| pwrpas
y llyfryn hwn
Mae'r llyfryn hwn yn egluro'r gwaith gyflawnir gan Asiantaeth y
Swyddfa Brisio ar gyfer Cyllid y Wlad parthed Treth Enillion Cyfalaf
a Threth Etifeddiant ac mae'n amlinellu'r safonau y ceisiwn eu cyrraedd.
Mae'n safonau gwasanaeth yn cymryd i ystyriaeth safbwyntiau 3163
o'n cwsmeriaid gymerodd ran yn ein harolygon diweddaraf gyflawnwyd
ar ddiwedd 1997 a 1998/99.
Mae'r llyfryn hwn ar gael yn ogystal mewn print bras, yn Braille,
ar dâp clywedol ac ar fideo gydag iaith arwyddion. Mae fersiwn
cyfrwng Cymraeg ar gael ymhob un o'n swyddfeydd yng Nghymru
cyflwyno Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth weithredol Cyllid y Wlad yw Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Rydym yn gyfrifol am
- brisiadau tir ac eiddo ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf a Threth
Etifeddiant
- asesiadau trethu pob eiddo an-nomestig yn Lloegr a Chymru
- fandiau treth y cyngor yn Lloegr a Chymru
- benderfyniadau Hawl i Brynu yn Lloegr, Cymru a'r Alban
Rydym yn ogystal yn cyflawni prisiadau ar gyfer adrannau eraill
y llywodraeth a rhai awdurdodau lleol.
Mae llyfrynnau ar gael ymhob un o'n swyddfeydd yn egluro'r meysydd
hyn o waith a safonau'r gwasanaeth a ddarperir. Rhestrir ein swyddfeydd
yn y cyfeiriadur ffôn o dan "Asiantaeth y Swyddfa Brisio".
Fel y caiff cyfeiriaduron eu diweddaru, bydd y cofnodion yn ymddangos
o dan 'Swyddfa Brisio' ar gyfer Lloegr a Chymru a 'Prisiwr Ardal'
ar gyfer yr Alban.
Gellir cael gwybodaeth bellach ynghylch Asiantaeth y Swyddfa Brisio
ar ein Safwe: www.voa.gov.uk
Mae'r llyfryn hwn am dreth enillion cyfalaf a threth etifeddiant.
Rydym yn darparu dau fath o wasanaeth prisio ar gyfer Cyllid y
Wlad.
1 Gallwn amcangyfrif y gwerth yn seiliedig ar gofnodion ein swyddfa
heb edrych ar yr eiddo na dod i gysylltiad â chi. Mae hyn
o gymorth i Gyllid y Wlad benderfynu a yw treth yn ddyledus neu
beidio, ac a oes angen prisiad pellach.
2 Gallwn wneud prisiad pendant a'i gytuno gyda chi. Bydd yn rhaid
i ni edrych ar yr eiddo a siarad â chi (neu â'ch asiant)
i'n cynorthwyo i wneud hyn.
ein hymrwymiad i chi
Rydym yn credu ei bod ym bwysig cwrdd â'ch anghenion. Gwnawn
hyn drwy
- roddi i chi y gwasanaeth gorau posib
- ddarparu cyngor defnyddiol a di-duedd
- eich cynorthwyo i ddeall eich hawliau a'ch rhwymedigaethau
- drin pawb yn deg drwy brisio pob eiddo yn ddi-duedd
- gadw gwybodaeth am eich busnes yn gyfrinachol o fewn Cyllid y
Wlad
- ddarparu gwasanaeth effeithiol sy'n werth yr arian
Byddwn
pan ofynnir i ni gan Gyllid y Wlad am brisiad amcangyfrifedig
- yn ei roi iddynt o fewn 30 niwrnod gwaith
pan ofynnir i ni gytuno prisiad gyda chi
- yn cysylltu â chi o fewn 20 niwrnod gwaith o dderbyn cyfarwyddiadau
o Gyllid y Wlad er mwyn trefnu amser cyfleus i edrych ar yr eiddo
- yn brydlon wrth gadw'n hapwyntiad. Gellwch ein helpu drwy roi
gwybod i ni ymlaen llaw os na fyddwch yn gallu cadw'r apwyntiad
- yn cario cardiau hunaniaeth
- yn dweud wrthych ein prisiad ac yn gofyn a ydych yn cytuno. Os
nad ydych byddwn yn gofyn i chi am unrhyw wybodaeth ychwanegol rydych
chi yn meddwl y dylid ei hystyried.
