|
This fact sheet explains why the VOA – the part of
HM Revenue & Customs responsible for assessing
the rateable values of non-domestic properties for
rates – sometimes visits properties. It also tells you what happens during the visit, and what we do with the information gathered.
The rateable value represents the annual rent that a
non-domestic property could be let for on the open
market on a set date. For the current rating lists of all
the rateable values of business properties in England and
Wales, this date is 1 April 2003. This common approach
ensures that every property is treated in the same way
and supports a fair system for everyone.
It is important you understand that the rateable value
of your property is not the amount of rates you pay.
Your local authority calculates your bill by combining
the rateable value and the multiplier, or uniform
business rate, a figure set by central government. After
this is done, any appropriate adjustments can be applied
– these might include small business rate relief, or
transitional relief − to arrive at your rates bill. If you
want to know more about rate relief, contact your local
authority.
When we assess rateable values, a visit to the property
is a normal and necessary part of the process that we might use to help us make sure that your rates bill is
calculated fairly, using accurate information. An accurate
valuation means you can budget more accurately
across the business year and that your cash flow is not
disrupted.
We need current information about properties that
might affect the amount of rent paid for them, for
example the floor area. We may ask for details such as
whether you pay rent, or not, and the terms of your lease. This all helps us to make sure your rateable value is correct.
A visit might be prompted when a property is first built
or first used for non-domestic purposes, or it could
be the result of the local authority informing us that
changes have been carried out to a property. These
changes might include extensions, alterations or change
of use.
On many occasions we will not need to disturb you
at all, as we can get the information we need simply
by looking at the outside of the property. Sometimes
ratepayers have plans of their property and are happy
to share a copy with us, either before or during the
inspection, which reduces the amount of time we need
to spend at the property.
When an internal inspection is necessary, we will usually
try to arrange a convenient appointment in advance.
Our normal inspection times are Monday to Friday
between 9:00am and 4:00pm.
During routine inspections we will measure the floor
area(s) and note the details of the general layout of
the building.
Questions we are likely to ask are:
- The name of the owner
- The amount of annual rent you pay (if applicable)
- When this rent first became payable and,
- The date of the next rent review
Having this information to hand when we visit will be
helpful and means we’ll take up less of your time. If you
don’t have this information then don’t be concerned;
all you need to do is let us have the contact details of
someone who will have access to the information and
we will contact them direct.
When we visit, we often take photographs of the
property. Again this is more efficient for us and for you
as it means our visit can be concluded much quicker.
If you have any questions about our visit please contact
your local Valuation Office. The contact details are listed
in your local telephone directory and in the ‘Where to
Find Us’ section on our website www.voa.gov.uk.
VOA employees always carry and present identity cards
that include a photograph. However, if you have any
doubts you should never allow access to your property
and we urge you to call your local Valuation Office to
check the identity of the representative if you have any
concerns.
Following our visit we may review the rating
assessment, taking into account any new or different
details that have come to light during the inspection.
If the rateable value needs to change we will write to
let you know. We will also notify the local authority,
who will prepare a new rates bill, based on the revised
rateable value and send it to you. If your rateable value
changes you do need to continue to pay your rates
according to your existing bill until you receive a revised bill. If you find that this causes financial hardship you can contact your local authority for advice.
We may find, at a later stage, that we need more detailed information than was available when we visited
you. If so, we will probably send you what is called a
‘Form of return’ or a ‘Request for information’. Even
though we have visited you, it is important that you
complete this form and return it to us within the 56-day
period specified. If not, you will be liable to penalties.
If you have a query about your rateable value contact
your local Valuation Office. You can speak to dedicated
staff who are knowledgeable about assessments for
rates and are well informed about property issues in
your local area.
To find out more about rates go to www.voa.gov.uk and www.businesslink.gov.uk − both official
government websites.
