Mae graddfa brisio’n darparu cyfres o berthynoleddau sy’n diffinio’r berthynas rhwng y gwahanol fathau o lety o fewn eiddo. Dangosir isod yr holl raddfeydd prisio ddefnyddiwyd yn Rhestri Prisio 2005. Gellir cyrchu’r manylion ar gyfer pob graddfa o’r rhestr hon. Mae’n un o bum cydran a ddefnyddiwn i benderfynu mwyafrif gwerthoedd trethiannol eiddo yn Lloegr a Chymru. Y pedwar arall yw:
Bydd cofnod nodweddiadol data arolwg yn cynnwys arwynebeddau llawr pob rhan o’r ddeiliadaeth; nodweddion yr eiddo megis ei oedran a phresenoldeb cyfleusterau megis aerdymheru; nifer y lleiniau parcio ceir neu arwynebedd tir parcio ceir; ynghyd ag unrhyw eitemau ychwanegol sy’n bresennol.
Mae hwn yn darparu’r pris fesul metr sgwâr gymhwysir i’r arwynebeddau llawr o gofnod y data arolwg wedi iddo gael ei gymhwyso gan y berthynoledd briodol o’r raddfa brisio. Cesglir y wybodaeth i bennu’r gwerthoedd hyn gan ASB o renti gwirioneddol dalwyd am eiddo ledled Lloegr a Chymru.
Mae hwn yn darparu’r pris i’w gymhwyso i unrhyw leiniau parcio ceir neu arwynebedd tir ddefnyddir ar gyfer parcio.
Mae hwn yn darparu’r prisiau ar gyfer rhannau o’r eiddo nad ydynt fel arfer yn ffurfio rhan o’r prif adeiladau.