Pwrpas y llyfryn hwn
Mae’r llyfryn hwn yn egluro’r gwaith gyflawnir gan
Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar gyfer Trethi Busnes ac mae’n
amlinellu’r safonau y ceisiwn eu cyrraedd.
Mae’n safonau gwasanaeth yn cymryd i ystyriaeth safbwyntiau
cwsmeriaid sy’n cymryd rhan yn ein
harolwg blynyddol.
Mae’r llyfryn hwn ar gael yn ogystal mewn print bras, yn
Braille, ar dâp clywedol ac ar fideo gydag iaith arwyddion.
Cyflwyno Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth weithredol Cyllid y Wlad yw Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Rydym yn gyfrifol am:
- fandiau Treth Cyngor yn Lloegr a Chymru
- asesiadau trethu pob eiddo an-nomestig yn Lloegr a
Chymru
- brisiadau tir ac eiddo ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf
a Threth Etifeddiant
- benderfyniadau Hawl i Brynu yn Lloegr, Cymru a’r
Alban
Rydym yn ogystal yn cyflawni prisiadau ar gyfer adrannau eraill
y llywodraeth a rhai Awdurdodau Lleol.
Mae gwybodaeth ar gael ymhob un o’n swyddfeydd ac ar ein
gwefan yn egluro’r meysydd hyn o waith a safonau’r
gwasanaeth a ddarperir. Rhestrir ein swyddfeydd yn y cyfeiriadur
ffôn o dan ‘Valuation Office Agency’. Fel y caiff
cyfeiriaduron eu diweddaru, bydd y cofnodion yn ymddangos o dan ‘Valuation
Office’ ar gyfer Lloegr a Chymru a ‘District Valuer’ ar
gyfer yr Alban. Mae gwybodaeth ychwanegol am Asiantaeth y Swyddfa
Brisio i gael ar ein gwefan:
www.voa.gov.uk
Mae’r llyfryn hwn am Trethi Busnes
Mae’r Swyddfa Brisio leol yn cadw rhestr brisio yn dangos
gwerth trethiannol pob eiddo yn ei hardal. Gellwch edrych ar hon
os ydych yn dymuno gweld sut mae’ch gwerth trethiannol chi
yn cymharu â gwerth trethiannol adeiladau eraill yn eich
ardal. Gellir gweld y wybodaeth yma ar ein gwefan hefyd.
Bydd yr Awdurdod Lleol yn ein hysbysu ni pan fydd newid wedi bod
i’ch eiddo. Maent hefyd yn dweud wrthym a adeiladwyd eiddo
newydd. Ble mae angen byddwn yn ymweld â’ch eiddo ac
yn cymryd mesuriadau er mwyn penderfynu gwerth trethiannol cywir.
Byddwn yn hysbysu’r Awdurdod Lleol pan newidiwn y gwerth
trethiannol neu pan brisiwn am y tro cyntaf. Byddant hwy’n
gweithio allan gyfanswm y trethi. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiad
ynghylch y bil atyn nhw.
Ein nodau yw:
- darparu gwasanaeth teg prydlon a defnyddiol i’n
cwsmeriaid
- bod yn ddiduedd yn ein hasesiad o werth
- darparu gwasanaeth effeithiol sy’n werth yr arian
- sicrhau sylfaen dreth gadarn a theg
Ein hymrwymiad i chi
Rydym yn credu ei bod ym bwysig cwrdd â’ch anghenion.
Gwnawn hyn drwy:
- roi’r gwasanaeth gorau posib i chi
- ddarparu cyngor defnyddiol a di-duedd
- eich cynorthwyo i ddeall eich hawliau a’ch rhwymedigaethau
- drin pawb yn deg drwy brisio pob eiddo yn ddi-duedd
- gadw gwybodaeth ynghylch eich eiddo yn gyfrinachol ac eithrio
pan fydd yn ofynnol ar gyfer gwrandawiad Tribiwnlys Prisio
Byddwn yn ysgrifennu atoch os newidiwn eich asesiad trethu. Ar
yr un pryd byddwn yn dweud wrthych sut i wneud apêl
Pan fydd angen i ni ymweld â’ch eiddo byddwn:
- rhoi 7 niwrnod o rhybydd pan yn bosib
- yn brydlon wrth gadw apwyntiad. Gellwch ein helpu ni drwy
roi gwybod i ni rhag blaen os na fyddwch yn gallu cadw’r
apwyntiad
- yn cario cardiau hunaniaeth
- ysgrifennu a dweud wrthych os wnawn newid eich asesiad treth.
