VOA logo
 Valuation Office Agency homepage  Council Tax homepage Business Rates homepage District Valuer Services homepage Media Centre homepage  Recruitment homepage  Publications homepage  Where to find us homepage  
Publications > Customer Service charters > Asiantaeth weithredol Cyllid y Wlad yw Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

hawl i brynu a phrynu gorfodol, siarter y VOA

Diben y llyfryn hwn

Cyflwyno Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Pryniant gorfodol

Yr hawl i brynu

Ein hymrwymiad i chi

Pan ymwelwn â’ch eiddo

Os galwch i’n gweld ni yn ein swyddfa

Os rhowch alwad ffôn i ni

Os ysgrifennwch atom ni

Os nad Saesneg yw’ch iaith gyntaf

Os oes gennych anghenion arbennig

Ymgynghori â’n cwsmeriaid

Ein perfformiad

Beth os â pethau o chwith?

Os ydych yn dal yn anhapus gallech ysgrifennu at

Diben y llyfryn hwn
Mae’r llyfryn hwn yn egluro’r gwaith gyflawnir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar gyfer prisiadau dan yr ‚Hawl i Brynu’ a’r ‚Hawl i Gaffael’ a’r gwaith wnawn ni ar gyfer adrannau’r llywodraeth ac awdurdodau lleol. Mae’n amlinellu’r safonau y ceisiwn eu cyrraedd. Mae safonau ein gwasanaeth yn cymryd i ystyriaeth safbwyntiau’n cwsmeriaid.

Mae’r llyfryn hwn ar gael yn ogystal mewn print bras, mewn Braille, ar dâp clywedol ac ar fideo gydag iaith arwyddo. Mae fersiwn Gymraeg ar gael yn ein holl swyddfeydd yng Nghymru.

Cyflwyno Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth weithredol Cyllid y Wlad yw Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Rydym yn gyfrifol am y canlynol

  • penderfyniadau’r Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael yn Lloegr, Cymru a’r Alban
  • prisiadau tir ac eiddo ar gyfer adrannau amrywiol y llywodraeth ac awdurdodau lleol
  • prisiadau tir ac eiddo ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf a Threth Etifeddiant
  • asesiadau trethu pob eiddo an-nomestig yn Lloegr a Chymru
  • bandio’r dreth cyngor o bob eiddo domestig yn Lloegr a Chymru

Mae llyfrynnau ar gael yn ein holl swyddfeydd yn egluro’r meysydd gwaith hyn a safonau’r gwasanaeth a ddarperir. Rhestrir ein swyddfeydd yn y cyfeiriadur ffôn dan Valuation Office ar gyfer Lloegr a Chymru a District Valuer ar gyfer yr Alban.

Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach am Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar ein Gwefan: www.voa.gov.uk

Mae’r llyfryn hwn ynghylch penderfyniadau Yr Hawl i Brynu/Yr Hawl i Gaffael a’r gwaith a wnawn i adrannau eraill y llywodraeth ac awdurdodau lleol, yn enwedig lle mae pryniant gorfodol yn berthnasol.


Pryniant gorfodol
Rydym yn gweithio i wahanol adrannau’r llywodraeth ac awdurdodau lleol a thros dro yn cytuno’r swm o iawndal sy’n daladwy pan brynant eich eiddo. Gallai hyn fod drwy bryniant gorfodol neu drwy gytundeb.

Er enghraifft, gallech fod wedi gofyn i’r awdurdod caffael brynu’ch eiddo lle caiff ei andwyo gan gynlluniau i adeiladu heol newydd. Rydym hefyd dros dro yn cytuno’r iawndal lle’r effeithir ar werth eich eiddo gan ddefnydd heol newydd er nad yw unrhyw ran o’ch eiddo’n cael ei gaffael. Fe ddywedwn wrthych os gofynnwyd i ni weithredu yn y modd hwn.

Pan ymdriniwn â’r achos fe fyddwn yn

  • dweud wrthych a oes gennych yr hawl i gael eich ffioedd proffesiynol wedi’u talu drosoch
  • dweud wrthych sut i wneud cais am flaendaliad o iawndal (lle bo’n briodol)
  • eich hysbysu o faint ein prisiad ac yn gofyn i chi gytuno’r ffigur
  • os nad ydych yn cytuno’r swm, yn ceisio cytuno ffigur gyda chi neu’ch asiant o fewn 6 mis neu pan fydd yr holl ffeithiau’n wybyddus
  • hysbysu adran y llywodraeth neu’r awdurdod lleol os na allwn gytuno swm eich hawliad. Byddwn ni ar yr un pryd yn dweud wrthych chi. Byddant hwy’n eich hysbysu o’r hyn sy’n digwydd nesaf.


