VOA logo
 Valuation Office Agency homepage  Council Tax homepage Business Rates homepage District Valuer Services homepage  Media Centre homepage  Recruitment homepage  Publications homepage  Where to find us homepage  
Prisio Cartrefi Cymru Ar Gyfer Y Dreth Gyngor – Y Gwir

PRISIO CARTREFI CYMRU AR GYFER Y DRETH GYNGOR – Y GWIR

English language version

Cynnwys y dogfen yma

Beth yw'r VOA?

Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yw un o asiantaethau'r llywodraeth ganolog sy'n gyfrifol am brisio cartrefi at ddibenion y dreth gyngor yng Nghymru a Lloegr. Nid yw'n gosod lefel y dreth gyngor nac yn casglu'r arian, gan mai gwaith llywodraeth leol yw hynny.

Dyletswydd y VOA yw gweithredu'n deg ac yn ddiduedd, i sicrhau y caiff pob cartref ei asesu'n gywir a'i osod yn y band cywir. Diben hyn yw sicrhau bod cynghorau lleol yn anfon biliau at drethdalwyr ar am y swm cywir o dreth gyngor ar y sail decaf bosibl - dim mwy, dim llai. Wrth gyflawni'r ddyletswydd hon, mae'r VOA yn gweithredu yn ôl safonau proffesiynol.

Y VOA sy'n gyfrifol am brisio eiddo ar gyfer y dreth gyngor ers iddi gael ei lansio gyntaf gan y llywodraeth flaenorol yn 1993, a chyn hynny am y system flaenorol o ardrethi domestig.

Mae'r VOA yn cyhoeddi targedau ar gyfer cyflymder ac ansawdd ei gwasanaeth ac yn cyflwyno adroddiadau arnynt yn flynyddol. Mae ei holl rwydwaith o swyddfeydd wedi cyflawni'r safon Nod Siarter fel cydnabyddiaeth o ragoriaeth ym maes gwasanaeth cwsmeriaid.

Pen y tud

Beth yw'r dreth gyngor?

Treth leol yw'r dreth gyngor, a bennir gan gynghorau lleol i helpu i dalu am wasanaethau lleol. Mae'n defnyddio gwerth perthnasol cartrefi i bennu cyfraniad pob cartref i'r gwasanaethau lleol hyn.

Gwaith y VOA yw gosod pob cartref mewn un o naw band prisio, sydd yn ei dro yn pennu'r swm y dylid ei dalu. Ond Awdurdodau Lleol unigol, nid y VOA sy'n gosod y dreth gyngor leol ar gyfer pob blwyddyn. O fewn ardal leol, bydd biliau ar gyfer y cartrefi ym mhob band yn gwahaniaethu yn ôl y cyfrannau a nodir yn y ddeddfwriaeth.

Pen y tud

Sut y caiff eiddo ei brisio ar gyfer y dreth gyngor?

Yng Nghymru, cyfrifoldeb y Cynulliad Cenedlaethol datganoledig yw'r dreth gyngor ac ailbrisio'r dreth gyngor. Ymrwymodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i ailbrisio'r eiddo, a daeth ailbrisiad o'r dreth gyngor i rym ar 1 Ebrill 2005. Addaswyd bandiau'r dreth gyngor i adlewyrchu gwerthoedd 2003 ac ychwanegwyd band arall ar y brig. Caiff cartrefi newydd hyd yn oed eu prisio ar sail yr hyn fyddai eu gwerth yn 2003. Diben ailbrisio oedd cadw'r asesiad o gartrefi yn unol â'r amrywiadau yn y farchnad eiddo. Ni fu unrhyw newid yn y ffordd y caiff cartrefi eu prisio ar gyfer y dreth gyngor.

Wrth gynnal prisiadau, rhaid i'r VOA ystyried nodweddion cartref a phopeth sy'n effeithio ar ei werth - yn dda ac yn ddrwg. Dyma'n union beth fyddai unrhyw brisiwr arall yn ei wneud.

Mae egwyddorion prisio ar gyfer y dreth gyngor yn union fel yr oeddynt pan gyflwynwyd y dreth gyngor am y tro cyntaf yn 1993. Yn groes i'r adroddiadau yn y wasg, nid oes unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i'r sail brisio bresennol er mwyn cynyddu swm y dreth gyngor a delir, er enghraifft drwy ystyried nodweddion ychwanegol eiddo nad oeddynt wedi effeithio ar fand prisio'r eiddo hwnnw yn y gorffennol.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am brisio anheddau ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Pen y tud

A yw pwerau'r VOA wedi newid ers i'r Dreth Gyngor gael ei chyflwyno yn 1993?