Ar yr un pryd dweud wrthych am eich hawl i wneud apêl
a sut i wneud hyn
Os ar unrhyw adeg rydych yn teimlo’n
anhapus ynghylch eich asesiad byddwn:
- ysgrifennu a dweud wrthych sut i wneud apêl
- esbonio egwyddorion sylfaenol am drethi a sut y gwnaethom
gyrraedd at eich asesiad
- dweud wrthych am eich hawliau i wneud apêl a sut i
wneud hyn
Os penderfynwch wneud apêl fe fyddwn:
- yn anfon cydnabyddiaeth i chi o’ch apêl o fewn
10 niwrnod gwaith
- gosod eich apêl mewn rhaglen fydd yn dweud wrthych pryd
bydd eich apêl yn cael ei drafod
- dweud wrthych beth yw dyddiad dechrau trafodaethau a dyddiad
targed pan byddwn yn disgwyl gorffen trafodaethau
- dweud wrth y Tribiwnlys Prisio am eich apêl er mwyn ddiogelu’ch
buddiannau
- yn amcanu cytuno’r gwerth priodol drwy drafod gyda chi
neu gyda’ch asiant apwyntiedig, o fewn y cyfnod trafod.
Byddwn yn gwrando ar eich safbwyntiau ac yn esbonio'n safbwyntiau
ni.
Byddwn yn trafod gyda chi eich rhesymau dros apelio
- yn rhoi i chi neu i’ch asiant gopi o’r prisiad
yn ystod neu cyn y cyfnod trafod
Os na fydd y mater yn medru cael ei
ddatrys drwy gytundeb byddwn yn:
- rhoi i chi neu i’ch asiant gopi o unrhyw dystiolaeth o’r
farchnad y bwriadwn ei defnyddio o flaen y Tribiwnlys Prisio. Rydym
yn amcanu gwneud hyn 7 niwrnod cyn y gwrandawiad ond gallwn wneud
hynny yn unig pan fyddwch chi neu’ch asiant wedi rhoi i ni’r
wybodaeth mae ei hangen arnom i gwblhau trafodaethau mewn
amser digonol
ON Mae’r Tribiwnlys yn annibynnol o’r Swyddfa Brisio
ac mae’r gwrandawiad yn anffurfiol.
Os dowch i’n gweld yn ein swyddfa:
- cewch eich gweld o fewn 5 munud pan ddowch atom i’r swyddfa
leol sy’n ymdrin â’ch materion
- byddwn yn gwisgo bathodynnau â’n henwau arnynt
- amcanwn ateb eich cwestiynau’n llawn. Os na allwn wneud
hyn byddwn yn trefnu’ch ffonio, neu ysgrifennu atoch, os
mai hynny fydd orau gennych, pan fyddwn wedi dod o hyd i’r
holl ffeithiau
- mae derbynfeydd ein swyddfeydd ar agor o 9.00 y bore tan
4.00 y prynhawn o ddydd Llun tan ddydd Gwener
Os rhowch alwad ffôn i ni:
- bydd ein staff profiadol yn ateb eich ymholiadau ffôn
yn brydlon ac yn foesgar
- amcanwn ateb eich galwadau ffôn at ei gilydd o fewn
cyfartaledd o 10 eiliad
- pan fyddwn yn ateb y ffôn byddwn yn rhoi’n enw
i chi
- amcanwn ateb eich cwestiynau ar unwaith. Os na allwn wneud
hynny, addawn eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun
all wneud, neu drefnu dychwelyd eich galwad o fewn 48 awr. Neu
os yw’n well gennych, fe ysgrifennwn atoch.
