|
Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB) sy’n gyfrifol am asesi
holl 1.3 miliwn o eiddo domestig yng Nghymru a’i gosod nhw
mewn band priodol at ddibenion Treth Gyngor. Rydym Wedi gorffen yr ailbrisiad, neu adolygiad, o holl eiddo domestig Cymru fel y
gellid eu gosod i mewn i fandiau newydd sydd yn dod i rym yng Nghymru
ar 1 Ebrill 2005. Efallai gwnewch glywed y weithred yma’n
cael ei gyfeirio fel ‘Ailbrisiad Treth Gyngor 2005’.
Dyma’r ailbrisiad cyntaf o eiddo domestig yng Nghymru ers
i’r Dreth Gyngor cael ei gyflwyno yn 1993. Mae gan ASB cyfrifoldeb
cyfreithiol i adolygi gwerth eiddo i gydymffurfio gyda’r
farchnad eiddo a bod y wybodaeth yn gyfredol.
Yn Yr Alban, mae’r gyfraith yn wahanol a bydd Aseswyr Albanaidd
yn ymgymryd a’r gwaith prisio.
Mae dyddiad y prisiad ar gyfer yr ailbrisiad wedi ei osod dwy
flynedd cyn y dyddiad mae rhestr brisio’r dreth gyngor yn
dod i rym. Oherwydd bod y rhestri’n dod i rym ar 1 Ebrill
2005, y dyddiad prisio yng Nghymru yw 1 Ebrill 2003. Felly, bydd
eich eiddo yn cael ei osod yn y band sy’n adlewyrchi ei werth
ar y dyddiad hwnnw, yn hytrach na’r gwerth cyfredol. Mae’r
dyddiad prisio penodol yn sicrhau bod gwerth pob eiddo yn cael
ei asesi mewn pwynt sefydlog mewn amser, yn gwneud system deg i
bawb.
Mae ASB yn cymryd i ystyriaeth maint, oedran, cymeriad a lleoliad
yr eiddo ac yn defnyddio pris gwerthiannau o gwmpas y dyddiad prisio
i gyrraedd at y band cywir i’r eiddo. Hyd yn oed os adeiladwyd
eich eiddo ar ôl 1 Ebrill 2003, rydym yn bandio’r eiddo
yn unol ar hyn y credwn oedd y gwerth ar y 1 Ebrill 2003 drwy ddefnyddio
gwerthiannau cyffelyb i wneud hyn.
Bydd yr awdurdod lleol yn defnyddio’r bandiau newydd i amcanrifo
biliau treth gyngor am y flwyddyn 2005/06 a bydd biliau yn dod
allan yn Chwefror/Mawrth 2005. Nodwch os gwelwch yn dda na fydd
awdurdodau lleol yn medru ymateb i ymholiadau yngly^n taliadau
treth gyngor tan o leiaf Chwefror 2005.
Hysbysiadau am Dreth Gyngor Anheddwyr yng Nghymru
Ym Medi 2004, bydd ASB yn dosrannu ‘hysbyseb’ i drethdalwyr
gyngor yng Nghymru – llythyr bydd yn nodi’r band newydd – ynghyd â thaflen
esboniadol.
Rydym bob amser yn edrych am ffyrdd newydd i wella ein cysylltiad
a threthdalwyr ac yn sicrhau bod ein rhestrau prisio mor fanwl
gywir a phosib. Rydym felly yn mabwysiadu ffordd bydd yn ein galluogi
i edrych i mewn i gymaint fyth a phosib o ymholiadau cyn y bydd
y bandiau newydd mewn gwirionedd yn dod i rym. Bydd trethdalwyr
yn medru cysylltu â ni os oes ganddynt ymholiad ynghylch
eu bandiau newydd. Bydd mwy o wybodaeth am hyn yn cael ei gyhoeddi
yn agosach i’r amser ac y bydd yn cael ei gyhoeddi ar y wefan
yma.
|