| Cofnodion Fforwm Talwyr Ardrethi Cymru
a gynhaliwyd ym Mhafiliwn Llywodraeth Cynulliad Cymru,
Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd
Ddydd Iau 22 Ionawr 2009
Presennol : Cynghrair Twristiaeth Cymru (David Chapman, Julian Burrell); Ffederasiwn Busnesau Bach (Nia Davies); Ystadau Iechyd Cymru (Clive Ball); Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad (Dawn Harding-Maddocks);
Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (John Harper);
Cynrychiolwr Yr Awdurdodau Bilio
(Tony Price); Llywodraeth Cynulliad Cymru (David Fletcher); Tribiwnlysoedd Prisio (Chris Owen a Wendy Beynon); Asiantaeth y Swyddfa Brisio (David Grace, David Tretton, Clive Daniels, Tony Capp, Steve Perkins, Jean Jones)
Ymddiheuriadau : EEF (Martin Bibey); Sefydliad Tafarnwyr Prydain (Steve Howe); Consortiwm Manwerthu Prydain (Tom Ironside); Ffederasiwn Busnes Preifat (Matt Goodman); BERR (Linda Stephens); Cymdeithas Siopau Cyfleustra (Shane Brennan); HBOS (Roger Littlewood); Y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw (Janet Alexander); Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Gaynor Williams); Meddianwyr Eiddo (Tim Kind); Siambr Fasnach Gorllewin Cymru (Lyn Harries)
Croeso a Chyflwyniad
Agorodd David Grace y cyfarfod a chroesawodd aelodau'r Fforwm. Amlinellodd strwythur eang y system Drethi Leol yng Nghymru a rôl Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) ynddi. Ymhlith nodau'r VOA ar gyfer y Fforwm roedd ymgynghori ag aelodau ar faterion sy'n codi, hyrwyddo dealltwriaeth o'r system ardrethu, meithrin gwell dealltwriaeth o sut mae aelodau Talwyr Ardrethi yn deall ac yn gweld y system Ardrethu, ac yn olaf, rhoi mwy o gyfle i gysylltu â llunwyr polisïau o ran trethi lleol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yn gyffredinol y bwriad oedd annog trafodaeth rhwng pob rhanddeiliad yn y system ardrethu.
Cyflwynodd yr aelodau eu hunain a datganwyd eu nodau ar gyfer y fforwm: -
- Roedd Llywodraeth Cynulliad Cymru o'r farn bod lansiad y Fforwm yn ddatblygiad pwysig i Gymru. Gwnaed nifer o newidiadau i system Cymru dros y chwe blynedd diwethaf ac ysgogwyd y rhain gan farn pobl yng Nghymru. Y gobaith oedd cael sgyrsiau agored a gonest er mwyn annog trafodaeth ac adeiladu ar y newidiadau hynny.
- Dylai'r fforwm geisio dileu'r dryswch a all fod yn gysylltiedig â rolau a chyfrifoldebau amrywiol y cyrff statudol sy'n rhan o'r system ardrethu, yn enwedig rhwng casglu (Awdurdodau Bilio) a phrisio (VOA), a sefydlu'r pwyntiau cyswllt gorau yn glir ar faterion penodol. Dylai'r Fforwm hefyd fynd i'r afael â phryderon talwyr ardrethi am ganlyniadau posibl Ailbrisiad 2010. (Y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw)
- Dylid darparu gwybodaeth am sut mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn defnyddio adnoddau yng Nghymru a dylid trafod ac egluro polisïau newydd yn llawn cyn eu cyflwyno. Dylai'r Fforwm ystyried ailgyflwyno rhyddhad trosiannol yng Nghymru.
Ni allai gweithredwyr busnesau bach fanteisio ar ymgynghorwyr proffesiynol nad oedd ganddynt fawr dim cymhelliant i gymryd apeliadau o ran eiddo â gwerth ardrethol is. Roedd yn bwysig bod y busnesau hyn yn ymwybodol o'r gwasanaethau a oedd ar gael gan y VOA (WTA)
Dylai gwell cyngor fod ar gael i dalwyr ardrethi gwledig cyn bod gwaith yn dechrau ar drawsnewid safleoedd busnes, a all arwain at ofyniad i dalu ardrethi am y tro cyntaf. Yn ogystal â hyn, ni ellir gosod safle sydd wedi'i drawsnewid yn dilyn y gwaith hwnnw ac yna'n aml ni ellid ei osod yn syth felly mae cyflwyno'r ardrethi ar gyfer eiddo gwag yn gosod baich ychwanegol ar fusnesau gwledig (Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad).
