VOA logo
 Valuation Office Agency homepage  Council Tax homepage Business Rates homepage District Valuer Services homepage  Media Centre homepage  Recruitment homepage  Publications homepage  Where to find us homepage  
Council tax > Yr hyn i’w wneud os nad ydych yn cytuno â’ch band treth cyngor

Yr hyn i’w wneud os nad ydych yn cytuno â’ch band treth cyngor (VO7857W)

CYNNWYS

Cyflwyno Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Diben y daflen hon

Y bandiau treth cyngor

Herio’ch band treth cyngor

Tribiwnlys prisio

Eich taliadau treth cyngor

Gallwch herio'ch band yn rhad ac am ddim

Rhagor o wybodaeth

Cyflwyno Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn Asiantaeth Weithredol o Gyllid a Thollau EM

Rydym yn gyfrifol am:

  • y bandiau treth cyngor yng Nghymru a Lloegr
  • yr asesiadau ardrethu o’r holl eiddo nad ydynt yn eiddo domestig yng Nghymru a Lloegr
  • prisiadau tir ac eiddo at ddibenion treth ar enillion cyfalaf a threth etifeddiaeth
  • penderfyniadau ynghylch yr hawl i brynu yng Nghymru, Lloegr a’r Alban

Rydym hefyd yn cynnal prisiadau ar gyfer adrannau llywodraethol eraill a rhai cynghorau lleol. Mae gwybodaeth ar gael yn ein holl swyddfeydd ac ar ein gwefan sy’n esbonio’r meysydd gwaith hyn a safonau’r gwasanaeth a ddarperir. Rhestrir ein swyddfeydd yng Nghymru ar gefn y daflen hon.

Gellir gweld gwybodaeth bellach am Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar ein gwefan sef:

www.voa.gov.uk

Diben y daflen hon

Mae’r dreth cyngor yn dreth leol wedi’i seilio ar werth pob eiddo domestig (cartref fel arfer), ar adeg benodol. Mae cynghorau lleol yng Nghymru yn casglu’r incwm o’r dreth cyngor i helpu i dalu am wasanaethau lleol.

Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yw’r sefydliad llywodraethol sy’n gyfrifol am neilltuo band treth cyngor ar gyfer yr holl gartrefi yng Nghymru. Mae VOA yn gyfrifol am lunio a chynnal y rhestr o fandiau treth cyngor hefyd. Daeth y rhestr bresennol i Gymru i rym ar 1 Ebrill 2005.

Gall trethdalwyr herio’r band a bennwyd i’w heiddo os ydynt o’r farn ei fod yn anghywir. Mae’r daflen hon yn dweud wrthych yr hyn i’w wneud os nad ydych yn cytuno â’ch band treth cyngor ac mae’n esbonio’r broses apelio.

Ni ddylid ystyried bod y daflen hon yn ganllaw cyflawn i’r gyfraith.

Os bydd angen y daflen hon arnoch mewn ffurf wahanol, cysylltwch â’ch Swyddfa Brisio leol.

Y bandiau treth cyngor

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn pennu’r bandiau treth cyngor i Gymru. Mae’r tabl isod yn dangos ystod bresennol y gwerthoedd ar gyfer pob band:

A           Hyd £44,000
B £44,001 i £65,000
C £65,001 i £91,000
D £91,001 i £123,000
E £123,001 i

£162,000

F £162,001 i £223,000
G £223,001 i £324,000
H £324,001 i £424,000
I £424,001 a throsodd    

Daeth y bandiau hyn i rym ar 1 Ebrill 2005.

Herio’ch band treth cyngor

Asiantaeth y Swyddfa Brisio, y lle cyntaf y dylid troi ato
Os ydych yn teimlo bod eich band treth yn anghywir, neu os ydych am wneud ymholiad amdano, dylech alw’ch Swyddfa Brisio leol a siarad â staff ymroddedig a fydd yn medru ateb eich cwestiynau ac esbonio sut yn union y neilltuwyd y band treth gyngor ar gyfer eich eiddo. Neu, gallwch weld manylion cyswllt eich Swyddfa Brisio leol ar gefn y daflen hon. Mewn nifer o achosion, mae modd datrys ymholiadau heb orfod gwneud apêl ffurfiol yn erbyn eich band.

