VOA logo
 Valuation Office Agency homepage  Council Tax homepage Business Rates homepage District Valuer Services homepage Media Centre homepage  Recruitment homepage  Publications homepage  How to find us homepage  
Publications - Fact Sheets - A basic guide to the rating of guest houses and bed & breakfast accommodation

Download a printable PDF version of this fact sheet

Beth yw gwerth trethadwy?

  • Mae gan bob eiddo annomestig werth trethadwy, ac eithrio’r eiddo hynny sydd wedi’u heithrio o’r drefn talu trethi.

Yn fras, mae’r gwerth trethadwy yn cynrychioli’r rhent blynyddol y gellid fod wedi gosod yr eiddo ar y farchnad agored ar ddyddiad penodol, yn unol ag amodau trwsio ac yswirio llawn. Ar gyfer y rhestr ardrethu bresennol, nodwyd mai 1 Ebrill 2003 yw’r dyddiad hwn.

Pa ffactorau gellir eu hystyried wrth bennu’r gwerth trethadwy?

Wrth bennu’r gwerth trethadwy, gellir ystyried y rhent go iawn a delir gan weithredwyr. Yn ogystal, gellir ystyried ffactorau eraill hefyd megis:

  • Nifer yr ystafelloedd gwely, os ydynt yn rhai sengl, dwbl neu deuluol, sylfaenol neu gydag ystafell ymolchi yn gysylltiedig
  • Lleoliad ac ansawdd y llety
  • Presenoldeb cyfleusterau bwyty i’r rhai nad ydynt yn breswylwyr

Pryd mae eiddo Gwely a Brecwast yn eiddo domestig?

Bydd yr eiddo yn eiddo domestig ac felly, bydd angen talu treth gyngor ar ei gyfer yn hytrach na threthi busnes os:

  • Nad ydych yn bwriadu cynnig llety am gyfnod byr ar gyfer mwy na chwech unigolyn ar yr un pryd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn i ddod ac
  • Os mai’r eiddo yw’ch unig preswylfa neu’ch prif breswylfa ac mae’r defnydd gwely a brecwast yn atodol i’r defnydd preifat

Pa ffactorau a ystyrir wrth ddefnyddio’r ‘prawf defnydd atodol’?

Diben y ‘prawf defnydd atodol’ yw sicrhau, gymaint ag y bo modd, er na fydd darparu llety cyfyngedig am gyfnod byr mewn cartref rhywun yn cael ei asesu ar gyfer trethi, ni fydd yr eithriad hwn yn ymestyn i’r rhai y mae gwely a brecwast yn fenter busnes sylweddol iddynt.

1. Llety a ddefnyddir

Dyma gyfanswm yr eiddo a ddefnyddir ar gyfer Gwely a Brecwast ar unrhyw adeg; os defnyddir hanner y t þ neu fwy at gyfer gwesteion ar unrhyw adeg, mae’n debygol y codir trethi ar yr eiddo hwnnw.

2. Addasu eiddo

Os bydd addasiadau a wneir yn benodol er lles gwesteion yn newid cymeriad yr eiddo y tu hwnt i gymeriad t þ preifat, ni all y defnydd fel lle Gwely a Brecwast fod yn atodol ac mae’n debygol y codir treth ar yr eiddo.

Enghraifft: Gosod basnau ymolchi, ystafelloedd ymolchi neu gyfleusterau ystafelloedd ymolchi ychwanegol sy’n gysylltiedig ag ystafelloedd, rhagofalon tân megis drysau tân, larymau tân a diffoddwyr tân.

3. Natur y defnydd

Ystyrir ffactorau megis a yw’r eiddo ar agor trwy gydol y flwyddyn, a yw’n cynnig prydau gyda’r nos neu a oes ganddo drwydded, wrth benderfynu a yw’n ddefnydd atodol.

A yw fy ngwerth trethadwy yr un fath â’r trethi y byddaf yn eu talu?

Na. Mae gwerthoedd trethadwy yn ffactor allweddol wrth gyfrifo trethi busnes ond nid ydynt yn cyfateb â’r bil trethi. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am gyfrifo biliau trethi go iawn ac am gasglu trethi a byddant yn defnyddio’r gwerth trethadwy wrth gyfrifo faint fydd yn rhaid i chi ei dalu . Bydd yr awdurdod lleol yn defnyddio’r lluoswr (cyfradd yn y bunt) ar gyfer y gwerth trethadwy ac yna, bydd yn tynnu unrhyw ostyngiadau perthnasol. Yn Lloger mae’r lluoswr yn cael ei benni gan Adran ar gyfer Cymunedau a Llywodraeth Leol ac yng Nghymru, pennir y lluoswr gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC). Bydd yr awdurdod lleol yn cyfrifo unrhyw addasiad dros dro hefyd. Mae’r addasiad dros dro yn cyfyngu’r swm y bydd eich bil trethi yn newid yn dilyn ymarfer ailbrisio. Nid oes addasiad dros dro yng Nghymru.

O ba ddyddiad y bydd yr eiddo Gwely a Brecwast yn cael ei ardrethu?

Yn gyffredinol, bydd eiddo yn cael ei nodi ar y rhestr ardrethu o’r dyddiad yr oedd ar gael i’w ddefnyddio yn gyntaf fel lle Gwely a Brecwast. Gelwir y dyddiad y ‘Dyddiad Effeithiol’.

A oes modd i mi apelio yn erbyn yr asesiad ardrethu?

Oes. Gallwch apelio yn erbyn y gwerth trethadwy a’r Dyddiad Effeithiol – gelwir hwn yn ‘gynnig’ i addasu’r rhestr ardrethu.

Os ydych wedi cael cofnod yn rhestr ardrethu 2005 er 1 Ebrill 2005, gallwch wneud un apêl yn erbyn y cofnod gwreiddiol yn y rhestr hon ar unrhyw adeg tan 31 Mawrth 2010. Os yw’n gofnod newydd ar y rhestr ardrethu, neu os addaswyd y cofnod er 1 Ebrill 2005, byddwch yn cael hysbysiad gan y Swyddog Prisio, a bydd modd i chi wneud un apêl yn ei gylch.

Os ceir unrhyw newid materol mewn amgylchiadau sy’n effeithio ar yr eiddo neu ei leoliad ffisegol ar unrhyw adeg, mae gennych yr hawl i wneud apêl bellach.

Gellir gwneud cynigion sy’n ymateb i newid rhestr neu gofnod newydd yn rhestr 2005 hyd at 31 Mawrth 2010. Gall Dyddiad Effeithiol addasiad i’r rhestr ardrethu mewn ymateb i apêl gan drethdalwr fod yn rhwym i gyfyngiadau penodol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’ch Swyddfa Brisio leol.

Gallwch gael ffurflen gynnig gan eich Swyddfa Brisio leol neu gallwch wneud apêl ar-lein ar ein gwefan sef:

www.voa.gov.uk

Sylwer mai diben y wybodaeth hon yw rhoi arweiniad yn unig ac efallai nad yw’n cynnwys yr holl amgylchiadau penodol. Os bydd gennych unrhyw ymholiad, a fyddech gystal â chysylltu â’ch Swyddfa Brisio leol. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynghylch talu trethi i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r eiddo ynddo. Ysgrifennwyd y daflen hon ym mis Gorffennaf 2005 gan ystyried y ddeddfwriaeth bresennol.

Image of a bookcase
Accessibility | Search | Site Map | News | About Us | Privacy Statement | © Crown Copyright | Feedback | Contacts