Os ysgrifennwch chi atom ni:
- amcanwn ysgrifennu a chydnabod eich llythyr o fewn 5 niwrnod
gwaith o’i dderbyn
- amcanwn ateb eich holl gwestiynau mewn iaith glir ddealladwy
o fewn 15 niwrnod gwaith. Disgwyliwn wireddu hyn am bob 90% o
lythyron a dderbyniwn ac o fewn 5 niwrnod pellach ar gyfer y
10% sy’n
weddill. Os nad yw’r holl ffeithiau gennym yn y Swyddfa
Brisio gallai fod oedi weithiau. Byddwn yn ysgrifennu atoch ac
yn dweud
wrthych os digwydd hynny
Gellwch ein helpu ni drwy:
- roi atebion cywir a llawn i’n cwestiynau a dweud wrthym
sut y gallwn fod o gymorth pellach i chi.
Byddwn yn gwirio i weld a ydym yn cwrdd â’n hamcanion
ac yn eich hysbysu o’n casgliadau yn ein Hadroddiad Blynyddol.
Os nad Saesneg yw’ch mamiaith
Cymraeg – Rydym wedi ymrwymo i bolisi dwyieithog. Mae gennym
staff sy’n siarad Cymraeg bron ymhob un o’n
swyddfeydd yng Nghymru. Gallwn ysgrifennu atoch yn y Gymraeg os
mai dyna fyddai orau gennych. Cynhyrchwn nifer o lyfrynnau a ffurflenni
yn y ddwy iaith.
Ieithoedd eraill – os ysgrifennwch atom yn yr iaith sydd
orau gennych fe atebwn yn yr un iaith; os byddwch yn dymuno siarad â ni,
byddwn yn trefnu bod cyfieithydd wrth law drwy gyfrwng cyswllt
ffôn. Ar y llaw arall, fe ellwch chi ein helpu ni os oes
gennych ffrind all weithredu fel cyfieithydd.
Os oes gennych anghenion arbennig
Mae gan rai pobl anghenion arbennig. Rydym yn gwbl ymrwymedig
i helpu’n holl gwsmeriaid ac rydym wedi cyflwyno’r
adnoddau canlynol.
- os oes gennych ddiffyg clyw, os gwelwch yn dda, dywedwch
wrthym, fel y gallwn wneud trefniadau fydd yn fwyaf addas ar
eich anghenion
penodol chi. Mae gwasanaeth minicom ar gael – Gwasanaeth
Minicom Ledled y Wlad: 020 7506 1809. Am ein bod yn ogystal yn
defnyddio hwn fel ffôn llais, gwnewch yn siwr eich bod
yn defnyddio'ch cyhoeddwr llais
- os oes gennych ddiffyg golwg, fe ddarparwn wybodaeth ac fe
gyfathrebwn â chi
mewn diwyg y byddwch yn gallu ei ddefnyddio. Rydym yn hapus i siarad â chi
ar y ffôn neu fe allwn drefnu ymweld â chi yn eich
cartref. Os bydd yn ofynnol i ni ysgrifennu atoch gallwn wneud
hynny mewn print bras neu Braille neu fe allwn gynnwys copi o’r
llythyr ar dâp clywedol. Os rhowch wybod i ni beth fydd orau
gennych fe fyddwn yn cyfathrebu â chi yn y modd hwnnw
- os bydd yn well gennych i ni ymweld â chi gartref am
fod gennych anghenion arbennig, os gwelwch yn dda, rhowch wybod
I ni
ac fe drefnwn amser cyfleus
Ymgynghori â’n cwsmeriaid
Rydym yn credu ei bod yn bwysig gofyn i chi am safon y gwasanaeth
a ddarparwn a’r math o welliannau y byddech
yn eu dymuno. Cyflawnwn arolygon bodlonrwydd cwsmeriaid yn rheolaidd,
ac astudiwn a gweithredwn ar y wybodaeth a dderbyniwn.
Yn ychwanegol
rydym yn cwrdd â grwpiau o gwsmeriaid i roi
iddynt wybodaeth a darganfod beth maent hwy’n ei ddymuno
fel y gallwn ni wella’n gwasanaeth.
