Diben y llyfryn yma
Mae’r llyfryn yma’n egluro’r gwaith a wneir gan
Asiantaeth y Swyddfa Brisio gyda’r dreth cyngor ac mae'n
pennu'r safonau rydyn ni’n awyddus i’w cyrraedd.
Mae safonau ein gwasanaeth yn cynnwys barn ein
cwsmeriaid sy’n cymryd rhan yn ein harolygon blynyddol.
Os hoffech chi gael copi o’r llyfryn yma mewn ffurf
arall, cysylltwch â'r Swyddfa Brisio.
Cyflwyno Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth Weithredol o Gyllid y Wlad yw Asiantaeth y
Swyddfa Brisio. Rydyn ni’n gyfrifol am:
- bandiau treth cyngor Cymru a Lloegr
- ardrethi annomestig yr holl eiddo yng Nghymru a Lloegr
- prisio tir ac eiddo ar gyfer treth ar enillion cyfalaf a
threth etifeddiaeth
- penderfyniadau hawl i brynu yng Nghymru, Lloegr
a’r Alban
Rydyn ni hefyd yn prisio ar gyfer adrannau eraill o’r llywodraeth a rhai awdurdodau lleol.
Mae gwybodaeth ar gael yn ein holl swyddfeydd yn egluro’r meysydd gwaith yma a safon y gwaith a ddarperir. Rhestrir ein swyddfeydd yn y llyfr ffôn o dan ‘Asiantaeth y Swyddfa Brisio’. Wrth i’r llyfrau ffôn gael eu diweddaru, mae’r wybodaeth yn ymddangos o dan
‘Swyddfa Brisio’ ar gyfer Lloegr a Chymru ac o dan ‘Prisiwr Rhanbarthol’ ar gyfer yr Alban. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Asiantaeth y Swyddfa Brisio trwy ymweld â’n gwefan:
www.voa.gov.uk
Mae’r llyfryn hwn am dreth y cyngor
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn rhan o’r llywodraeth
ac mae’n gyfrifol am ddyrannu band treth cyngor i bob
eiddo domestig yng Nghymru a Lloegr. Mae Asiantaeth y
Swyddfa Brisio yn gyfrifol am lunio rhestr o fandiau’r
dreth cyngor hefyd a’i chynnal a’i chadw.
Mae’r swyddfa brisio leol yn cadw rhestr brisio sydd yn
dangos band treth cyngor yr holl eiddo sydd o fewn eu
hardal. Gallwch fwrw golwg ar y rhestr os ydych yn
dymuno gweld sut mae’r band treth yn cymharu gyda
eiddo eraill yn eich ardal. Gallwch chi edrych ar yr
wybodaeth yma ar ein gwefan www.voa.gov.uk.
Mae band y dreth cyngor yn gysylltiedig â beth fyddai
pris eich eiddo wedi bod ar 1 Ebrill 2003, nid ar ei werth
cyfredol. Caiff ei ddefnyddio gan yr awdurdod lleol i
benderfynu faint o dreth cyngor sydd raid i berchennog ei
dalu. Mae’r awdurdod lleol yn ein hysbysu pan fydd
newidiadau’n digwydd i eiddo, a all arwain at newid band
neu pan fydd yn cael ei gofrestru fel eiddo domestig am
y tro cyntaf. Weithiau, rydyn ni’n ymweld â’r eiddo i
benderfynu pa fand prisio sy’n addas.
Byddwn ni’n hysbysu’r awdurdod lleol os ydyn ni’n newid
band treth cyngor yr eiddo neu os rhoir band ar yr eiddo
am y tro cyntaf. Bydd trethdalwr y cyngor yn cael ei
hysbysu o’r newid hefyd. Yr awdurdod lleol fydd yn
datgan faint o dreth cyngor sydd raid ichi ei dalu. Dylai
unrhyw ymholiad yngl ^ yn â’r bil gael ei drafod gyda’r
awdurdod lleol.
Ein nodau ni yw:
- darparu gwasanaeth teg a phrydlon sy’n ddefnyddiol i’n cwsmeriaid
- asesu gwerth yr eiddo yn ddiduedd
- paratoi gwasanaeth effeithiol sy’n werth yr arian
- gofalu bod sail y dreth yn ddoeth ac yn deg
Ein hymroddiad i chi
Mae diwallu'ch hanghenion chi yn bwysig i ni.