Mae’r daflen ffeithiau hon yn egluro pam fod
Asiantaeth y Swyddfa Brisio - sef y rhan o Gyllid
a Thollau Ei Mawrhydi sy’n gyfrifol am asesu
gwerthoedd ardrethol eiddo annomestig ar gyfer
ardrethi - weithiau yn ymweld ag eiddo. Mae hefyd yn
egluro’r hyn sy’n digwydd yn ystod yr ymweliad a beth
rydym yn ei wneud gyda’r wybodaeth a gesglir.
Gwerth ardrethol yw’r rhent blynyddol y gellir ei
godi am eiddo annomestig ar y farchnad agored ar
ddyddiad penodol. Y dyddiad ar gyfer rhestrau presennol
gwerthoedd ardrethol eiddo busnes yng Nghymru a
Lloegr yw 1 Ebrill 2003. Mae’r ymagwedd gyffredin hon
yn sicrhau y caiff pob eiddo ei drin yn yr un ffordd ac
mae’n sail i system deg i bawb.
Mae’n bwysig eich bod yn deall nad gwerth ardrethol
eich eiddo yw faint yr ydych yn ei dalu ar ffurf ardrethi.
Mae eich awdurdod lleol yn cyfrifo eich bil drwy gyfuno’r
gwerth ardrethol a’r lluosydd, neu’r ardreth fusnes
unffurf, sef ffigur a osodir gan lywodraeth ganolog. Ar
ôl gwneud hyn, gellir rhoi unrhyw addasiadau priodol
ar waith - gallai’r rhain gynnwys rhyddhad ardrethi ar
gyfer busnesau bach, neu ryddhad trosiannol - er mwyn
i’ch bil ardrethi gael ei gyfrifo. Os ydych am gael rhagor
o wybodaeth am ryddhad ardrethi, cysylltwch â’ch
awdurdod lleol.
Pan fyddwn yn asesu gwerthoedd ardrethol, mae
ymweld ag eiddo yn rhan arferol ac angenrheidiol o’r
broses y gallwn ei defnyddio er mwyn ein helpu i sicrhau
y caiff eich bil ardrethi ei gyfrifo’n deg gan ddefnyddio
gwybodaeth gywir. Mae prisiad cywir yn golygu y
gallwch gyllidebu yn fwy cywir drwy gydol y flwyddyn
fusnes ac nad amherir ar lif eich arian.
Mae angen gwybodaeth gyfredol am eiddo arnom a
allai effeithio ar faint o rent a delir amdano, er enghraifft
arwynebedd y llawr. Efallai y byddwn yn gofyn am
fanylion megis a ydych yn talu rhent ai peidio, a
thelerau eich prydles. Mae hyn oll yn ein helpu i sicrhau
bod eich gwerth ardrethol yn gywir.
Efallai y byddwn yn cynnal ymweliad pan gaiff eiddo ei
adeiladu neu ei ddefnyddio am y tro cyntaf at ddibenion
annomestig, neu efallai y byddwn yn ymweld ar ôl i
awdurdod lleol ein hysbysu bod newidiadau wedi’u
gwneud i eiddo. Gallai’r newidiadau hyn gynnwys
estyniadau, addasiadau neu newid defnydd.
Ar sawl achlysur ni fydd angen i ni aflonyddu arnoch o
gwbl, gan y gallwn gael y wybodaeth sydd ei hangen
arnom drwy edrych ar du allan yr eiddo. Weithiau mae
gan dalwyr ardrethi gynlluniau i’w heiddo ac maent yn
fodlon rhannu copi gyda ni, naill ai cyn yr archwiliad
neu ar ei ôl, sy’n lleihau faint o amser sydd angen i ni ei
dreulio yn yr eiddo.
Pan fydd angen cynnal archwiliad mewnol, byddwn fel
arfer yn ceisio trefnu apwyntiad sy’n gyfleus ymlaen
llaw. Mae ein hamseroedd archwilio arferol rhwng Dydd
Llun a Dydd Gwener rhwng 9:00am a 4:00pm.
