|
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn asesu gwerth ardrethol pob eiddo busnes ac eiddo annomestig yng Nghymru a Lloegr ac mae’n llunio rhestrau ardrethu ohonynt. Mae gwerth ardrethol yn ffactor allweddol wrth gyfrifo atebolrwydd i dalu ardrethi busnes, ac mae’n asesiad proffesiynol o’r rhent blynyddol y byddech yn ei gael am eich eiddo ar ddyddiad prisio penodol.
Bob pum mlynedd mae’r VOA yn cynnal ailbrisiad o’r holl werthoedd ardrethol yng Nghymru a Lloegr er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo. Daeth yr ailbrisio cyfredol i rym ar 1 Ebrill 2005 ac asesir gwerth ardrethol pob eiddo ar ddyddiad prisio, sef 1 Ebrill 2003. Daw’r ailbrisio nesaf i rym ar 1 Ebrill 2010 gyda dyddiad prisio o 1 Ebrill 2008.
Mae’r awdurdod lleol yn defnyddio’r gwerth ardrethol i gyfrifo atebolrwydd i dalu ardrethi busnes.
Gall fod angen ardrethu unrhyw eiddo a ddefnyddir at ddibenion masnachol at ddibenion ardrethi busnes, yn dibynnu ar union natur ei ddefnydd.
Caiff bythynnod gwyliau eu hasesu am werth ardrethol os ydynt ar gael i’w gosod am 140 diwrnod neu fwy ym mhob blwyddyn ariannol.
Os oedd yr eiddo ar gael i’w osod drwy’r flwyddyn ond mae’r gweithredwr yn gwneud penderfyniad ymwybodol i dderbyn archebion am gyfanswm o 139 diwrnod (neu lai) yn unig, yna ni fydd yr eiddo yn destun asesiad ardrethu, ond pennir band treth gyngor iddo.
Lle nad yw’r gweithredwr yn gwneud penderfyniad i gyfyngu ar hyd y cyfnod y caiff archebion eu derbyn ar ei gyfer, bydd yr eiddo’n agored i asesiad ardrethu, p’un a yw’r gosodiadau gwirioneddol methu â mynd y tu hwnt i’r cyfyngiad o 139 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn ai peidio.
Os byddwch yn gosod yr eiddo ar sail hirdymor fel ei fod, er enghraifft, yn dod yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa i rywun, yna ni fydd yn agored i asesiad ardrethu mwyach. Os bydd eisoes wedi’i asesu at ddibenion ardrethu, caiff ei gofnod ei ddileu o’r rhestr ardrethu a chaiff ei ‘fandio’ ar gyfer y dreth gyngor o’r dyddiad y daeth yn eiddo domestig.
Wrth bennu gwerth ardrethol efallai y caiff y rhenti gwirioneddol a delir gan y gweithredwyr eu hystyried, ond anaml y digwydd hyn. Yn ogystal, caiff ffactorau eraill a all effeithio ar werth rhenti eu hystyried, gan gynnwys y math o lety, ei faint, ei leoliad, ei ansawdd a’r potensial o ran incwm.
Nac ydynt. Mae gwerthoedd ardrethol yn ffactor allweddol wrth gyfrifo ardrethi busnes, ond nid ydynt yn filiau ardrethi.
Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am gyfrifo biliau ardrethi gwirioneddol ac am gasglu ardrethi a byddant yn defnyddio’r gwerth ardrethol wrth gyfrifo faint y bydd yn rhaid i chi ei dalu. Bydd yr awdurdod lleol yn gosod ffactor o’r enw’r lluosydd, ar y gwerth ardrethol ac yna’n didynnu unrhyw ryddhad sydd ar gael. Yn Lloegr Cymunedau a Llywodraeth Leol sy’n gosod y lluosydd ac yng Nghymru Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n ei osod.