Gwnawn hyn trwy:
- cynnig y gwasanaeth gorau posibl i chi
- darparu cyngor sy’n ddefnyddiol ac yn ddiduedd
- helpu chi i ddeall eich hawliau a’ch rhwymedigaethau
- rhoi tegwch i bawb trwy benderfynu ar fand yr eiddo
yn ddiduedd
Os ydym ni eisiau rhagor o wybodaeth am eich eiddo,
mae’n bosibl y byddwn yn anfon holiadur atoch i’w
llenwi a’i ddychwelyd. Cofiwch, fodd bynnag, na fydd
band eich eiddo yn cynyddu i adlewyrchu unrhyw waith
atgyweirio a wnewch ar ôl 1 Ebrill 2005 nes caiff yr eiddo
ei werthu neu caiff ei ailbrisio’n ehangach.
Os oes rhaid inni ymweld â’ch eiddo:
- fe roddwn ni 7 diwrnod o rybudd, os yn bosibl
- cysylltu â chi i drefnu amser sy’n gyfleus
- byddwn ni’n cadw at amser yr apwyntiad. Gallwch chi’n helpu ni yn hyn o beth trwy
adael inni wybod o flaen llaw os nad ydych chi’n gallu cadw at yr apwyntiad
- dangos cerdyn adnabod
- eich hysbysu o fewn 2 fis o’r ymweliad o’r canlynol:
- unrhyw newid y bwriadwn ei wneud i’r band treth
cyngor
- os ydyn ni’n credu bod y band cyfredol yn gywir ac nid oes angen newid
- y band a roddwn i eiddo newydd
Os ydych chi’n anhapus ar unrhyw adeg ynglyn â’r band, byddwn ni’n:
- ysgrifennu atoch ynglyn â’ch hawl i apelio yn erbyn unrhyw fand a roddir a sut i wneud hyn
- egluro egwyddorion sylfaenol treth cyngor a sut gwnaed y penderfyniad ar eich band
- eich hysbysu os ydych chi mewn sefyllfa i wneud apêl ddilys yn erbyn y band
- adolygu’r band, hyd yn oed os nad ydych yn gallu cyflwyno apêl ddilys
Os ydych chi’n penderfynu apelio, byddwn ni’n:
- anfon gair atoch yn cydnabod eich bod wedi derbyn
eich apêl o fewn 10 diwrnod gwaith o’i dderbyn
- cynnwys eich apêl mewn amserlen a elwir yn'rhaglen’ a fydd yn eich hysbysu pryd bydd eich apêl yn cael ei drafod
- eich hysbysu o ddyddiadau’r cyfnod y byddwn ni’n gallu trafod eich apêl
- hysbysu’r tribiwnlys prisio am eich apêl. Os na allwn ni gytuno â chi ynglyn â’r band, bydd y tribiwnlys ynm gwrando ar eich achos, gan ofalu y diogelir eich buddiannau
- ceisio cytuno ar y band cywir ar gyfer eich eiddo trwy drafod unrhyw wybodaeth gwerthiant gyda chi neu y sawl sy’n eich cynrychioli. Byddwn ni’n gwrando ar eich barn ac yn egluro ein safbwynt ni. Byddwn ni’n trafod eich rheswm am apelio gyda chi. Mae’n bosibl y gallwn wneud penderfyniad heb drafod gyda chi, fodd bynnag, os ydyn ni wedi ymdrin ag ymholiad sy’n debyg i’ch un chi o’r blaen
Os na ellir datrys y mater a chytuno ar y band, byddwn ni’n:
- rhoi copi i chi neu’r sawl sy’n eich cynrychioli o wybodaeth ynglyn â gwerth yr eiddo rydyn ni'n bwriadu ei ddefnyddio o fewn 7 diwrnod cyn gwrandawiad y tribiwnlys prisio
DS Nid yw’r tribiwnlys prisio yn rhan o Asiantaeth y Swyddfa Brisio ac mae’r gwrandawiad yn anffurfiol.
Os ichi alw i’n gweld yn y swyddfa:
- cewch eich gweld o fewn 5 munud o gyrraedd y swyddfa leol sy’n ymdrin â’ch achos
- byddwn yn gwisgo bathodyn adnabod
- gwnawn ein gorau i ateb eich cwestiynau yn syth. Os nad yw hyn yn bosibl, gwnawn drefniadau i’ch ffonio, neu ysgrifennu atoch os yw’n well gyda chi, pan fyddwn wedi dod o hyd i’r holl ffeithiau
- mae’n swyddfeydd ar agor o 9.00am - 4.00pm, dydd Llun i ddydd Gwener
Os ydych chi’n ffonio: |