- yn ceisio cytuno'r prisiad gyda chi neu gyda'ch asiantiaid o
fewn 6 mis. Os nad ydym yn gallu cytuno gyda chi byddwn yn rhoi'r
prisiad i Gyllid y Wlad ac yn dweud wrthynt na fu cytundeb. Byddwn
yn dweud wrthych chi ar yr un pryd. Bydd Cyllid y Wlad yn dweud
wrthych beth fydd yn digwydd nesaf.
os dowch i'n gweld yn ein swyddfa
- cewch eich gweld o fewn 5 munud pan ddowch atom i'r swyddfa leol
sy'n ymdrin â'ch materion
- byddwn yn gwisgo bathodynnau â'n henwau arnynt
- amcanwn ateb eich cwestiynau'n llawn. Os na allwn wneud hyn byddwn
yn trefnu'ch ffonio, neu ysgrifennu atoch, os mai hynny fydd orau
gennych, pan fyddwn wedi dod o hyd i'r holl ffeithiau
- mae derbynfeydd ein swyddfeydd ar agor o 9.00 y bore tan 4.00
y prynhawn o ddydd Llun tan ddydd Gwener.
Os rhowch alwad ffôn i ni
- bydd ein staff profiadol yn ateb eich ymholiadau ffôn yn
brydlon ac yn foesgar
- amcanwn ateb eich galwadau ffôn at ei gilydd o fewn cyfartaledd
o 10 eiliad
- pan fyddwn yn ateb y ffôn byddwn yn rhoi'n enw i chi
- amcanwn ateb eich cwestiynau ar unwaith. Os na allwn wneud hynny,
addawn eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun all wneud, neu drefnu
dychwelyd eich galwad o fewn 48 awr. Neu os yw'n well gennych, fe
ysgrifennwn atoch
os ysgrifennwch chi atom ni
- amcanwn ysgrifennu a chydnabod eich llythyr o fewn 5 niwrnod
gwaith i'w dderbyn
- amcanwn ateb eich holl gwestiynau mewn iaith glir ddealladwy
o fewn 15 niwrnod gwaith. Disgwyliwn wireddu hyn am bob 90% o lythyron
a dderbyniwn ac o fewn 5 niwrnod pellach ar gyfer y 10% sy'n weddill.
Os nad yw'r holl ffeithiau gennym gallai fod oedi weithiau. Byddwn
yn ysgrifennu atoch ac yn dweud wrthych os digwydd hynny.
- Gellwch ein helpu ni drwy
- roi atebion cywir a llawn i'n cwestiynau a dweud wrthym sut y
gallwn fod o gymorth pellach i chi.
- byddwn yn gwirio i weld a ydym yn cwrdd â'n hamcanion ac
yn eich hysbysu o'n casgliadau yn ein Hadroddiad Blynyddol
os nad Saesneg yw'ch mamiaith
Cymraeg - Rydym wedi ymrwymo i bolisi dwyieithog.
Mae gennym staff sy'n siarad Cymraeg bron ymhob un o'n swyddfeydd
yng Nghymru. Gallwn ysgrifennu atoch yn y Gymraeg os mai dyna fyddai
orau gennych. Cynhyrchwn nifer o lyfrynnau a ffurflenni yn y ddwy
iaith.
Ieithoedd eraill - Os ysgrifennwch atom yn yr
iaith sydd orau gennych fe atebwn yn yr un iaith; os byddwch yn
dymuno siarad â ni, byddwn yn trefnu bod cyfieithydd wrth
law drwy gyfrwng cyswllt ffôn. Ar y llaw arall, fe ellwch
chi ein helpu ni os oes gennych ffrind all weithredu fel cyfieithydd.
os oes gennych anghenion arbennig
Mae gan rai pobl anghenion arbennig. Rydym yn gwbl ymrwymedig i
helpu'n holl gwsmeriaid ac rydym wedi cyflwyno'r adnoddau canlynol.
Os oes gennych ddiffyg clyw, os gwelwch yn dda, dywedwch wrthym,
fel y gallwn wneud trefniadau fydd yn fwyaf addas ar gyfer eich
anghenion penodol chi. Mae gwasanaeth minicom ar gael - Gwasanaeth
Minicom Ledled y Wlad: 0207 506 1809. Am ein bod yn ogystal yn defnyddio
hwn fel ffôn llais, gwnewch yn siwr eich bod yn defnyddio'ch
cyhoeddwr llais.
Os oes gennych ddiffyg golwg, fe ddarparwn wybodaeth ac fe gyfathrebwn
â chi mewn diwyg y byddwch yn gallu ei ddefnyddio. Rydym yn
hapus i siarad â chi ar y ffôn neu fe allwn drefnu ymweld
â chi yn eich cartref. Os bydd yn ofynnol i ni ysgrifennu
atoch gallwn wneud hynny mewn print bras neu Braille neu fe allwn
gynnwys copi o'r llythyr ar dâp clyweled. Os rhowch wybod
i ni beth fydd orau gennych fe fyddwn yn cyfathrebu â chi
yn y modd hwnnw.
