VOA logo
 Valuation Office Agency homepage  Council Tax homepage Business Rates homepage District Valuer Services homepage  Media Centre homepage  Recruitment homepage  Publications homepage  How to find us homepage  
Business Rates -Rhestr Termau - Welsh Versiom

Rhestr Termau

CYFEIRIAD
  Cyfeiriad post yr asesiad.
   
ASIANT
  Asiant gyflogir i weithredu ar ran gwneuthurwr y cynigiad.
 
DYDDIAD PRISIO BLAENOROL
  Dyddiad nodwyd yn gyfreithiol fel y dyddiad prisio ar gyfer yr holl hereditamentau gynhwysir mewn rhestr brisio. Ar gyfer rhestri trethu 2010 y dyddiad yw 1 Ebrill 2008. Ni chaiff newidiadau mewn gwerth wedi’r dyddiad hwn, sy’n ganlyniad ffactorau economaidd yn unig, eu hadlewyrchu mewn gwerthoedd trethiannol.
   
AP Ê L
 

Ap êl i dribiwnlys prisio gan wneuthurwr cynigiad. Os nad yw cynigiad wedi cael ei dynnu n ôl, neu wedi ei gytuno gyda’r swyddog prisio, o fewn 3 mis iddo gael ei wneud, ystyrir i’r swyddog prisio anghytuno â‘r cynigiad ac yn ôl cyfraith (cyfreithiau), mae’n rhaid iddi hi/iddo ef gyfeirio’r mater i’r tribiwnlys prisio. Rhestrir apeliadau ar gyfer gwrandawiad gan y clerc i’r tribiwnlys prisio ac mae hyn yn digwydd fel arfer wedi cyfnod trafod y cynigiad neilltuwyd gan system raglennu’r Swyddfa Brisio. Yn ymarferol gallai nifer o gynigiadau fod heb eu trafod gan y swyddog prisio a’r cynigydd o fewn 3 mis, ond gwneir ap êl yn awtomatig.

 

 
FEL AR Y DYDDIAD
  Y dyddiad pan amcanrifwyd cyfanswm gwerth trethiannol pob asesiad yn ardal dalgylch yr Awdurdod Biliau hwnnw.
   
ASESIAD
  Cofnod yn y rhestr drethu.
   
STATWS ASESIAD
  Mae hwn yn dangos a yw asesiad yn ‘gyfredol’ neu yn ‘hanesyddol’. Y cofnod cyfredol yw’r un y seilir y trethi busnes arno. Pe bai hyn yn digwydd newid, caiff cofnod cyfredol newydd ei greu a daw’r cofnod presennol yn un ‘hanesyddol’.
 
AB
  Awdurdod Biliau.
 
AWDURDOD BILIAU
  Yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir yr hereditament ynddo. Dyma’r corff rydych chi’n atebol i dalu trethi iddo. Nid oes a wnelo’r Swyddfa Brisio ag amcanrifo’r union drethi sy’n daladwy.
   
C Ô D YR AWDURDOD BILIAU
  Rhif cyfeirnod unigryw ar gyfer pob Awdurdod Biliau.
 
RHIF CYFEIRNOD AWDURDOD BILIAU
  Mae cyfeirnodau’r AB yn unigryw i’r AB ond gallant ymddangos mewn mwy nag un AB. Rhif cyfeirnod unigryw ddefnyddir i ddynodi cofnod unigol yn y rhestr drethu.
 
RHESTR GASGLEDIG
  Y rhestr drethu fel y mae pan gaiff ei chyhoeddi gyntaf ar 1 Ebrill. Mae’n ddilys am 5 mlynedd.
 
BANER GYFANSAWDD
  Mae’n dangos a oes unrhyw elfen ddomestig yn gysylltiedig â ’r asesiad.
   
DISGRIFIAD
 

Dyma ddisgrifiad byr o’r eiddo dan sylw. Gallai’r disgrifiad gynnwys y term ‘ac adeiladau’. Dyma arferiad y Swyddfa Brisio fwriedir i ddisgrifio rhannau o’r eiddo na chwmpasir yn ddigonol gan y prif ddisgrifiad sy’n ei ragflaenu. Nid yw o angenrheidrwydd yn awgrymu bod gan yr eiddo hwn adeiladau ychwanegol.

 
RHESTR DDRAFFT
  Fersiwn rhag blaen o’r rhestr sy’n cynnwys y gwerthoedd trethiannol sy’n gymwys ac a ddaw i rym o 1 Ebrill y flwyddyn ganlynol.
 
DYDDIAD DOD I RYM
  Y dyddiad y daw’r GT i rym ac o’r dyddiad hwn yr amcanrifir atebolrwydd gan yr awdurdod biliau.
 
