|
Cyflwyno Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Diben y llyfryn hwn
Y bandiau treth cyngor
Diffinio'r eiddo
Pennu'r band
Newidiadau yn y farchnad dai
Newidiadau mewn bandiau
Gair o rybudd
Cwestiynu eich band
Defnyddio cartref i redeg busnes
Darpariaethau ar gyfer pobl ag anableddau
Y bil treth cyngor
Talu'r bil
Rhagor o wybodaeth
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn un o Asiantaethau Gweithredol Cyllid y Wlad .
Rydym yn gyfrifol am y canlynol:
• bandiau treth cyngor yn Cymru a Lloegr
•
asesiadau ardrethu pob eiddo annomestig yng Nghymru a Lloegr
•
prisiadau tir ac eiddo ar gyfer treth enillion cyfalaf a threth etifeddiaeth
•
penderfyniadau hawl i brynu yng Nghymru, Lloegr a’r Alban
Rydym hefyd yn cynnal prisiadau ar gyfer adrannau eraill o’r llywodraeth a rhai awdurdodau lleol.
Mae gwybodaeth ar gael ymhob un o’n swyddfeydd ac ar ein gwefan sy’n egluro’r meysydd hyn o waith a’r safonau gwasanaeth a ddarperir. Rhestrir ein swyddfeydd yng Nghymru ar ddiwedd y llyfryn hwn.
Ceir rhagor o wybodaeth am Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar ein gwefan yn:
www.voa.gov.uk
Treth leol sy’n seiliedig ar werth pob eiddo domestig (cartref fel arfer) ar adeg benodol yw treth cyngor. Cesglir yr incwm o’r dreth cyngor gan gynghorau lleol yng Nghymru er mwyn helpu i dalu am wasanaethau lleol.
Asiantaeth y Swyddfa Brisio yw sefydliad y llywodraeth sy’n gyfrifol am bennu band treth cyngor ar gyfer pob cartref yng Nghymru. Mae’r Asiantaeth hefyd yn gyfrifol am lunio a chadw’r rhestr o fandiau treth cyngor. Daeth y rhestr gyfredol ar gyfer Cymru i rym ar 1 Ebrill 2005.
Mae’r llyfryn hwn yn egluro’r bandiau treth cyngor sydd ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd, sut y caiff y bandiau treth cyngor eu pennu ar gyfer eiddo a beth mae’n ei olygu o ran eich bil treth cyngor chi .
Ni ddylid ystyried y llyfryn hwn fel yr arweiniad cyflawn i’r gyfraith.
Os hoffech gael y llyfryn hwn mewn fformat arall, cysylltwch â’ch Swyddfa Brisio leol.
Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n pennu’r bandiau treth cyngor ar gyfer Cymru. Mae’r tabl isod yn dangos yr amrywiaeth bresennol o werthoedd ar gyfer pob band:
| A o dan £44,000 |
| B |
£44,001 |
i |
£65,000 |
| C |
£65,001 |
i |
£91,000 |
| D |
£91,001 |
i |
£123,000 |
| E |
£123,001 |
i |
£162,000 |
| F |
£162,001 |
i |
£223,000 |
| G |
£223,001 |
i |
£324,000 |
| H |
£324,001 |
i |
£424,000 |
| I |
£424,001 |
i |
|
Daeth y bandiau hyn i rym ar 1 Ebrill 2005.
Caiff un o’r naw band,A i I, a restrir yn yr adran flaenorol, ei bennu ar gyfer pob eiddo. Yna caiff rhestr ei llunio, sy’n nodi pob cartref yng Nghymru a’i fand cyfatebol. Dim ond y band sydd wedi’i bennu ar gyfer yr eiddo a nodir yn y rhestr, nid gwerth gwirioneddol yr eiddo. Gellir gweld y rhestr ar-lein yn www.voa.gov.uk
Uned fyw ar wahân yw cartref, ynghyd ag unrhyw ardd, iard, garej neu dai allan eraill sy’n rhan ohono, y mae’r un person/pobl yn byw ynddo ac sydd o fewn yr un ardal o dir.