Os bydd yn well gennych i ni ymweld â chi gartref am fod
gennych anghenion arbennig, os gwelwch yn dda, rhowch wybod i ni.
ymgynghori â'n cwsmeriaid
Rydym yn credu ei bod yn bwysig gofyn i chi am safon y gwasanaeth
a ddarparwn a'r math o welliannau y byddech yn eu dymuno. Cyflawnwn
arolygon bodlonrwydd cwsmeriaid yn rheolaidd, ac astudiwn a gweithredwn
ar y wybodaeth a dderbyniwn. Yn ychwanegol rydym yn cwrdd â
grwpiau o gwsmeriaid i roi gwybodaeth iddynt a darganfod yr hyn
maent yn ei ddymuno fel y gallwn wella'n gwasanaeth.
ein perfformiad
Rydym yn cyhoeddi'n perfformiad yn erbyn ein prif dargedau bob
blwyddyn yn Adroddiad Blynyddol yr Asiantaeth. Byddwn yn hapus i
roi i chi gopi o'n casgliadau diweddaraf. Gellwch gael y rhain drwy
gysylltu ag unrhyw swyddfa leol.
beth os â pethau o chwith?
Rydym yn croesawu'ch sylwadau a'ch achwyniadau am eu bod yn darparu
adborth gwerthfawr ar y gwasanaeth a ddarparwyd gennym. Rydym yn
awyddus i unioni sefyllfaoedd os aethant o chwith a dysgu'r gwersi
oddi wrthynt.
Os oes gennych achwyniad ynghylch y gwasanaeth a ddarparwyd gennym
dylech ysgrifennu at Swyddog Prisio'r Gr@p yn y swyddfa berthnasol
fydd yn ymchwilio i'r mater. Byddwn yn gwneud ein gorau i unioni'r
sefyllfa os ydym wedi gwneud camgymeriad. Byddwn yn cydnabod ac
yn ceisio ymdrin â'ch achwyniadau o fewn 5 niwrnod. Os oes
angen i ni gyflawni ymchwil pellach rhown wybod i chi a cheisiwn
gwblhau hyn o fewn 20 niwrnod gwaith.
Os nad ydych yn dal yn hapus gellwch ysgrifennu at
Y Prif Weithredwr
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
New Court
Carey Street
London WC2A 2JE
Rhif ffôn 020 7506 1801
Rhif ffacs 020 7506 1996
Gellwch anfon achwyniadau ac awgrymiadau ato drwy ebost os oes yn
well gennych ar custserv.voa@ gtnet.gov.uk
Os nad ydych yn fodlon ar ôl i chi gael ateb oddi wrth swyddfa'r
Prif Weithredwr gellwch ofyn i ddyfarnwr di-duedd edrych ar y mater
ac argymell camau priodol. Mae gwasanaeth y Dyfarnwr yn rhad ac
am ddim. Dylech gysylltu â
Y Dyfarnwr
Haymarket House
28 Haymarket
London SW1Y 4SP
Rhif Ffôn. 020 7930 2292
Fax No. 020 7930 2298
E-bost: adjudicators@gtnet.gov.uk
Safwe: www.open.gov.uk./adjoff/aodemo1.htm
Hefyd, os nad ydych yn fodlon â chanlyniad eich achwyniad
neu â'r modd y trafodwyd ef (gyda ni'n hunain, neu'r Dyfarnwr)
gellwch ofyn i Aelod Seneddol gyfeirio'ch achwyniad at yr Ombwdsman
Seneddol.
Bydd yr Ombwdsman yn derbyn atgyfeiriad oddi wrth unrhyw AS ond
dylech gysylltu ag AS eich etholaeth yn gyntaf.
Am wybodaeth bellach cysyllter â:
Yr Ombwdsman Seneddol
Millbank Tower
Millbank
London SW1P 4QP
Llinell gymorth 0845 015 4033
Rhif Ffacs. 020 7217 4160
E-bost: opca-enqu@ombudsman.org.uk
neu ymwelwch â Safwe'r Ombwdsman Seneddol
(www.ombudsman.org.uk) sy'n cynnwys mwy o wybodaeth ac arweiniad
Mae llyfryn "Unioni'r Sefyllfa" ar gael yn rhad ac am
ddim yn ein holl swyddfeydd. Eglura'n hymrwymiad i unioni sefyllfa,
ein safonau wrth drafod achwyniadau a phryd byddwn yn gwneud taliad
i chi.
eich safbwyntiau
Rydym yn croesawu'ch safbwyntiau ar y nodau rydym wedi eu hamlinellu
yn y Siarter ac ar y gwasanaeth a ddarparwn. I wneud hyn cysylltwch,
os gwelwch yn dda, â Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid yn un
o'n swyddfeydd neu â
Phennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid
Swyddfa'r Prif Weithredwr
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
New Court
Carey Street
London WC2A 2JE
Rhif ffôn. 020 7506 1801
Rhif ffacs. 020 7506 1996
E-bost custserv.voa@ gtnet.gov.uk
|