Ein perfformiad
Rydym yn cyhoeddi’n perfformiad yn erbyn ein prif dargedau
bob blwyddyn yn Adroddiad Blynyddol yr Asiantaeth. Byddwn yn hapus
i roi i chi gopi o’n casgliadau diweddaraf. Gellwch gael
y rhain drwy gysylltu ag unrhyw swyddfa leol.
Beth os â pethau o chwith?
Rydym yn croesawu’ch sylwadau a’ch achwyniadau am
eu bod yn darparu adborth gwerthfawr ar y gwasanaeth a ddarparwyd
gennym. Rydym yn awyddus i unioni sefyllfaoedd os aethant o chwith
a dysgu’r gwersi oddi wrthynt.
Os oes gennych achwyniad ynghylch y gwasanaeth a ddarparwyd gennym
dylech ysgrifennu at Swyddog Prisio’r Grw^p yn y swyddfa
berthnasol fydd yn ymchwilio i’r mater. Byddwn yn gwneud
ein gorau i unioni’r sefyllfa os ydym wedi gwneud camgymeriad.
Byddwn yn cydnabod ac yn ceisio ymdrin â’ch achwyniad
o fewn 5 niwrnod. Os oes angen i ni gyflawni ymchwil bellach rhown
wybod i chi a cheisiwn gwblhau hyn o fewn 20 niwrnod gwaith.
Os nad ydych yn dal yn hapus gellwch ysgrifennu at:
Y Prif Weithredwr
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
New Court
Carey Street
London WC2A 2JE
Rhif ffôn: 020 7506 1801
Rhif ffacs: 020 7506 1996
Gellwch anfon achwyniadau ac awgrymiadau ato drwy ebost os oes
yn well gennych ar: customerservices@voa.gsi.gov.uk
Os nad ydych yn fodlon ar ôl i chi gael ateb oddi wrth Swyddfa’r
Prif Weithredwr gellwch ofyn i ddyfarnwr diduedd edrych ar y mater
ac argymell camau priodol. Mae gwasanaeth y Dyfarnwr yn rhad ac
am ddim.
Dylech gysylltu â:
Y Dyfarnwr
Haymarket House
28 Haymarket
London SW1Y 4SP
Rhif ffôn: 020 7930 2292
Rhif ffacs: 020 7930 2298
ebost: adjudicators@gtnet.gov.uk
Safwe: www.adjudicatorsoffice.gov.uk
Hefyd, os nad ydych yn fodlon â chanlyniad eich achwyniad
neu â’r modd y trafodwyd ef (gyda ni’n hunain,
neu’r Dyfarnwr) gellwch ofyn i Aelod Seneddol gyfeirio’ch
achwyniad at yr Ombwdsman Seneddol.
Bydd yr Ombwdsman yn derbyn atgyfeiriad oddi wrth unrhyw AS ond
dylech gysylltu ag AS eich etholaeth yn gyntaf. Am wybodaeth bellach
cysyllter â:
Yr Ombwdsman Seneddol
Millbank Tower
Millbank
London SW1P 4QP
Llinell gymorth: 0845 015 4033
Rhif ffacs: 020 7217 4160
ebost: opca-enqu@ombudsman.org.uk
neu ymwelwch â Safwe’r
Ombwdsman Seneddol (www.ombudsman.org.uk) sy’n cynnwys mwy
o wybodaeth ac arweiniad
Mae llyfryn ‘unioni’r sefyllfa i chi’ ar gael
yn rhad ac am ddim yn ein holl swyddfeydd neu gellid ei weld ar
ein gwefan. Eglura’n hymrwymiad i unioni sefyllfa, ein safonau
wrth drafod achwyniadau a phryd byddwn yn gwneud taliad i chi.
Eich sylwadau
Rydym yn croesawu’ch sylwadau ar y nodau rydym wedi eu hamlinellu
yn y Siarter hon ac ar y gwasanaeth a ddarparwn. I wneud hyn cysylltwch,
os gwelwch yn dda, â Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid yn un
o’n swyddfeydd neu â:
Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid
Swyddfa’r Prif Weithredwr
Valuation Office Agency
New Court
Carey Street
London WC2A 2JE
Rhif ffôn: 020 7506 1801
Rhif ffacs: 020 7506 1996
ebost: customerservices@voa.gsi.gov.uk
|