VOA logo
 Valuation Office Agency homepage  Council Tax homepage Business Rates homepage District Valuer Services homepage Media Centre homepage  Recruitment homepage  Publications homepage  Where to find us homepage  
Publications - Fact Sheets - Business Rates An Introduction
Trethi busnes - Cyflwyniad Download a printable PDF
version of this fact shee
t

Mae trethi annomestig yn ffordd i fusnesau a deiliaid eraill eiddo annomestig wneud cyfraniad anuniongyrchol tuag at gostau’r gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol.

Mae’r daflen hon yn rhoi cyflwyniad i rai o’r materion a allai effeithio arnoch os ydych yn gyfrifol am e

iddo annomestig (busnes). Mae hyn yn cynnwys eiddo sy’n cynnwys sefydliadau nad eu diben yw gwneud elw. Telir yr incwm o’r holl drethi annomestig i gronfa genedlaethol ac fe’i hailddosbarthir rhwng awdurdodau lleol yn unol â’u poblogaeth oedolion. Telir treth gyngor ar gyfer eiddo domestig.

Ceir rhagor o wybodaeth am drethi busnes yn www.mybusinessrates.gov.uk/wales – y maent ill dau yn wefannau gan y llywodraeth.

Mae pedwar sefydliad allweddol yn delio â chyllid llywodraeth leol ac mae gan bob un gyfrifoldeb ar wahân. Mae’r rhain fel a ganlyn:

Cymunedau a Llywodraeth Leol (CLG) / Gynulliad Cenedlaethol Cymru :

yn gyfrifol am bennu polisi cyffredinol y llywodraeth ynghylch trethu lleol

Asiantaeth y Swyddfa Brisio : asiantaeth weithredol Cyllid a Thollau EM sy’n gyfrifol am asesu gwerthoedd trethadwy sy’n sail ar gyfer cyfrifo biliau trethi

Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio : corff barnwrol annibynnol sydd â’r grym i ddelio ag apeliadau ynghylch ardrethu annomestig (a threth gyngor).

Awdurdodau (bilio) Lleol : sy’n gyfrifol am gyfrifo'ch bil trethi, gan roi unrhyw ostyngiadau priodol a chasglu’r arian.

Pwy sy'n talu Trethi Busnes?

Fel arfer, telir trethi gan ddeiliaid eiddo busnes. Fel arfer, y perchnogion fydd y rhain os ydynt yn ddeiliaid yr eiddo, neu’r prydleswr.

Os bydd eiddo yn wag, bydd y perchennog neu’r lesddeiliad yn parhau i dalu cyfraddau ar ôl i gyfnod eithrio ddod i ben fel arfer. Mae'r cyfnod eithrio yn cwmpasu'r tri mis cyntaf y bydd yr eiddo yn wag. O ran warysau ac eiddo diwydiannol, caiff y cyfnod eithrio ei ymestyn i chwe mis.

Ein gwaith

Mae gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ddyletswydd gyfreithiol i baratoi rhestrau ardrethu lleol sy’n cynnwys gwerthoedd trethadwy ar gyfer pob eiddo annomestig yng Nghymru a Lloegr bob pum mlynedd. Yna, mae gennym ddyletswydd i gynnal y rhestrau nes yr ymarfer ailbrisio nesaf. Daeth y rhestrau diweddaraf i rym ar 1 Ebrill 2005.

Beth yw gwerth trethadwy?

Ac eithrio’r eiddo hynny nad oes angen iddynt dalu trethi, mae gan bob eiddo annomestig werth trethadwy. Yn fras, mae’r gwerth trethadwy yn cynrychioli’r rhent blynyddol y gellid fod wedi gosod yr eiddo ar y farchnad agored ar ddyddiad penodol, yn unol ag amodau trwsio ac yswirio llawn. Ar gyfer y rhestr ardrethu bresennol, nodwyd mai 1 Ebrill 2003 yw’r dyddiad hwn.

Pam nad yw fy ngwerth trethadwy yn debyg i’r rhent a dalaf?

Y gwerth trethadwy yw’n hasesiad o’r gwerth rhentu ar ddyddiad prisio penodol ac mae’n rhwym i dybiaethau prisio penodol a bennwyd gan y Senedd. Gallai fod yn wahanol i’r rhent a dalwch mewn gwirionedd am nifer o resymau, er enghraifft, cytunwyd ar eich rhent chi ar adeg gwahanol.

Pam bod y dyddiad prisio yn ddyddiad sefydlog?

Caiff y dyddiad prisio ei osod er mwyn sicrhau bod pob eiddo yn cael ei brisio ar yr un adeg. Mae hyn yn helpu i sicrhau tegwch i bawb.

A yw fy ngwerth trethadwy yr un fath â’r trethi y byddaf yn eu talu?