Os yw rhan o’r eiddo – er enghraifft, rhandy – ar wahân ac yn hunangynhaliol, bydd hefyd yn cyfrif fel cartref ar wahân. Nid yw’r ffaith bod eiddo yn rhannu gwasanaethau cyffredin ac na ellir ei werthu ar ei ben ei hun yn golygu nad yw’n hunangynhwysol ac na ellir ei fandio ar wahân at ddibenion treth cyngor. Fodd bynnag, mae rhai mathau eraill o eiddo megis tai lle y mae mwy nag un teulu yn byw ynddynt a lle y rhennir cyfleusterau coginio ac ymolchi (er enghraifft, grwpiau o fflatiau un ystafell neu rai hosteli) yn cael eu trin fel un cartref yn gyffredinol.
Wrth ystyried p’un a yw lle i fyw yn uned hunangynhaliol, rhaid i Asiantaeth y Swyddfa Brisio ystyried sawl pwynt allweddol, sef:
•
Y cymeriad ffisegol a’r cynllun
rhaid gallu defnyddio uned hunangynhaliol yn ffisegol fel lle i fyw ar wahân.
• Nodweddion ffisegol y llety
fel arfer ni fydd uned hunangynhaliol yn rhannu i wahanol rannau o adeilad. Er enghraifft: nid yw llety sy’n cynnwys ystafell fyw a chegin gydag ystafell wely ac ystafell ymolchi wedi’u lleoli ar draws coridor cyffredin yn uned hunangynhaliol.
• Darparu cyfleusterau safonol
rhaid i uned hunangynhaliol gynnwys ei hardal fyw ei hun yn ogystal â chyfleusterau coginio ac ymolchi a thoiled.
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn ystyried maint, oedran a chymeriad yr eiddo yn ogystal â’r ardal y’i lleolir ynddi, ac yn defnyddio data am brisiau gwerthiannau i bennu’r band cywir ar gyfer yr eiddo. Seilir yr asesiad o eiddo, er mwyn pennu band treth cyngor ar ei gyfer, ar y swm, yn amodol ar rai tybiaethau, y byddai wedi cael ei werthu ar y ‘farchnad agored ’* gan ‘werthwr parod ’** ar 1 Ebrill 2003 ***.
Gwneir y tybiaethau wrth bennu band treth cyngor ar gyfer eiddo er mwyn sicrhau bod ymagwedd deg a chyson yn cael ei mabwysiadu bob amser. Nodir y tybiaethau yn unol â’r gyfraith ac maent fel a ganlyn:
• Roedd yr eiddo yn wag pan gafodd ei werthu
• Gwerthwyd tai fel rhydd-ddaliadaul
• Gwerthwyd fflatiau ar brydles 99 blynedd
• Roedd yr eiddo mewn ‘cyflwr atgyweirio rhesymol’ ****
•
Nid oedd unrhyw bosibilrwydd y byddai angen gwneud gwaith adeiladu ar yr eiddo nac unrhyw ddatblygiadau eraill y byddai angen cael caniatâd cynllunio ar eu cyfer
•
Rhaid ystyried maint, cynllun a chymeriad yr eiddo yn ogystal â’r ardal y’i lleolir ynddi fel yr oeddent ar 1 Ebrill 2005 ***.
Caiff eiddo ei arolygu lle y bo angen ond cynhelir y rhan fwyaf o asesiadau gan ddefnyddio manylion a gedwir ar gronfa ddata Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Caiff hon ei diweddaru’n rheolaidd gyda gwybodaeth a gafwyd gan drethdalwyr, deiliaid a chynghorau lleol.
* ‘marchnad agored’ - Marchnad lle caiff yr eiddo ei gynnig yn agored gan roi cyhoeddusrwydd digonol i’r gwerthiant. Noder os cafodd eich eiddo ei brynu o dan gynllun disgownt (megis ‘Hawl i Brynu’) nid yw’n perthyn i’r diffiniad o ‘farchnad agored’.