Yr hawl i brynu
Yn Lloegr a Chymru mae sawl cam i asesu gwerth ty neu fflat rydych wedi gwneud cais i’w gaffael oddi wrth yr awdurdod lleol neu’r cymdeithas tai dan yr ‚Hawl i Brynu’ neu’r ‚Hawl i Gaffael’.

Mae’n rhaid i’r eiddo yn y lle cyntaf gael ei brisio. Gall hyn gael ei gyflawni gan y landlord ei hun neu brisiwr benodir gan y landlord. Weithiau mae’r landlord yn penodi Asiantaeth y Swyddfa Brisio i gyflawni’r prisiad.

Os ydych yn anghytuno â’r prisiad cychwynnol gallech ofyn i’ch landlord wneud cais i’r Prisiwr Dosbarth (sy’n gyflogedig gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio) i gyflawni prisiad newydd adwaenir fel ‚penderfyniad gwerth’.

(Yn yr Alban mae’r weithdrefn yn wahanol ac nid oes hawl i apelio. Gelwir y prisiad yn ‚benderfyniad’ ac fel arfer caiff ei gyflawni gan y Prisiwr Dosbarth).

Bydd angen i’r Prisiwr Dosbarth archwilio’r eiddo a bydd yn trefnu apwyntiad cyfleus gyda chi. Er tegwch, gallai’r landlord ddymuno mynychu’r archwiliad. Gallai’r penderfyniad gwerth fod yn fwy neu’n llai neu’r un faint â’r prisiad cychwynnol. Nid oes apêl bellach ar sail prisiad o’r penderfyniad hwn.

Bydd y Prisiwr Dosbarth yn eich gwahodd i wneud sylwadau ynghylch prisiad yr eiddo. Fe ofynnir i chi hefyd gytuno neu ychwanegu at y rhestr o ‚welliannau tenant’ hysbyswyd i chi gan eich landlord. Os daw’ch landlord â sylwadau gerbron rhoddir cyfle i chi ymateb iddynt a gwahoddir eich landlord yn yr un modd i fynegi barn ar unrhyw sylwadau fyddwch chi wedi’u gwneud.

Gellwch gynorthwyo cynnydd y penderfyniad gwerth drwy:

  • gydweithio’n llawn pan drefnir archwiliad o’r eiddo
  • ddarparu atebion llawn a gonest i unrhyw geisiadau am wybodaeth
  • roi i’r Prisiwr Dosbarth nodyn ysgrifenedig yn cynnwys unrhyw sylwadau y dymunwch eu gwneud ynghylch yr eiddo a’i brisiad ac ynghylch unrhyw welliannau rydych wedi’u gwneud i’r eiddo
  • ymateb yn brydlon i unrhyw gyfathrebiadau dderbyniwyd oddi wrth y Prisiwr Dosbarth

Nod y Swyddog Prisio fydd cyflwyno’r penderfyniad gwerth o fewn dau fis calendr i dderbyn y cais oddi wrth y landlord. Fodd bynnag, gallai’r terfyn amser hwn fod yn rhwym wrth oedi lle nad ydych chi neu’ch landlord yn ymateb yn brydlon i geisiadau am wybodaeth neu sylwadau.

Ein hymrwymiad i chi
Credwn fod cwrdd â’ch anghenion yn bwysig.
Byddwn yn gwneud hyn drwy’r canlynol

  • rhoi i chi’r gwasanaeth gorau posib
  • darparu cyngor defnyddiol a diduedd
  • eich helpu i ddeall eich hawliau a’ch goblygiadau
  • trin pawb yn deg drwy brisio pob eiddo’n ddiduedd
  • cadw gwybodaeth ynghylch eich eiddo’n gyfrinachol.