Herio’ch band – y broses apelio

Ar ôl cyflwyno’ch ymholiad i VOA, os ydych dal i deimlo fod y band yn anghywir, fe allwch apelio’n swyddogol. Mae’r rhesymau ar gyfer apelio yn gyfyngedig, ac mae’n bwysig felly i’w hystyried os ydych am apelio.

  Rhesymau dros apelio Terfynau amser
1

Neilltuwyd band anghywir i’r eiddo pan gafodd y rhestr ei grynhoi

Mae’n rhaid apelio erbyn 30 Medi 2006

2 Cynnydd ym maint yr eiddo

Gellir apello ar unrhyw adeg

3

“Gostyngiad sylweddol” – mae rhan o’r adeilad wedi ei ddymchwel( heblaw ei fod yng nghamau cyntaf gwaith adeiladu

Gellir apello ar unrhyw adeg
4

Eiddo newydd yn caei ei adeiladu neu ei ddarfod

Gellir apello ar unrhyw ade

5 Os oes yna gynnydd/ostyngiad ym maint eich eiddo yr ydych yn ei ddefnyddio ar gyfer diben domestig o fewn eiddo cymysg. Mae eiddo cymysg yn golygu eiddo a ddefnyddir ar yn ddomestig ac ar gyfer busnes Gellir apello ar unrhyw ade
6

Ychwanegwyd cofnod at y rhestr brisio – os cafodd eich eiddo ei ychwanegu i’r rhestr brisio

Gellir apello ar unrhyw ade
7

Dileu’r eiddo o unrhyw restr brisio - os nad yw’ch eiddo bellach yn agored i dreth cyngor

Gellir apello ar unrhyw ade
8

Mae’r band dreth gyngor yn ymddangos yn anghywir yn dilyn penderfyniad tribiwnlys prisio

Gellir apelio 0 fewn chwe mis o ddyddiad y penderfyniad

9

Mae band y dreth gyngor wedi ei newid

Gellir apello o fewn chwe mis o ddyddiad y newidiad

10

Mae person yn dyfod yn drethdalwr eiddo

Gellir apelio o fewn chwe mis o ddyddiad yn drethdalwr

Yn gyntaf, bydd yr apêl ar ffurf ‘cynnig’ i osod eich eiddo mewn band prisio gwahanol. Gallwch lenwi ffurflen gynnig ar-lein trwy droi at www.voa.gov.uk

neu ar bapur – mae’r ffurflen briodol ar gael gan eich Swyddfa Brisio leol.

Pan fyddwn yn cael eich ffurflen gynnig, byddwn yn anfon llythyr atoch yn cydnabod ein bod wedi ei chael gan gadarnhau sut y byddwn yn delio â hi.

Os byddwn yn gallu cytuno ar y newid band a gynigiwyd heb orfod cynnal ymchwiliadau pellach, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi. Os bydd angen i ni drafod eich band gyda chi yn fanylach, bydd eich cynnig yn cael ei osod mewn amserlen, yr ydym yn cyfeirio ati fel ‘rhaglen.’

Ar adegau prysur iawn, ni allwn ystyried yr holl gynigion a gawn yn syth. Eu gosod mewn rhaglen yw’r ffordd orau o sicrhau bod pawb yn gwybod ymlaen llaw pryd y byddwn yn delio â’u hachos. Mae’n sicrhau hefyd bod eiddo yn yr un ardal yn cael eu trin ar yr un pryd, cyn belled ag y bo modd.