** ‘gwerthwr parod’ - Rhywun sy’n gwerthu’r eiddo o wirfodd ac nad yw’n cael ei orfodi i wneud hynny.
*** 1 Ebrill 200 3 /1 Ebrill 2005 - Daeth y bandiau treth gyngor cyfredol i rym ar 1 Ebrill 2005. Fodd bynnag, dechreuodd y broses o bennu band treth gyngor ar gyfer pob cartref yng Nghymru ymhell cyn hyn. Mae deddfwriaeth yn pennu’r dyddiad prisio ar 1 Ebrill 2005 er mwyn gallu pennu band i bob eiddo gan ddefnyddio data o’r un amser. Dyma’r unig ffordd o sicrhau system deg a chytbwys. Y dyddiad prisio ar gyfer y rhestr gyfredol yw 1 Ebrill 2003. Hyd yn oed os adeiladwyd eich eiddo ar ôl y dyddiad hwn, pennir band ar ei gyfer yn seiliedig ar ei werth tybiannol, pe byddai wedi bodoli, ar 1 Ebrill 2003. Gwnawn hyn drwy ddefnyddio gwybodaeth am werthiannau o eiddo tebyg yn eich ardal.
**** ‘cyflwr atgyweirio rhesymol’ - Cyflwr atgyweirio eiddo y byddai’n rhesymol ei ddisgwyl, gan ystyried ei oedran, ei gymeriad a’r ardal y’i lleolir ynddi.
Seilir asesiadau ar y pris y byddai eiddo wedi cael ei werthu pe byddai wedi’i werthu ar y farchnad agored ar 1 Ebrill 2003. Ni fydd cynnydd neu ostyngiad yng ngwerth eiddo a achosir gan amrywiadau cyffredinol yn y farchnad dai yn effeithio ar ei brisiad na’i fand, hyd nes y bydd y broses ailbrisio nesaf yn cael ei chynnal. Yn ystod ailbrisiad cynhelir adolygiad o bob eiddo domestig yng Nghymru er mwyn iddynt fod yn unol â’r newidiadau yn y farchnad eiddo.
Gellir ailasesu band eiddo unigol ar ôl i’r rhestr treth cyngor ddod i rym. Efallai y bydd hyn yn berthnasol i chi os digwydd y canlynol:
• Mae gwerth eich cartref yn gostwng oherwydd
- caiff rhan ohono ei dymchwel
- mae cyflwr ffisegol yr ardal leol yn newid
- gwnaed newidiadau er mwyn ei wneud yn addas i berson ag anabledd corfforol ei ddefnyddio
•
Rydych yn dechrau defnyddio rhan o’ch cartref i redeg busnes neu’n rhoi’r gorau i wneud hynny, neu mae’r cydbwysedd o ran defnydd busnes a domestig yn newid
•
Mae gwerth eich cartref yn cynyddu am eich bod wedi ei wella, megis codi estyniad.
Os yw eiddo wedi’i wella, ers 1 Ebrill 2005, sy’n cynyddu ei werth, yn gyffredinol ni ellir ailasesu’r band nes iddo gael ei werthu neu hyd nes y caiff proses ailbrisio ei chynnal. Os ydych yn ystyried prynu eiddo a estynnwyd, dylech fod yn ymwybodol y gellid cynyddu’r band treth cyngor ar ôl i’r eiddo gael ei werthu .
Os bydd angen ailbennu band ar gyfer eich eiddo am un o’r rhesymau a amlinellir uchod, bydd y band a gaiff ei bennu yn seiliedig ar ei werth tybiannol ar 1 Ebrill 2003. Os mai dim ond newid bach a fydd o ran ei werth, efallai na fydd yn ddigon i symud eich cartref o un band treth cyngor i fand arall.
Mae hefyd yn bosibl y gallai band eich cartref newid os caiff Asiantaeth y Swyddfa Brisio wybodaeth a fydd yn ei gwneud yn glir y gwnaed camgymeriad wrth bennu’r band treth cyngor gwreiddiol.
Os oes gennych gwestiynau ynghylch eich band treth cyngor, neu os credwch ei fod yn anghywir, cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar 0845 600 1748 . Gallwch siarad â staff penodedig a fydd yn ateb eich cwestiynau ac yn egluro sut y pennwyd y band treth cyngor ar gyfer eich eiddo.
Os na fyddwch yn fodlon â’r canlyniad, ar ôl holi Asiantaeth y Swyddfa Brisio, ac o’r farn bod eich band yn anghywir, gallwch apelio. Yn gyntaf, cyflwynir apêl ar ffurf ‘cynnig’ i roi eich eiddo mewn band prisio gwahanol. Gallwch gwblhau ffurflen gynnig ar-lein yn www.voa.gov.uk , neu yn ysgrifenedig – mae’r ffurflen briodol ar gael gan eich Swyddfa Brisio leol.