Nac ydynt. Nid yw pwerau na dyletswyddau Swyddogion Rhestru'r VOA o ran prisio ar gyfer y dreth gyngor wedi newid ers cyflwyno'r Dreth Gyngor yn 1993. Maent yn union yr un fath.

Caiff y sail prisio ei nodi yn y rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Gwnaed mân ddiweddariadau i'r rheoliadau cychwynnol yn 1994, ac nid ydynt wedi newid ers hynny.

Cyhoeddwyd manylion y strwythur bandio newydd yng Nghymru yng Ngorchymyn y Dreth Gyngor (Bandiau Prisio) (Cymru) ( O S 2003/3046(w289)) a ddaeth i rym ar 30 Tachwedd 2003.

Pen y tud

Pam mae angen i'r VOA gadw gwybodaeth am werth eiddo?

Mater sylfaenol o degwch i bawb yw'r ffaith bod y FOA yn cadw digon o wybodaeth am eiddo fel y gellir gwneud prisiadau cywir. Diben hyn yw sicrhau bod pobl yn talu'r swm cywir o dreth gyngor. Mae'r VOA wedi cadw gwybodaeth am eiddo erioed - dyna ei gwaith.

Pen y tud

Sut mae'r VOA yn diweddaru'r wybodaeth?

Er mwyn cynnal rhestrau cywir a theg o fandiau'r dreth gyngor mae angen i'r VOA gael y wybodaeth ddiweddaraf am eiddo bob amser. Mae hyn yn rhan allweddol o gyfrifoldebau'r VOA.

Mae'n gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft:

  • Pan gaiff cartref ei ymestyn neu ei addasu i'r fath raddau fel bod angen caniatâd cynllunio, rhaid i'r awdurdod lleol roi'r wybodaeth honno i'r VOA. Ond nid yw hynny'n golygu y bydd y band yn codi. Efallai na fydd unrhyw effaith ar werth y farchnad (drwy gyfeirio bob amser at werthoedd yn 2003) yn ddigonol i symud yr eiddo i fyny i'r band nesaf. A hyd yn oed os ydyw, dim ond os caiff yr eiddo ei werthu y caiff ei symud i'r band newydd. Os na chaiff ei werthu, bydd yn aros yn yr un band.
  • Weithiau, bydd y VOA yn defnyddio holiaduron fel y gall y deiliad gadarnhau gwybodaeth am eiddo. Mae'n gwneud hyn er mwyn arbed y drafferth o gynnal ymweliad ac er mwyn amharu cyn lleied â phosibl ar drethdalwyr. Nid yw'n ofynnol, fodd bynnag, i drethdalwyr ymateb i holiaduron o'r fath - bydd y VOA bob amser yn fodlon trefnu ymweliad os yw hynny'n fwy cyfleus i'r deiliad.
  • Eto, er mwyn ei helpu i gyflawni ei ddyletswyddau i ddiweddaru cofnodion yn gyson, mae'r VOA hefyd yn defnyddio ffynonellau eraill o wybodaeth. Er enghraifft, yn Lloegr, mae ganddo gontract gyda Rightmove i weld eu harchif hanesyddol o fanylion gwerthu tai sydd wedi bod ar werth o'r blaen ar y farchnad eiddo. Mae'r manylion hyn wedi bod ar gael am ddim i'r cyhoedd ar eu gwefan yn y gorffennol.
  • Weithiau, bydd y VOA yn gofyn am ganiatâd i ymweld ag eiddo pan na fydd y wybodaeth sydd ar gael amdano ar gael o ffynonellau eraill. Bydd hyn yn aml ar gais y deiliad, er enghraifft pan fyddant wedi gwrthwynebu band y dreth gyngor ar gyfer eu heiddo a'u bod am i'r VOA ei adolygu. Nid oes gan y VOA unrhyw bwerau newydd sy'n caniatau i'w staff fynnu cael mynediad i gartrefi pobl.

Pen y tud

A oes gan y VOA wybodaeth nad yw'n ymwneud ag eiddo?

Mae'r sôn bod gan y VOA wybodaeth bersonol am wyliau pobl, nifer yr anifeiliaid anwes sydd ganddynt, ac ati fel y nodir mewn rhai adrannau o'r cyfryngau yn gelwydd noeth.