Na. Mae gwerthoedd trethadwy yn ffactor allweddol wrth gyfrifo trethi busnes ond nid ydynt yn cyfateb â’r bil trethi. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am gyfrifo biliau trethi go iawn ac am gasglu trethi a byddant yn defnyddio’r gwerth trethadwy wrth gyfrifo faint bydd yn rhaid i chi ei dalu. Bydd yr awdurdod lleol yn defnyddio’r lluoswr (cyfradd yn y bunt) a bennir gan Cymunedau a Llywodraeth Leol (CLG) ar gyfer y gwerth trethadwy ac yna, bydd yn tynnu unrhyw ostyngiadau perthnasol. Yng Nghymru, pennir y lluoswr gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC) . Yn syml, cyfrifir eich bil trethi fel a ganlyn: (gwerth trethadwy x lluoswr) yn llai unrhyw ostyngiadau = bil trethi.

Ar gyfer 2008/2009 mae'r lluoswr busnes =

Lloegr - 46.2c yn y bunt

Busnesau bach yn Lloegr* - 45.8c yn y bunt

Holl fusnesau yng Nghymru - 46.6c yn y bunt

(*Yn Lloegr busnes bach = un lle mae'r cyfanswm gwerth trethadwy yn llai na £15,000 [dan £21,500 yn Llundain.] Gallai rhai busnesau fanteisio ar ostyngiadau busnes bach, sy'n gallu effeithio ar gyfanswm y trethi a dalwch. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol am wybodaeth ac er mewn cofrestru.)

Enghraifft:

Byddai eiddo sydd â gwerth trethadwy o £22000 yn Lloegr yn::

£22000 x 0.462 = £10,164 yn llai unrhyw ostyngiadau perthnasol

Yng Nghymru, byddai hwn yn £22000 x 0.466 = £10,252 yn llai unrhyw ostyngiadau perthnasol.

Bydd yr awdurdod lleol yn cyfrifo unrhyw addasiad dros dro hefyd. Mae’r addasiad dros dro yn cyfyngu’r swm y bydd eich bil trethi yn newid yn dilyn ymarfer ailbrisio.

Mae gennyf ddiddordeb mewn symud i eiddo newydd - a oes modd i mi ddarganfod beth fydd cyfanswm tebygol fy mil trethi cyn i mi symud i mewn?

Gallwch gael gwybodaeth am werth ardrethol unrhyw safle busnes mewn awdurdod lleol o restr ardrethu'r VOA. Dogfen gyhoeddus yw hon a gellir ei gweld hefyd yn ein swyddfeydd, swyddfeydd awdurdodau lleol a llyfrgelloedd. Gallai’r eiddo yr ydych yn bwriadu symud iddo fod yn manteisio ar ostyngiad dros dro neu ostyngiadau eraill. Gallwch bennu eich atebolrwydd trethi trwy gysylltu ag adran gyllid yr awdurdod lleol neu thrwy ofyn i’ch cyfreithiwr wneud ymholiadau.

Beth os yw’n adeilad newydd?

Os yw’r eiddo yr ydych yn bwriadu ei ddefnyddio heb gael ei gwblhau eto neu os yw newydd gael ei adeiladu, efallai nad yw wedi cael ei asesu at ddibenion ardrethu eto ac ni fydd cofnod ar ei gyfer yn y rhestr ardrethu. Gallwch ysgrifennu at eich Swyddfa Brisio leol a gofyn am amcangyfrif o’r gwerth trethadwy. Dylech roi manylion ynghylch y cyfeiriad, math yr eiddo, y mesuriadau mewnol ac unrhyw wybodaeth ynghylch y rhent yr ydych wedi cytuno ei dalu. Yna, bydd y Swyddog Prisio yn ceisio rhoi amcangyfrif i chi. Neu, efallai y byddwch yn dymuno cysylltu ag ymgynghorydd annibynnol.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn defnyddio rhan o’m t þ at ddibenion busnes?

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar gyfran eich eiddo a ddefnyddir at ddibenion busnes. Mae rhagor o wybodaeth am y pwnc hwn ar gael.

A oes modd i mi apelio yn erbyn yr asesiad ardrethu os byddaf o’r farn ei fod yn anghywir?

Gallwch apelio yn erbyn eich gwerth trethadwy ar ôl i chi ddod yn berchennog neu’n ddeiliad yr eiddo – gelwir hwn yn wneud ‘cynnig’ i addasu’r rhestr ardrethu. Gallwch gael ffurflen gynnig o'ch Swyddfa Brisio leol neu gallwch wneud apêl ar-lein. Os byddwch yn penderfynu gwneud cynnig, byddwn yn ysgrifennu atoch i’ch hysbysu ynghylch pryd y disgwyliwn gychwyn ar y trafodaethau ynghylch eich apêl. Os na allwn gytuno ar y mater ein hunain, gall Tribiwnlys Prisio annibynnol wrando ar eich apêl. Gofynnwch am gopi o’n canllaw ynghylch y gwasanaeth hwnnw.

Mae’n bwysig nodi bod yn rhaid i chi dalu trethi wedi’u seilio ar y gwerth trethadwy a nodir yn y rhestr ardrethu hyd yn oed os byddwch wedi apelio yn ei erbyn.

Image of a bookcase
Access Keys | Search | Site Map | News | About Us | Privacy Statement | © Crown Copyright | Feedback | Contacts