Os na fydd eich cynnig i newid eich band yn llwyddiannus ac os na fyddwch yn fodlon bod eich band yn gywir o hyd, daw’n apêl ffurfiol, os byddwch am barhau, a wrandewir gan dribiwnlys prisio lleol. Mae taflen sy’n manylu ar y broses apêl gyfan (‘Yr hyn i’w wneud os nad ydych yn cytuno â’ch band treth cyngor’) hefyd ar gael yn www.voa.gov.uk neu gan eich Swyddfa Brisio leol.
PWYSIG: Mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn parhau i dalu eich treth cyngor tra’n disgwyl ateb i ymholiad neu ganlyniad apêl.
Ymhlith eiddo a ddefnyddir at ddibenion domestig a dibenion busnes mae, er enghraifft, tafarndai, siopau gyda lle i fyw a ffermydd. Ceir sail ar wahân er mwyn pennu band ar gyfer eiddo o’r fath, a ddisgrifir fel ‘eiddo cyfansawdd’. Os byddwch yn defnyddio rhan o’ch eiddo domestig i weithio o gartref, gellir hefyd dosbarthu eich eiddo fel eiddo cyfansawdd.
Efallai y bydd y rhan o’r eiddo a ddefnyddir at ddibenion gwaith yn ddarostyngedig i ardrethi busnes, tra y bydd gweddill yr eiddo yn parhau i fod yn ddarostyngedig i dreth cyngor, er efallai y bydd band gwahanol yn cael ei bennu ar ei gyfer .
At ddibenion nodi eiddo, defnyddir baner gyfansawdd wrth ochr unrhyw eiddo sy’n gyfansawdd yn y rhestr treth cyngor.
Nid ystyrir unrhyw nodweddion arbennig a gynlluniwyd i wneud eich cartref yn fwy addas ar gyfer person ag anabledd, sy’n ychwanegu at ei werth, wrth ddyrannu band ar gyfer yr eiddo. Felly, ni roddir eich cartref mewn band uwch o’u herwydd.
Yn yr un modd, os oes gan eich cartref nodweddion arbennig sy’n gostwng ei werth, fe’u hystyrir wrth bennu band ac efallai y bydd eich cartref yn cael ei roi mewn band is nag y byddai fel arall. Os oes gan eich cartref nodweddion arbennig sy’n gostwng ei werth, ond os credwch nad ystyriwyd y nodweddion hyn, dylech gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar 0845 600 1748.
Mae cynllun ar gael, o’r enw ‘cynllun rhyddhad’, a all roi disgownt i chi yn eich bil treth gyngor. Mae cynllun rhyddhad ar wahân ar gael ar gyfer pobl ag anableddau. Os oes angen mwy o le arnoch chi, neu rywun sy’n byw gyda chi, i ddefnyddio cadair olwyn yn yr eiddo, neu os oes angen ystafell, cegin neu ystafell ymolchi ychwanegol i ddiwallu anghenion rhywun ag anabledd, gallech fod yn gymwys i gael gostyngiad yn eich bil.
Os credwch y gallech fod yn gymwys, dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol i gael ffurflen gais. Pennir cymhwysedd yn ôl disgresiwn yr awdurdod lleol.
Eich cyngor lleol sy’n gyfrifol am bennu lefel y dreth cyngor. Mae’r swm rydych yn ei dalu yn dibynnu ar faint y mae’r awdurdod lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn eich ardal yn ei wario a faint o arian maent yn ei gael o ffynonellau eraill. Mae’r swm y mae’n rhaid i chi ei dalu (cyn unrhyw ostyngiadau) hefyd yn dibynnu pa fand y mae eich cartref yn perthyn iddo. Po isaf y band y mae eich cartref yn perthyn iddo, y lleiaf y byddwch yn ei dalu.