Pan ymwelwn â’ch eiddo
Byddwn

  • yn cysylltu â chi i drefnu amser cyfleus i archwilio’ch eiddo
  • yn brydlon wrth gadw’r apwyntiad. Gellwch ein helpu ni drwy roi gwybod i ni ymlaen llaw os nad ydych yn gallu cadw’ch apwyntiad
  • yn cario cardiau adnabod

Os galwch i’n gweld ni yn ein swyddfa

  • byddwn yn eich gweld o fewn 5 munud pan alwch yn y swyddfa leol sy’n delio â’ch achos
  • byddwn yn gwisgo bathodynnau â’n henwau arnynt
  • ein nod yw ateb eich cwestiynau’n llawn. Os na allwn wneud hyn fe drefnwn i’ch ffonio neu ysgrifennu atoch os bydd yn well gennych, pan fyddwn wedi casglu’r holl ffeithiau
  • mae derbynfeydd ein swyddfeydd ar agor o 9.00 am i 4.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Os rhowch alwad ffôn i ni

  • bydd ein staff profiadol yn ateb eich ymholiadau ffôn yn brydlon ac yn gwrtais
  • ein nod yw ateb eich galwadau o fewn cyfartaledd cyffredinol o 10 eiliad
  • bydd yr unigolyn fydd yn ateb eich galwad yn rhoi ei enw/henw i chi
  • ein nod yw ateb eich cwestiynau ar unwaith. Os na allwn wneud hynny, rydym yn addo’ch trosglwyddo i rywun all wneud hynny, neu drefnu eich galw nôl o fewn 48 awr. Neu os bydd yn well gennych, fe ysgrifennwn atoch.

Os ysgrifennwch atom ni

  • Ein nod fydd ysgrifennu a chydnabod eich llythyr o fewn 5 niwrnod gwaith o’i dderbyn
  • Ein nod fydd ateb eich holl gwestiynau mewn iaith glir a diamwys o fewn 15 niwrnod gwaith. Disgwyliwn gyflawni hyn ar gyfer 90% o’r holl lythyron a dderbyniwn ac o fewn 5 niwrnod pellach ar gyfer y 10% sy’n weddill. Os nad yw’r holl ffeithiau gennym yn y Swyddfa Brisio fe allai fod oedi weithiau. Byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn dweud wrthych os digwydd hyn.

Gellwch ein helpu drwy roi atebion cywir a llawn i’n cwestiynau a dweud wrthym fel y gallwn ni fod o fwy o gymorth i chi.

Byddwn yn ymgymryd â gwirio i weld os ydym yn cwrdd â’n hamcanion ac yn dweud wrthych y canlyniadau yn ein Hadroddiad Blynyddol.

Os nad Saesneg yw’ch iaith gyntaf
Cymraeg - rydym yn ymrwymedig i bolisi dwyieithog. Mae gennym staff sy’n siarad Cymraeg bron ymhob un o’n swyddfeydd yng Nghymru. Ysgrifennwn atoch yn y Gymraeg os oes yn well gennych. Rydym yn cynhyrchu nifer o lyfrynnau a ffurflenni yn y ddwy iaith.

Ieithoedd eraill

  • Os ysgrifennwch atom yn yr iaith sydd orau gennych fe atebwn yn yr un iaith; ac
  • Os dymunech siarad â ni fe drefnwn i gyfieithydd fod ar gael drwy gyswllt ffôn. Fel dewis arall, byddai o gymorth i ni petai gennych ffrind allai weithredu fel cyfieithydd.


Os oes gennych anghenion arbennig
Mae gan rai pobl anghenion arbennig. Rydym yn gwbl ymrwymedig i helpu’n holl gwsmeriaid ac rydym wedi cyflwyno’r cyfleusterau canlynol.

Os oes gennych anhawster clyw dywedwch wrthym os gwelwch yn dda, fel y gallwn wneud trefniadau fydd yn gweddu orau i’ch anghenion arbennig. Mae gwasanaeth minicom ar gael - Gwasanaeth Minicom Ledled y Wlad: 020 7506 1809. Gan ein bod yn defnyddio’r gwasanaeth hwn fel ffôn llais yn ogystal, cofiwch ddefnyddio’ch cyflwynydd llais.

Os bydd gennych broblem golwg fe ddarparwn wybodaeth ac fe gyfathrebwn â chi mewn diwyg y gellwch ei ddefnyddio. Rydym yn hapus i siarad â chi ar y ffôn neu fe allwn drefnu ymweld â chi yn eich cartref. Os oes angen i ni ysgrifennu atoch gallwn wneud hynny mewn print bras neu Braille neu fe allwn amgáu copi o’r llythyr ar dâp clyweled. Os rhowch wybod i ni beth yw’ch blaenoriaeth fe gyfathrebwn â chi yn y modd hwnnw.