SEILIAU ( AP Ê L )
 

Seiliau’r ap ê l

01 Mae’r cynigiad yn amau cywirdeb y Gwerth Trethiannol yn y Rhestr Drethu
02 Mae’r cynigiad yn amau cywirdeb y Gwerth Trethiannol newidiwyd yn y Rhestr Drethu gan y Swyddog Prisio
03 Mae’r cynigiad yn amau Dyddiad Dod i Rym asesiad yn y Rhestr
04 Mae’r cynigiad yn amau’r GT oherwydd Newid Amgylchiadau Materol
05 Mae’r cynigiad yn gofyn am ddileu’r asesiad ddangosir yn y Rhestr Drethu
06

Mae’r cynigiad yn gofyn am ddileu’r asesiad am fod yr eiddo bellach yn ddomestig neu’n eithriedig

07 Mae’r cynigiad yn gofyn am ddileu’r asesiad am reswm arall
08 Mae’r cynigiad yn gofyn am i’r eiddo gael ei ddangos fel mwy nag un asesiad
09 Mae’r cynigiad yn gofyn am i ddau neu fwy o asesiadau gael eu dangos fel un neu fwy o wahanol hereditamentau
10 Mae’r cynigiad yn gofyn am gynnwys cofnod asesu newydd yn y Rhestr
11 Her yn dilyn penderfyniad Tribiwnlys Prisio/Tribiwnlys Tir/Uchel Lys ar eiddo arall
12 Cynigiad yn dilyn gosodiad anghywir neu hepgor gosodiad yn y Rhestr Drethu
   
HEREDITAMENT
  Uned ar wah â n o ddeiliadaeth drethiannol.
 
RhDRh
  Rhestr Drethu Rhyngrwyd.
   
DYDDIAD NEWID RHESTR
 

Dyma’r union ddyddiad y diweddarodd ASB y rhestr drethu i gynnwys unrhyw newidiadau i’r eiddo a’r/neu’r asesiad.

   
GWNEUTHURWR
  Gwneuthurwr y cynigiad.
 
TAN
  Trethu An-Nomestig.
 
YCHWANEGIADAU ERAILL
 

Rhannau o hereditament na ddangosir fel rhan o fanylion y prif arolwg, megis tir.

 
DISGE
 

Disgrifiad Eiddo – dyma g ôd alffaniwmerig sy’n dangos defnydd eiddo.

 
RhA
  Rhaglennu Apeliadau – amserlen yn dangos pryd yr ymdrinnir ag ap ê l yn erbyn rhestr drethu .
 
CYNIGIAD
  Dogfen wasanaethir ar swyddog prisio gan berson â diddordeb sy’n cynnig newidiad i restr drethu. Amlinellir gofynion a chymhwyster gwneud cynigiad yn y gyfraith. Os nad yw’r swyddog prisio yn cytuno â ’r newidiad awgrymedig daw yn ap ê l i’r Tribiwnlys Prisio.
 
BANER CYNIGIAD
  Mae’n dangos a gafodd cynigiad ei wneud/cynigiadau eu gwneud yn erbyn yr asesiad.
 
GT
 

Gwerth Trethiannol. Mae hwn yn cynrychioli’r rhent blynyddol y gallai eiddo yn rhesymol ei ddisgwyl petasai wedi bod ar y farchnad ar y dyddiad prisio blaenorol. Yn y rhent tybiannol hwn cymerir bod y landlord yn gosod yr eiddo mewn cyflwr rhesymol ac mai’r tenant sy’n gyfrifol am yr holl atgyweiriadau, yr yswiriant a thalu trethi.

 
CÔD SCAT
  Côd Categori Arbennig – defnyddir hwn gan y Swyddfa Brisio i ddangos defnydd eiddo. Fe’i diffinnir yn fwy cyfyng na DISGE.
   
SETLIAD
 

Mae hwn yn dangos fel cafodd apêl ei setlo.

Yr opsiynau posib yw:

CYTUNWYD
CADARNHAWYD GAN DRIBIWNLYS PRISIO
GWRTHODWYD GAN DRIBIWNLYS PRISIO
CADARN
PENDERFYNIAD GAN DRIBIWNLYS TIROEDD
CADARNHAWYD GAN DRIBIWNLYS TIROEDD
PENDERFYNIAD GAN DRIBIWNLYS PRISIO
TYNNWYD YN EI Ô L

GWRTHODWYD GAN DRIBIWNLYS TIROEDD

TYNNWYD YN EI Ô L GAN DRIBIWNLYS TIROEDD
GORCHYMYN CANIAT Â D (CYTUNWYD)
 
BANER SETLIAD
  Mae’n dangos fel y setlwyd y cynigiad diwethaf.
 