Mae gan y rhaglen ddyddiad ‘cychwyn’ a dyddiad ‘targed’. Byddwn yn trafod eich cynnig gyda chi cyn gynted ag y gallwn yn dilyn y dyddiad cychwyn, a byddwn yn ceisio dod i gytundeb gyda chi erbyn y dyddiad targed. Os na allwn ddod i gytundeb am eich band erbyn y dyddiad targed, bydd eich achos yn cael ei gyfeirio at dribiwnlys prisio annibynnol (gweler ‘Tribiwnlys Prisio’ isod).

Ceir rhaglen ar wahân ar gyfer pob ardal ddaearyddol, a drefnir fesul math o eiddo a/neu leoliad. Nid yw’r rhaglen yn nodi eiddo unigol. Er enghraifft, gall y rhaglen ddweud wrthych y bydd unrhyw geisiadau ynghylch newid band ar gyfer eiddo yng nghymuned Llandaf, Caerdydd, yn cael eu hystyried yn ystod chwarter olaf 2005.

I bennu’r ffeithiau, efallai y gofynnir i chi am ragor o wybodaeth neu efallai y bydd angen i VOA archwilio’ch eiddo. Bydd hyn yn ein helpu ni i wneud penderfyniad am y band cywir. Gall VOA archwilio nifer o eiddo o’r tu allan. Os, fodd bynnag, bydd angen cynnal archwiliad mewnol, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu amser cyfleus.

Ym mwyafrif yr achosion, gall VOA ddatrys unrhyw faterion sydd gennych ynghylch eich band treth cyngor heb orfod trefnu tribiwnlys.

Os newidir band eich eiddo o ganlyniad i’r trafodaethau, bydd VOA yn newid y rhestr dreth cyngor. Yna, bydd eich cyngor lleol yn newid eich bil ac yn gwneud unrhyw addasiadau i’ch taliadau.

Os nad yw VOA yn gallu dod i gytundeb gyda chi ac os ydych o’r farn bod eich band yn anghywir o hyd, caiff eich achos ei glywed fel apêl ffurfiol, os ydych yn dymuno parhau ag ef, gan dribiwnlys prisio lleol.

Tribiwnlys prisio

Mae tribiwnlysoedd prisio yn gyrff annibynnol sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch apeliadau treth cyngor. Os na allwn ddod i gytundeb gyda chi ynghylch eich band, bydd y tribiwnlys prisio yn cysylltu â chi i wneud trefniadau ar gyfer gwrandawiad. Pan fo modd, cynhelir y gwrandawiad yn lleol. Ni fydd yn costio unrhyw beth i chi, oni bai eich bod yn dewis cyflogi rhywun i’ch cynrychioli.

Fel arfer, bydd penderfyniad y tribiwnlys yn derfynol. Sylwer y gall y tribiwnlys osod eich eiddo mewn band is neu fand uwch neu ei gadw yn yr un band.

Eich taliadau treth cyngor

Rhaid i chi barhau i dalu’ch bil treth cyngor nes caiff eich cynnig neu apêl ei ddatrys. Os bydd eich cynnig neu’ch apêl yn arwain at fand is, bydd eich cyngor lleol yn ad-dalu unrhyw ordaliad. Os ydych yn wynebu caledi ariannol, dylech gysylltu â’ch cyngor lleol. Gallwch gysylltu â’ch Swyddfa Brisio leol hefyd oherwydd mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwn yn gallu trefnu bod eich achos yn cael ei gynnal yn gynt.

Gallwch herio'ch band yn rhad ac am ddim

Ni fydd yn rhaid i chi dalu am herio’ch band treth cyngor. Mae staff VOA bob amser ar gael i’ch tywys drwy’r broses, felly ni fydd angen i chi gyflogi gwerthwr eiddo, cyfreithiwr, syrfëwr neu unrhyw un arall i’ch cynorthwyo

Efallai y bydd rhai trethdalwyr yn dymuno cyflogi rhywun i ddelio â’r apêl ar eu rhan. Os byddwch yn dewis cyflogi rhywun, dylech fod yn ymwybodol ei bod yn debygol y codir ffi am unrhyw waith a wneir ar eich rhan, hyd yn oed os bydd hyn yn golygu rhoi cyngor a gwybodaeth yn unig. Gwnewch yn s i ˆ wr eich bod yn deall amodau unrhyw gontract yn llawn cyn i chi ei lofnodi.