Petai’n well gennych ein bod yn ymweld â chi yn eich cartref am fod gennych anghenion arbennig, os gwelwch yn dda, cysylltwch â ni.


Ymgynghori â’n cwsmeriaid
Rydym yn meddwl ei bod yn bwysig gofyn i chi ynghylch safon y gwasanaeth a ddarparwn a’r math o welliannau rydych chi eisiau eu gweld. Cyflawnwn arolygon bodlonrwydd cwsmeriaid yn gyson, ac edrychwn a gweithredwn ar y wybodaeth a dderbyniwn.Yn ychwanegol, cyfarfyddwn â grwpiau o gwsmeriaid i roi gwybodaeth iddynt a darganfod beth sydd ei eisiau arnynt er mwyn i ni fedru gwella’n gwasanaeth.


Ein perfformiad
Rydym yn cyhoeddi’n perfformiad yn erbyn ein prif dargedau bob blwyddyn yn Adroddiad Blynyddol yr Asiantaeth. Cyhoeddir y rhain ar ein gwefan, neu fe ellir derbyn copi o Swyddfa’r Llyfrfa (Ffôn 0845 7 023474)


Beth os â pethau o chwith?
Rydym yn croesawu’ch sylwadau a’ch achwyniadau gan eu bod yn darparu adborth gwerthfawr o’r gwasanaeth rydym wedi’i ddarparu. Rydym yn awyddus i roi pethau’n iawn os gwnaed camgymeriadau ac i ddysgu gwersi oddi wrthynt.

Os oes gennych achwyniad ynghylch y gwasanaeth rydym wedi’i ddarparu ar eich cyfer dylech ysgrifennu at y Prisiwr Dosbarth yn y swyddfa berthnasol a bydd ef/hi yn ymdrin â’r achwyniad. Gwnawn ein gorau i unioni’r sefyllfa os ydym wedi gwneud camgymeriad. Byddwn yn cydnabod eich achwyniadau ac yn ceisio delio â hwy o fewn 5 niwrnod.

Os oes angen i ni ymchwilio ymhellach fe’ch hysbyswn o’r sefyllfa a cheisiwn gwblhau hyn o fewn 20 niwrnod gwaith.

Os ydych yn dal yn anhapus gallech ysgrifennu at:
Y Prif Weithredwr
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
New Court
Carey Street
Llundain WC2A 2JE
Rhif Ffôn 020 7506 1801
Rhif Ffacs 020 7506 1996

Gellwch anfon achwyniadau ac awgrymiadau ato ef ar e-bost os oes yn well gennych ar customerservices@voa.gsi.gov.uk Os nad ydych yn fodlon wedi i chi gael ateb oddi wrth Swyddfa’r Prif Weithredwr gallech ofyn i ddyfarnwr diduedd edrych ar y mater ac argymell camau gweithredu priodol. Mae gwasanaethau’r Dyfarnwr yn rhad ac am ddim. Dylech gysylltu â:

Y Dyfarnwr
Haymarket House
28 Haymarket
Llundain SW1Y 4SP

Rhif Ffôn 020 7930 2292
Rhif Ffacs 020 7930 2298
E-bost: adjudicators@gtnet.gov.uk
Gwefan: www.adjudicatorsoffice.gov.uk

Hefyd, os nad ydych yn fodlon â chanlyniad yr achwyniad neu â’r modd y cafodd ei drafod (gyda ni neu gyda’r Dyfarnwr) gallech ofyn i Aelod Seneddol gyfeirio’ch achwyniad i’r Ombwdsman Seneddol.

Bydd yr Ombwdsman yn derbyn atgyfeiriad oddi wrth unrhyw Aelod Seneddol ond dylech gysylltu ag AS eich etholaeth eich hun yn gyntaf.

Cyhoeddir y llyfryn hwn gan
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
© Hawlfraint Y Goron 2002
PN 27-08-02

 

 

Image of a bookcase
Access Keys | Search | Site Map | News | About Us | Privacy Statement | © Crown Copyright | Feedback | Contacts