    Rhaid bod uned hunangynhwysol yn gallu cael ei defnyddio fel llety byw ar wahân.
  • Hunaniaeth ffisegol y llety:
    Fel arfer ni fydd uned hunangynhwysol yn ymestyn dros wahanol rannau o adeilad. Er enghraifft, nid yw llety sy’n cynnwys ystafell fyw a chegin, gydag ystafell wely ac ystafell ymolchi wedi eu lleoli ar yr ochr draw i gyntedd cyffredin, yn uned hunangynhwysol.
  • Mynediad:
    Nid oes angen bod gan uned hunangynhwysol ei mynediad ei hun er mwyn cael ei hystyried yn hunangynhwysol. Er enghraifft, byddai llety byw ar wahân gyda chyntedd cyffredin a grisiau yn cael ei dosbarthu’n llety hunangynhwysol. Fodd bynnag, os mai’r unig fynedfa i’r llety byw ar wahân fydd drwy ystafell fyw (fel ystafell dderbyn neu ystafell wely yn y prif dŷ) ni chaiff ei hystyried yn hunangynhwysol.
  • Y ddarpariaeth o gyfleusterau safonol:
    Fel arfer bydd gan uned hunangynhwysol fannau addas ar gyfer byw a chysgu, ar gyfer paratoi bwyd ac ymolchi. Fel arfer byddai toiled yno. Lle bydd ffitiadau uned hunangynhwysol wedi cael eu tynnu ond, y gellid eu hailosod yn hawdd drwy waith atgyweirio normal neu adnewyddu, yna ystyrir bod modd cynnal deiliadaeth ar wahân yn yr uned o hyd. Yn yr un modd, nid yw’r defnydd a wneir o’r ystafelloedd mewn uned
    hunangynhwysol yn ystyriaeth berthnasol e.e. y ffaith bod hen ystafell fyw yn cael ei defnyddio fel ystafell wely, neu hen gegin yn cael ei defnyddio fel ystafell amlbwrpas.

Mae enghreifftiau cyffredin o eiddo sy’n cael eu nodi fel unedau hunangynhwysol, neu sy’n cynnwys unedau hunangynhwysol, yn cynnwys:

  • estyniadau, neu fflatiau ‘nain’, wedi eu cynllunio a’u hadeiladu ar gyfer perthnasau hŷn
  • llety i wardeiniaid mewn lletyai myfyrwyr
  • tai/fflatiau oedd ar wahân gynt ond sydd bellach yn cyd-ffinio ac yn cael eu defnyddio fel un llety
  • hen ystafelloedd i weision mewn tai mawr hŷn

Cwestiynau cyffredin

Mae bandiau ar wahân i unedau hunangynhwysol neu estyniadau yn bwnc cymhleth, sy’n codi nifer o gwestiynau gan ddeiliaid. Dyma rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin, gyda’n hatebion, er mwyn eich helpu i ddeall y goblygiadau i’r dreth gyngor. Yn y rhan fwyaf o gwestiynau rydym wedi defnyddio’r term ‘estyniad’ i fod yn eglur ond gallai’r atebion fod yn gymwys i unrhyw uned hunangynhwysol.

Pam fod mwy nag un band treth gyngor ar fy eiddo?

Bydd gan eich eiddo mwy nag un band am ei fod yn cynnwys mwy nag un uned hunangynhwysol. Efallai bod gennych, er enghraifft, estyniad i’ch cartref. Yn gyfreithiol, caiff pob uned hunangynhwysol ei thrin fel eiddo ar wahân at ddibenion y dreth gyngor ac mae’n rhaid iddi gael ei band ei hun.

Pam fod fy nghartref wedi cael ei fandio’n unigol er nad yw’n ymddangos bod y rheolau sy’n cael eu hegluro yma yn gymwys?

Os ydych yn byw mewn fflat o unrhyw fath gyda rhai cyfleusterau cyffredin nid oes rhaid i’ch cartref fod yn gwbl hunangynhwysol er mwyn i ni bennu band treth gyngor ar wahân iddo. Am ragor o wybodaeth ar fandiau fflatiau o unrhyw fath yn y sefyllfa hon ewch i dudalen y dreth gyngor ar ein gwefan www.voa,gov.uk. a chliciwch ar y ddolen ‘houses in multiple occupation’. Gallwch hefyd gysylltu â’ch Swyddfa Brisio leol.

Sut yr effeithir ar fy nhreth gyngor?

Bydd pob uned hunangynhwysol yn cael bil am dreth gyngor. Gall rhai eithriadau neu ostyngiadau fod yn gymwys, fodd bynnag, yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol. Gall eich cyngor lleol eich cynghori ar hyn a’ch helpu gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol ynglŷn â thaliadau.

Fy nheulu yw unig ddeiliaid yr estyniad. A fydd yn rhaid i mi dalu’r dreth gyngor arno?

Weithiau ceir cyfyngiadau ar ddeiliadaeth, fel y gallai’r estyniad a’r eiddo cyfagos gael eu defnyddio gan un aelwyd yn unig - teulu gan amlaf. Fodd bynnag, o dan ddeddfwriaeth gyfredol rhaid i Asiantaeth y Swyddfa Brisio dybio y gellid gwerthu estyniad hunangynhwysol ar wahân, ar y farchnad rydd, naill ai fel rhydd-ddeiliadaeth neu les hir. Ystyrir effaith unrhyw gyfyngiad y gellir ei orfodi’n gyfreithiol ar werth estyniad pan gaiff ei asesu ar gyfer y dreth gyngor, ond ni fydd yn ei hatal rhag pennu band ar wahân i estyniad.