IRAG
  Is-raglen – yn gysylltiedig â rhaglennu apeliadau – bydd is-raglen yn cynnwys nifer o apeliadau yr ymdrinnir â hwy fel arfer ar yr un pryd.
   
DYDDIAD CYCHWYN
  Dyma’r dyddiad y bydd y Swyddog Prisio yn cysylltu â gwneuthurwr yr apêl er mwyn setlo’r apêl.
   
IS-RAGLEN
  Pan gofrestrir apêl gan y Swyddfa Brisio, fe’i dyrennir i is-raglen. Bydd y rhaglen hon yn cynnwys nifer o apeliadau gaiff fel arfer eu trin ar yr un pryd. Mae’r golofn hon yn rhestru rhif cyfeirnod yr Is-raglen.
 
PRISIAD CRYNO
  Dadansoddiad o’r modd y gwneir prisiad i fyny – bydd rhai asesiadau heb gael eu prisiadau cryno wedi eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd oherwydd materion yn ymwneud â diogelwch neu gyfrinachedd neu am resymau technegol.
 
AROLWG
  Disgrifiad ffisegol hereditament, yn cynnwys manylion ynghylch yr adeiladwaith, yr arwynebeddau a amcanrifwyd (a ddangosir yn gyffredinol fel llinellau ar wahân ar gyfer pob rhan o’r eiddo) a materion eraill yn effeithio ar y gwerth megis presenoldeb gwres, system dymheru, offer a pheiriannau ayb.
 
PC
  Prisiad Cryno.
   
DYDDIAD TARGED
  Dyma’r dyddiad y mae’n rhaid i’r apêl fod wedi ei setlo. Os na chaiff ei setlo erbyn y dyddiad hwn, bydd yn mynd ymlaen i wrandawiad gerbron y Tribiwnlys Prisio lleol.
 
CYFANSWM GWERTH TRETHIANNOL
  Cyfanswm yr holl werthoedd trethiannol o fewn ardal dalgylch yr Awdurdod Biliau hwnnw.
 
ASIANTAETH Y SWYDDFA BRISIO
  Asiantaeth weithredol Cyllid y Wlad.
 
SWYDDOG PRISIO
 

Mae swyddog prisio yn casglu ac yn cynnal Rhestr Drethu ar gyfer awdurdod biliau dan ddyletswydd statudol osodwyd gan Ddeddf Gyllid Llywodraeth Leol 1988. Mae 23 o swyddogion prisio grŵp, gyda rhwydwaith cefnogol o swyddfeydd ledled Lloegr a Chymru.

 
CYNLLUN PRISIO
 

Mae cynllun prisio yn dangos y gwerth y mae’r SB yn ei ystyried yn briodol ar gyfer y lle preswyl, lle parcio, ac agweddau eraill o eiddo sy’n gwneud i fyny brisiadau unigol.

 
TRIBIWNLYS PRISIO
 

Mae 56 o Dribiwnlysoedd Prisio (TPoedd) yn Lloegr yn cael eu hariannu gan Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog (SDBW) a 4 yng Nghymru wedi eu hariannu gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae pob un yn sefydliad annibynnol sy’n delio ag apeliadau ynghylch Trethi An-nomestig a’r Dreth Gyngor. Mae’r TPoedd yn annibynnol o’r swyddog prisio a’r awdurdod biliau.

Mae aelodau’r TPoedd yn bobl leol sy’n wirfoddolwyr, ac er nad oes ganddynt gymhwyster proffesiynol, maent wedi derbyn hyfforddiant ffurfiol ac maent yn brofiadol mewn gwrando ar apeliadau. Fel arfer bydd tri aelod yn clywed apêl, er y gall dau wneud hynny os bydd pob parti yn cytuno. Mae’r Clerc, sy’n gyflogedig gan y TP, yn cynghori ar weithdrefn a phwyntiau cyfreithiol.

 
SP
  Swyddog prisio.
   
CYFEIRNOD ACHOS SB
  Dyma rif cyfeirnod unigryw’r Swyddfa Brisio. Dylech ddyfynnu’r rhif hwn wrth gysylltu â’r Swyddfa Brisio ynghylch apêl arbennig.
 
BANER CYMRU /LLOEGR
  Cliciwch ar y faner i newid rhwng yr iaith Saesneg a’r iaith Gymraeg.
 

put text in here etc.....

 

Photograph of an office building
Accessibility | Search | Site Map | News | About Us | Privacy Statement | © Crown Copyright | Feedback | Contacts