O fewn ardal leol, bydd biliau treth cyngor sylfaenol ar gyfer pob band gwahanol yn amrywio yn ôl cymesureddau a bennir gan y gyfraith. Y cymesureddau yw:
| A |
6 |
| B |
7 |
| C |
8 |
| D |
9 |
| E |
11 |
| F |
13 |
| G |
15 |
| H |
18 |
| I |
21 |
Felly, er enghraifft, os mai £480 yw’r dreth cyngor ar gyfer annedd ym mand A, bydd y bil ar gyfer annedd ym mand D un a hanner gwaith y swm hwnnw (6:9) = £720 – ar gyfer annedd ym mand H bydd y bil dair gwaith y swm hwnnw (6:18) = £1440 – ac ar gyfer annedd ym mand F, bydd y bil yn £1040 (6:13).
Fel arfer byddwch yn derbyn eich bil treth cyngor ym mis Mawrth neu fis Ebrill bob blwyddyn. Bydd y bil yn nodi’r swm y mae’n rhaid i chi ei dalu a sut y cyfrifwyd y swm hwnnw. Bydd y bil hefyd yn nodi manylion talu, gan gynnwys swm pob rhandaliad a’r dyddiadau y dylid talu pob un.
Bydd eich cyngor lleol yn gallu ateb unrhyw ymholiadau a allai fod gennych am eich bil.
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Mae gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ddyletswydd statudol i bennu band treth cyngor ar gyfer pob cartref yng Nghymru, cadw’r rhestr o’r bandiau ac ymdrin ag unrhyw ymholiadau neu apeliadau. Gwneir hyn ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae taflen ar safonau gwasanaeth yr Asiantaeth sef ‘Ein siarter treth cyngor’ ar gael gan eich Swyddfa Brisio leol.
www.voa.gov.uk Llinell gymorth: 0845 600 1748
Lleoliadau swyddfeydd
Bangor
01248 287 800
northwalesgroup.vo@voa.gsi.gov.uk
T ˆy Glyder
339 Stryd Fawr
Bangor
LL57 1YA |
Casnewydd
01633 205600
southwalesgroup.vo@voa.gsi.gov.uk
2 il Lawr
T ˆy Clarence
Maes Clarence
Casnewydd NP19 7AA |
Caerdydd
02920 806800
southwalesgroup.vo@voa.gsi.gov.uk
T ˆy Rhodfa
Ffordd T ˆy Glas
Llanisien
Caerdydd CF14 5GR
|
Abertawe
01792 497700
southwalesgroup.vo@voa.gsi.gov.uk
T ˆy Nant
180 Stryd Fawr
Abertawe SA1 1JR
|
Caerfyrddin
01267 322200
southwalesgroup.vo@voa.gsi.gov.uk
Adeiladau’r Llywodraeth
Teras Picton Caerfyrddin SA31 3BT
|
Wrecsam
01978 200000
northwalesgroup.vo@voa.gsi.gov.uk
T ˆy’r Rhaglaw
Stryt y Rhaglaw
Wrecsam LL11 1PR
|
Merthur Tudful
01685 358000
southwalesgroup.vo@voa.gsi.gov.uk
Adeiladau’r Llywodraeth
Stryd y Castell
Merthur Tudful CF47 8TX
|
|
Cynghorau lleol
Y cynghorau lleol sy’n cyfrifo’r dreth cyngor sy’n ddyledus, asesu cymhwysedd a rhoi cynlluniau rhyddhad ar waith lle y bo’n berthnasol, ynghyd â dosbarthu biliau a chasglu taliadau. Maent yn gweithredu o fewn y polisïau a bennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r fframwaith deddfwriaethol a gaiff ei lunio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Ceir manylion cyswllt ar gyfer eich cyngor lleol ar eich bil treth cyngor.
Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio
Mae’r Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio yn sefydliad annibynnol sy’n ymdrin ag apeliadau yn ymwneud â threth cyngor, ynghyd â chyflafareddu yn hyn o beth.
www.valuation-tribunals-wales.gov.uk
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Llywodraeth Cynulliad Cymru yw braich weithredol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae’n gyfrifol am ddatblygu polisïau yn ymwneud â phennu nifer y bandiau treth cyngor a phennu gwerthoedd trothwy o fewn pob band.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n gweithredu’r holl is-ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig â threth cyngor, gan gynnwys darpariaethau o ran meini prawf cymhwysedd ar gyfer cynlluniau rhyddhad .
www.cymru.gov.uk
counciltaxpolicy@wales.gsi.gov.uk
Is-Adran Gyllid Llywodraeth Leol
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Parc Cathays
Caerdyd
CF10 3NQ
VO7858W |