Bydd perthynas oedrannus yn symud i mewn i’r estyniad. A fydd yn gorfod talu’r dreth gyngor?

Os yw eich perthynas dros 65 oed ac yn hollol ddibynnol yna caiff ei eithrio o dalu cyn belled y gellir dangos mai’r estyniad yw ei brif breswylfa ac eich bod chi, fel y perthynas sy’n gofalu amdano, yn byw ym mhrif ran yr eiddo.

A yw’r estyniad yn cael ei ystyried yn hunangynhwysol os yw fy mherthynas yn byw yn rhannol yn yr estyniad ac yn rhannol yn y prif dŷ?

Ydy, bydd yn cael ei drin fel eiddo ar wahân a bydd ganddo ei fand ei hun. Ystyrir yr adeilad, nid y modd y caiff y llety ei ddefnyddio neu’i rannu.

Beth sy’n digwydd pan gaiff yr estyniad ei adael yn wag?

Os yw’r estyniad yn cael ei adael yn wag bydd iddo fand ar wahân o hyd. Bydd band penodol hyd yn oed os yw wedyn yn cael ei defnyddio ynghyd â’r prif dŷ fel un breswylfa.

Dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol a fydd yn gallu eich cynghori ar yr holl faterion o ran talu, a allai amrywio yn
dibynnu ar eich amgylchiadau penodol.

Hoffwn addasu’r estyniad er mwyn iddo fod yn rhan o’r prif dŷ ac na chaiff ei ystyried yn hunangynhwysol mwyach. Allwch chi helpu?

Ni allwn roi cyngor penodol ar adeilad neu faterion adeileddol. Os oes gennych gynigion neu gynlluniau manwl, fodd bynnag, byddwn yn falch o’u hystyried ac egluro sut y byddant yn effeithio ar fand eich treth gyngor.

Yn gyffredinol iawn, byddwn bob amser yn ystyried bod yr eiddo mewn cyflwr gweddol; felly nid yw tynnu ffitiadau y gellid eu hailosod fel arfer yn golygu nad yw’r eiddo yn hunangynhwysol mwyach. Er enghraifft, os tynnwch bopty,
rhwystro’r pwynt nwy neu dynnu sinc ond cadw’r plymio a’r draeniad, mae’n annhebygol y byddai hyn yn ddigon ar ei ben ei hun i newid statws hunangynhwysol y llety. Rhaid i unrhyw addasiadau fod yn llawer mwy sylweddol a newid cymeriad yr ystafell yn llwyr, fel na ellir ei defnyddio yn ei ffurf wreiddiol mwyach heb fod angen gwaith ailosod sylweddol.

Beth allaf ei wneud os wyf yn anfodlon ar fand treth gyngor fy eiddo?

Os teimlwch nad yw band treth gyngor eich eiddo yn gywir yna dylech gysylltu â’ch Swyddfa Brisio leol. Mae gennych chwe mis o’r dyddiad y gwnaed addasiad i’r eiddo i wneud her ffurfiol i’r cofnod/cofnodion ar y rhestr brisio. Nid oes terfyn amser os dymunwch herio dosbarthiad eich eiddo yn un sy’n cynnwys unedau hunangynhwysol. Os ydych newydd symud i mewn i’r eiddo mae gennych chwe mis o’r dyddiad y symudoch i mewn i wneud her ffurfiol. Gallwch wneud hyn dros y we yn www.voa.gov.uk neu ar ffurflen sydd ar gael gan eich Swyddfa Brisio leol. Hyd yn oed os nad ydych yn gwneud her swyddogol o fewn chwe mis, gallwch ofyn i ni adolygu eich achos yn anffurfiol.

Fodd bynnag, os nad ydych yn bodloni’r amgylchiadau cyfyngedig lle y gall her ffurfiol i’r cofnod rhestr brisio gael
ei gwneud nid oes gennych yr hawl i apelio yn erbyn ein penderfyniad h.y. ni allwch wedyn ofyn i’r Tribiwnlys Prisio
annibynnol ystyried yr achos.

Rhagor o help

Ceir rhagor o wybodaeth am Asiantaeth y Swyddfa Brisio a’r dreth gyngor ar ein gwefan www.voa.gov.uk. Gallwch hefyd gael manylion eich Swyddfa Brisio leol o’r llyfr ffôn.

Adborth

Rydym yn ymrwymedig i wella ein gwasanaethau i gwsmeriaid. Byddwn yn croesawu eich sylwadau ar hyn neu unrhyw un o’r taflenni gwybodaeth rydym yn eu darparu. Anfonwch eich sylwadau at y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid yn y swyddfa leol. Nodwch mai canllaw yn unig yw’r daflen hon nid yw’n egluro’r gyfraith yn llawn. Ni fydd yn trafod amgylchiadau unigol pawb. Dylech gysylltu â’ch Swyddfa Brisio leol os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gadarnhau amgylchiadau achos penodol. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynghylch y dreth gyngor i awdurdod lleol yr ardal lle y lleolir yr eiddo.

Gellir cael y cyfarwyddiadau gweithredol rydym yn eu dilyn wrth ymdrin ag estyniadau yn: www.voa.gov.uk Ewch i’r wefan a dilynwch: Publications - Our Operational Instructions Online - Council Tax Manual - Practice Notes -
Practice Note 5 (Disaggregation of Dwellings).

Nodir y ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu’r rhan hon o’r dreth gyngor yn erthyglau dau a thri Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy) 1992.
Image of a bookcase
Access Keys | Search | Site Map | News | About Us | Privacy Statement | © Crown Copyright | Feedback | Contacts