Pan fyddwn yn asesu gwerth ardrethol eiddo megis siopau, swyddfeydd neu safleoedd diwydiannol, mae digon o dystiolaeth ynglyn â rhenti ar gael i ni wneud cymariaethau. Byddwn yn gwneud asesiadau yn y modd hwn o hyd gydag eiddo hunanarlwyo os yw’n bosibl. Fodd bynnag, yn ymarferol, nid oes llawer o leoliadau lle y ceir digon o dystiolaeth ddibynadwy ynglyn â rhenti i roi sail prisio gadarn o werth a rhaid defnyddio dulliau eraill. Rhaid ystyried derbyniadau gros yn yr achos hwn fel canllaw i’r potensial sydd gan eiddo i gynhyrchu incwm. Yn ei dro, mae hyn yn rhoi sail gadarn i bennu faint y byddai gweithredwr yn ei dalu mewn rhent ar gyfer yr eiddo.
Defnyddir y dull hwn, yr ydym yn cyfeirio ato fel y dull ‘derbyniadau a gwariant’ o brisio, ar dafarndai, bwytai ac eiddo
trwyddedig eraill.
Yn gyffredinol, caiff eiddo ei roi ar y rhestr ardrethu o’r dyddiad y daw ar gael i’w ddefnyddio fel uned hunanarlwyo. Gelwir y dyddiad yn ‘Ddyddiad Gweithredol’.
Rydym yn defnyddio ffurflenni o’r enw ‘Ceisiadau am wybodaeth’. Cynlluniwyd un ohonynt - VO6048 - yn arbennig ar gyfer unedau hunanarlwyo a bythynnod gwyliau. Mae’r ffurflen yn gofyn amryw gwestiynau am y ffordd y mae gweithredwr yn rheoli’r broses o osod yr eiddo dan sylw. Mae’r atebion i’r cwestiynau hyn yn sicrhau ein bod yn ystyried gwahaniaethau o ran tariffau, marchnata, lefelau gwasanaeth, neu ansawdd y dodrefn a’r ddarpariaeth o
eitemau nad ydynt yn ardrethol wrth asesu gwerth ardrethol.
Ein nod yw pennu:
• y derbyniadau posibl o’r eiddo, os caiff ei osod fel busnes ar gyfer hunanarlwyo gan berchennog gweddol gymwys;
• y costau sy’n debygol o godi wrth osod yr eiddo. At ddibenion ardrethu, rhaid i ni dybio nad yw perchennog y busnes yn meddu ar yr eiddo ond yn hytrach yn ei rentu gan landlord, gan mai diben y broses yw asesu gwerth rhenti’r eiddo; a
• y balans rhwng y derbyniadau a’r costau. Rydym yn ystyried yr elw y gallai perchennog y busnes ei ddisgwyl o redeg y busnes a’r swm sydd ar gael i dalu rhent am yr eiddo.
Os oes gennych reswm dros gredu bod y gwerth ardrethol a roddwyd i’ch eiddo yn anghywir, dylech gysylltu â’ch Swyddfa Brisio leol. Bydd staff ar gael i ymdrin â’ch ymholiad ac ymateb i’ch cwestiynau.
Ar ôl siarad â ni, os byddwch o’r farn bod eich gwerth ardrethol yn anghywir o hyd, gallwch wneud apêl ffurfiol. Gallwch apelio yn erbyn y gwerth ardrethol a’r dyddiad gweithredol. Gelwir y broses apelio yn ‘gais’ i newid y rhestr ardrethu.
Gallwch wneud apêl unigol yn erbyn y gwerth ardrethol neu’r dyddiad gweithredol yn ystod ‘oes’ y rhestr ardrethu. Mae pob rhestr ardrethu yn para am bum mlynedd; mae’r rhestr gyfredol yn rhedeg o 1 Ebrill 2005 i 31 Mawrth 2010.
Os bydd newid perthnasol yn yr amgylchiadau sy’n effeithio ar yr eiddo neu ei leoliad, ar unrhyw adeg, mae gennych hawl i wneud apêl bellach yn erbyn yr asesiad newydd.
Gallwch gwblhau ffurflen gais ar-lein yn www.voa.gov.uk neu gallwch gael ffurflen gan eich Swyddfa Brisio leol.
Canllawiau yn unig yw’r wybodaeth a ddarperir yn y daflen ffeithiau hon ac nid yw’n cwmpasu pob amgylchiad penodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yn www.voa.gov.uk neu gallwch gysylltu â’ch Swyddfa Brisio leol.
Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau am dalu’r ardrethi eu hunain i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r eiddo.
Ysgrifennwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2008, gan roi ystyriaeth i’r ddeddfwriaeth bresennol. |