- Roedd gan y Ffederasiwn Busnesau Bach 10,000 o aelodau yng Nghymru a oedd, fel busnesau bach a chanolig, fel arfer yn gwario cyfran sylweddol o'u trosiant ar ardrethi, ac felly yn sensitif i unrhyw newidiadau a wneir. Eu hamcan oedd cael rhagor o wybodaeth am ficrogynhyrchu. Roedd gan y Ffederasiwn Busnesau Bach
bryderon am mesurau atal trosedd ar y cyfan ond yn arbennig y ffordd rydym yn mynd i'r afael ag ardrethu teledu cylch cyfyng
(lle nododd David Tretton mai dim ond pan fydd mwy na phedwar camera yn bresennol y cânt eu hasesu) ac unedau microgynhyrchu (dywedodd David Fletcher y byddent wedi'u heithrio rhag ardrethu o 2010). (Ffederasiwn Busnesau Bach)
- Byddai Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yn croesawu trafodaeth lawn ar faterion fel dulliau prisio a rhyddhad ardrethi (Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig)
- Nod Ystadau Iechyd Cymru fyddai addysgu rheolwyr a gweinyddwyr y GIG ar sut mae'r system ardrethu yn gweithio drwy well cysylltiadau a chyfathrebu (Ystadau Iechyd Cymru).
Roedd David Grace yn ddiolchgar am farn yr aelodau, a fyddai'n helpu i lunio agendâu y Fforwm yn y dyfodol. Dywedodd y byddai'n fodlon trafod pob agwedd ar y system ardrethu, gan gynnwys prisiadau a rhyddhad ardrethi er y byddai'n amhriodol siarad am asesiadau ac atebolrwydd unigol.
Cydnabu David Fletcher bryderon yr aelodau am gynnydd 2009/10 yn y lluosydd, a oedd yn unol â chynnydd blynyddol y Mynegai Prisiau Manwerthu ym mis Medi 2008 y darparwyd ar ei gyfer gan ddeddfwriaeth. Tra roedd gan y Cynulliad bwerau i bennu cynnydd llai, roedd y gost i'r Cynulliad o wneud hynny yn waharddol, sef £8m i bob canran o ostyngiad.
System Ardrethu Annomestig ac Ailbrisiad 2010
Rhoddodd David Tretton, Cyfarwyddwr Ardrethu y VOA gyflwyniad ar y system Ardrethu Annomestig a'r wybodaeth ddiweddaraf am Ailbrisiad Ardrethu 2010. Roedd y cyflwyniad yn cynnwys gwybodaeth am y rhesymeg ar gyfer yr ailbrisiad, a sut yr addaswyd y system brisio yn 2005 a thu hwnt.
Soniodd David am y datblygiad hyd yn hyn gydag ailbrisiad 2010, gan gynnwys gwaith a wnaed ar y cytundeb blaenorol o werthoedd ardrethol mewn rhai sectorau, yr amserlen ar gyfer cwblhau'r ymarfer a rhai o'r heriau prisio sy'n wynebu'r VOA, fel yr hinsawdd economaidd anodd. Gellir cael copi o'r cyflwyniad drwy anfon neges e-bost at jean.jones@voa.gsi.gov.uk
Lleisiodd Tony Price,
Cynrychiolwr Yr Awdurdodau Bilio, bryderon am effaith ailbrisio ar dafarnau. Dywedodd fod rhai yn cau ym Mhowys gyda'r tueddiad i brynu alcohol rhad o archfarchnadoedd yn lleihau enillion, ar ben unrhyw effeithiau y gallai'r gwaharddiad ysmygu fod yn eu cael. Eglurodd David Grace fod y VOA wrthi'n trafod y materion hyn gyda'r Gymdeithas Tafarnwyr Trwyddedig ac y cytunwyd ar gynllun prisio. Dywedodd David Tretton y byddai prisiadau'n adlewyrchu amodau marchnad sylfaenol, ond tra'n cydnabod y gallai rhai tafarnau a neuaddau bingo fod wedi gweld effaith y gwaharddiad ysmygu, ychwanegodd fod rhai tafarnau gastro er enghraifft wedi gweld cynnydd mewn enillion.
Dulliau o gyfathrebu'r VOA
Trafododd Steve Perkins, VOA, strategaeth y VOA ar gyfathrebu ar gyfer Ailbrisiad 2010. Amlygodd sut roedd fforymau talwyr ardrethi wedi cael mewnbwn i brisiadau cryno, gan roi dadansoddiad o asesiadau unigol ar gategorïau swmpddosbarthiadau, a'u cyflwyno i dalwyr ardrethi cyn ailbrisiad 2005. Eglurodd fod gwelliannau pellach wedi'u gwneud i fformat 2010.
Gofynnodd Clive Ball a ellid gwneud y rhif cyfeirnod yn amlycach ar y prisiad cryno. Cadarnhawyd yr ystyrid hyn ynghyd â gwelliannau eraill a awgrymwyd. Cam Gweithredu Steve Perkins.