Yn ystod archwiliadau arferol byddwn yn mesur y
lloriau ac yn nodi manylion am gynllun yr adeilad yn
gyffredinol. O blith yr holl gwestiynau y byddwn yn eu
holi, rydym yn debygol o ofyn am:
- Enw’r perchennog
- Faint o rent yr ydych yn ei dalu yn flynyddol (os yw’n
briodol)
- Pryd y bu angen talu’r rhent am y tro cyntaf a
- Dyddiad yr adolygiad nesaf o’r rhent
Bydd yn ddefnyddiol os yw’r wybodaeth hon wrth law
pan fyddwn yn ymweld ac mae’n golygu na fyddwn yn
cymryd cymaint o’ch amser. Os nad yw’r wybodaeth
hon gennych peidiwch â phoeni; y cwbl sy’n rhaid i
chi ei wneud yw rhoi manylion cyswllt rhywun sydd
â’r wybodaeth honno a byddwn yn cysylltu â hwy yn
uniongyrchol.
Pan fyddwn yn ymweld, byddwn yn aml yn tynnu
lluniau o’r eiddo. Unwaith eto mae hyn yn fwy effeithlon
o lawer i ni ac i chi gan ei bod yn golygu bod modd dod
â’n hymweliad i ben yn gynt o lawer.
Os bydd unrhyw gwestiynau gennych am ein
hymweliad cysylltwch â’ch Swyddfa Brisio leol. Mae’r
manylion cyswllt wedi eu rhestru yn eich cyfeirlyfr ffôn
lleol ac yn adran ‘Where to Find Us’ ein gwefan www.
voa.gov.uk.
Bydd cyflogeion Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cario ac
yn cyflwyno cardiau adnabod cyfredol sy’n cynnwys eu
llun. Fodd bynnag, os bydd unrhyw amheuon gennych
ni ddylech roi mynediad i’ch eiddo ar unrhyw amod a
byddem yn eich annog i ffonio eich Swyddfa Brisio leol
er mwyn cadarnhau pwy yw’r cynrychiolydd os bydd
unrhyw bryderon gennych.
Ar ôl ein hymweliad efallai y byddwn yn adolygu’r
asesiad o’r ardrethi, gan ystyried unrhyw fanylion sy’n
newydd neu sy’n wahanol a allai fod wedi dod i’r amlwg
yn ystod yr archwiliad.
Os bydd angen i’r gwerth ardrethol newid byddwn yn
ysgrifennu atoch er mwyn rhoi gwybod i chi. Byddwn
hefyd yn rhoi gwybod i’r awdurdod lleol a fydd yn
paratoi bil ardrethi newydd, yn seiliedig ar y gwerth
ardrethol diwygiedig a’i anfon atoch. Os bydd eich
gwerth ardrethol yn newid nid oes angen i chi barhau
i dalu eich ardrethi yn unol â’ch eich bil presennol hyd
nes y cewch fil diwygiedig. Os byddwch yn darganfod
bod hyn yn achosi caledi ariannol gallwch gysylltu â’ch
awdurdod lleol am gyngor.
Efallai y byddwn yn canfod yn ddiweddarach, bod angen
gwybodaeth fanylach arnom nag a oedd ar gael yn
ystod yr ymweliad. Os felly, byddwn yn ôl pob tebyg
yn anfon ffurflen atoch a elwir yn ‘Ffurflen dreth’ neu’n
‘Gais am wybodaeth.’ Er ein bod wedi ymweld â chi,
mae’n bwysig eich bod yn cwblhau’r ffurflen hon ac
yn ei dychwelyd atom o fewn y cyfnod o 56 diwrnod a
nodwyd. Os na fyddwch yn gwneud hynny, byddwch yn
agored i ddirwyon.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am eich gwerth
ardrethol cysylltwch â’ch Swyddfa Brisio leol. Gallwch
siarad â staff penodedig sy’n gwybod popeth am
asesiadau ar gyfer ardrethi ac sy’n hyddysg am faterion
yn ymwneud ag eiddo yn eich ardal leol.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am ardrethi ewch i
www. voa.gov.uk a
www.mybusinessrates.gov.uk/wales - mae’r ddwy yn
wefannau swyddogol y llywodraeth.
|