Mae rhai twyllwyr yn gweithio yn y maes hwn, felly mae’n bwysig gwybod eich bod yn cyflogi rhywun sy’n ddibynadwy. Gall nifer o sefydliadau proffesiynol cydnabyddedig roi enw syrfëwr cymwys i chi:

Rhagor o wybodaeth

Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Mae gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ddyletswydd statudol i bennu band treth cyngor ar gyfer pob cartref yng Nghymru, cadw’r rhestr o’r bandiau ac ymdrin ag unrhyw ymholiadau neu apeliadau. Gwneir hyn ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae taflen ar safonau gwasanaeth yr Asiantaeth sef ‘Ein siarter treth gyngor’ ar gael gan eich Swyddfa Brisio leol.

www.voa.gov.uk                          Llinell gymorth: 0845 600 1748

Lleoliadau swyddfeydd

Bangor


01248 287 800
northwalesgroup.vo@voa.gsi.gov.uk

T ˆy Glyder
339 Stryd Fawr
Bangor
LL57 1YA

Casnewydd
01633205600 southwalesgroup.vo@voa.gsi.gov.uk 2 il Lawr
T ˆy Clarence
Maes Clarence

Casnewydd NP19 7AA

Caerdydd


02920 806800
southwalesgroup.vo@voa.gsi.gov.uk
T ˆy Rhodfa
Ffordd T ˆy Glas
Llanisien
Caerdydd CF14 5GR

Abertawe


01792 497700
southwalesgroup.vo@voa.gsi.gov.uk
T ˆy Nant
180 Stryd Fawr
Abertawe SA1 1JR

Caerfyrddin


01267 322200
southwalesgroup.vo@voa.gsi.gov.uk
Adeiladau’r Llywodraeth
Teras Picton Caerfyrddin SA31 3BT

Wrecsam


01978 200000
northwalesgroup.vo@voa.gsi.gov.uk
T ˆy’r Rhaglaw
Stryt y Rhaglaw
Wrecsam LL11 1PR

Merthur Tudful


01685 358000
southwalesgroup.vo@voa.gsi.gov.uk
Adeiladau’r Llywodraeth
Stryd y Castell
Merthur Tudful CF47 8TX

 

 

Cynghorau lleol

Y cynghorau lleol sy’n cyfrifo’r dreth cyngor sy’n ddyledus, asesu cymhwysedd a rhoi cynlluniau rhyddhad ar waith lle y bo’n berthnasol, ynghyd â dosbarthu biliau a chasglu taliadau. Maent yn gweithredu o fewn y polisïau a bennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r fframwaith deddfwriaethol a gaiff ei lunio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Ceir manylion cyswllt ar gyfer eich cyngor lleol ar eich bil treth cyngor.

Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio
Sefydliad annibynnol yw Gwasanaeth y Tribiwnlys Prisio sy’n delio ag, ac yn cyflafareddu dros, apeliadau sy’n ymwneud â’r dreth gyngorx .

www.valuation-tribunals-wales.gov.uk

Llywodraeth Cynulliad Cymru


Llywodraeth Cynulliad Cymru yw braich weithredol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae’n gyfrifol am ddatblygu polisïau yn ymwneud â phennu nifer y bandiau treth cyngor a phennu gwerthoedd trothwy o fewn pob band.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n gweithredu’r holl is-ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig â threth cyngor, gan gynnwys darpariaethau o ran meini prawf cymhwysedd ar gyfer cynlluniau rhyddhad .

www.cymru.gov.uk

counciltaxpolicy@wales.gsi.gov.uk

Is-Adran Gyllid Llywodraeth Leol
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Parc Cathays
Caerdyd CF10 3NQ

 

VO 7857W (03/05)


 
 
Access Keys | Search | Site Map | News | About Us | Privacy Statement | © Crown Copyright | Feedback | Contacts