Cyfraddau Annomestig o Safbwynt y Cynulliad
Rhoddodd David Fletcher, Llywodraeth Cynulliad Cymru, safbwynt eang ar sut mae'r £800 miliwn a godwyd gan ardrethi busnes yn darparu ar gyfer gwasanaethau ac ati yng Nghymru.
Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach
Amlinellodd David y cynllun rhyddhad busnesau bach yng Nghymru, a oedd yn gynllun llawer symlach na'r cynllun cyfatebol yn Lloegr. Roedd y cynllun yn gymwys i 50% o fusnesau yng Nghymru ac nid oedd tariff i fusnesau nad oeddent yn gymwys - ariannwyd y cynllun yn llawn gan Lywodraeth y Cynulliad. Trosglwyddwyd arian o'r cynllun rhyddhad ardrethi gwledig, ac er ei fod wedi bod yn hael iawn, nid oedd yn cynnig cymorth i ardaloedd trefol dirwasgedig. Byddai'r cynllun yn cael ei adolygu yn 2012.
Ardrethi Eiddo Gwag
Gan gyfeirio at ardrethi eiddo gwag, gwrandawodd y Cynulliad ar y pryderon a godwyd yn Uwchgynhadledd Economaidd 2008, a chyflwynodd achos dros newid. O ganlyniad i hyn, o 1/04/09 bydd pob eiddo gwag yng Nghymru sydd â gwerth ardrethol o dan £15,000 wedi'i eithrio, am 12 mis, rhag ardrethi eiddo gwag.
Rhyddhad Trosiannol
Ymatebodd David hefyd i bryderon am absenoldeb Rhyddhad Trosiannol yng Nghymru. Ni fwriadwyd i Ryddhad Trosiannol byth fod yn nodwedd barhaol o ardrethu ond fe'i defnyddiwyd i ddechrau i wneud newidiadau graddol pan gyflwynwyd yr ardrethi annomestig cenedlaethol yn 1990, a chyn hynny roedd Awdurdodau Bilio lleol wedi pennu ardrethi gwahanol iawn yn y bunt.
Nid yw Llywodraeth y Cynulliad wedi diystyru cynllun Rhyddhad Trosiannol arall yn 2010 yn llwyr ond roedd yn rhaid cydnabod mai gofyniad y Trysorlys oedd bod yn rhaid i'r cynllun gael ei ariannu drwy gyflwyno gostyngiad mewn biliau. Os byddai cynllun Rhyddhad Trosiannol yn cael ei gyflwyno, mae'n debyg y byddai'n seiliedig ar y cynllun a weithredwyd yn 2000 ac a oedd yn targedu busnesau bach. Dywedodd David y gallai unrhyw fusnes sy'n dioddef caledi gwirioneddol ystyried gwneud cais i'w awdurdod lleol am ryddhad caledi, yr oedd 75% yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y Cynulliad.
Atodiadau Ardrethi Busnesau
Roedd gan y Cynulliad bwerau ategol i Loegr i gyflwyno atodiad ar yr ardrethi busnesau a'r bwriad oedd rhoi disgresiwn i'r awdurdodau bilio wneud hynny. Byddai'r broses o'i gyflwyno yn amodol ar ymgynghoriad, a fyddai'n cynnwys unrhyw drothwyon ardrethol a fyddai'n gymwys. Yn Lloegr, y cynnig oedd y byddai eiddo â gwerth ardrethol o dan £50,000 wedi'i eithrio, ond byddai hynny'n anymarferol yng Nghymru lle roedd gwerthoedd yn is ar y cyfan.
Yr iaith Gymraeg
Gofynnodd David Grace i'r aelodau am eu barn ar yr angen i ohebiaeth pob fforwm fod yn ddwyieithog. Cytunwyd y byddai'r agendâu a'r cofnodion yn ddwyieithog ond y byddai holl fusnes arall y Fforwm (gan gynnwys gohebiaeth e-bost o ddydd i ddydd) yn Saesneg.
Unrhyw Fater Arall
Nid oedd lleoliad Maes y Sioe Frenhinol yn gyfleus i rai o'r aelodau. Dywedodd David Grace wrth aelodau'r cyfarfod y byddai holiadur byr yn cael ei gyflwyno a fyddai'n eu galluogi i wneud unrhyw sylwadau am y lleoliad, eitemau agenda yn y dyfodol ac ati.
Cytunwyd y dylai cyfeiriadau e-bost aelodau fod ar gael i bob aelod arall i hwyluso cyswllt haws.
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cynigir y cynhelir y cyfarfod fforwm nesaf ar 30ain Ebrill 2009. Lleoliad ac amser i'w cadarnhau.
Diolchodd David Grace i bawb am fod yn bresennol a chaeodd y cyfarfod.
|