Yr unig wybodaeth sydd gan y VOA am unigolion yw gwybodaeth gyswllt ee rhif ffôn - a gaiff ei roi fel arfer gan unigolion mewn achosion pan fyddant wedi gwneud ymholiad am eu band treth gyngor.

Pen y tud

Sut mae'r VOA yn cadw gwybodaeth am eiddo?

Mae'r VOA yng Nghymru wrthi ar hyn o bryd yn llunio cofnod digidol o'r cofnodion papur sydd ganddo eisoes am nodweddion eiddo er mwyn defnyddio technoleg fodern fel y gall yr asiantaeth barhau i gyflawni ei dyletswyddau'n effeithlon ac yn effeithiol. Mae'r nodweddion yn cynnwys gwybodaeth megis oedran a'r math o eiddo (tŷ ar ei ben ei hun, tŷ pâr, tŷ teras, fflat ac ati) nifer yr ystafelloedd gwely, lleoliad a maint - y math o wybodaeth a ddefnyddir i benderfynu ar bris eiddo. Bydd y buddsoddiad hwn mewn technoleg fodern yn cynorthwyo'r VOA i gynnal ei busnes o ddydd i ddydd a'i gwasanaeth i awdurdodau lleol a'r cyhoedd.

Mae dweud bod y VOA yn cadw cronfa ddata "brawd mawr" newydd, eto fel y mae rhai adrannau o'r cyfryngau wedi ei nodi yn gwbl anwir.

Pen y tud

Pa wybodaeth sydd ei hangen ar y VOA?

Gan mai cyfrifoldeb y VOA yw prisio eiddo, mae angen iddi ystyried, yn bennaf, holl nodweddion eiddo a fydd yn effeithio ar ei bris. Mae hyn yn wir at ddibenon bandiau'r dreth gyngor ac ar gyfer unrhyw waith prisio eiddo, er enghraifft, y prisiad y bydd asiant tai yn ei gynnal pan fydd eiddo am gael ei werthu. Byddai'r nodweddion hyn yn cynnwys:

  • oedran
  • math (e.e. tŷ ar ei ben ei hun, tŷ pâr, tŷ teras, tŷ, byngalo, fflat)
  • maint cyffredinol, nifer yr ystafelloedd ac ati
  • lleoliad yr eiddo
  • nodweddion yr ardal leol

Nid yw'r wybodaeth hon yn newydd o gwbl - dyma'n union y math o wybodaeth y byddai unrhyw un yn ei hystyried wrth brynu eiddo. Dyma'r pethau sy'n effeithio ar werth eiddo ar y farchnad.

Pen y tud

A yw'r VOA am ddefnyddio mathau newydd neu ychwanegol o wybodaeth am eiddo i gynnal prisiadau?

Nac ydy. Cafwyd nifer o adroddiadau hollol anghywir ynglŷn â chostau ychwanegol, newydd am nodweddion megis byw mewn ardal dawel neu ardal gadwraeth, neu olygfa hardd. Mae'r nodweddion hyn, a llawer o rai eraill, wedi bod yn debygol o gyfrannu at werth cyffredinol unrhyw eiddo erioed felly maent wedi cael eu hystyried bob amser - ynghyd â nodweddion eraill megis oedran, lleoliad a math o eiddo - i asesu gwerth. Yn yr un modd mae nodweddion sy'n debygol o ostwng pris eiddo wedi cael eu hystyried. Byddai unrhyw brisiwr, ac unrhyw un sydd am brynu cartref, yn gwneud hynny. Mae'n amlwg nad yw nodweddion eraill, y cyfeirir atynt mewn adroddiadau, megis sied yr ardd, cwt cwningen neu hyd yn oed gorachod gardd, yn effeithio ar bris eiddo o gwbl, ac ni fyddai'r VOA yn eu hystyried.

Pen y tud

A yw'r VOA yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol i lunio barn am werth eiddo?

Nac ydy. Cafwyd nifer o adroddiadau hollol anghywir ynglŷn â defnyddio gwybodaeth bersonol wrth lunio barn am fandiau'r dreth gyngor. Nonsens yw'r adroddiadau bod y VOA yn prisio eich cartref yn ôl nifer yr anifeiliaid anwes sydd gennych, eich bywyd carwriaethol, neu ble rydych yn mynd ar eich gwyliau - am nad oes gan y fath bethau unrhyw gysylltiad â gwerth yr eiddo. Nid oes angen y fath wybodaeth ar y VOA, nid yw am gael y fath wybodaeth, ac nid yw'n casglu'r fath wybodaeth.

Pen y tud

A oes gan y VOA bwerau newydd i fynd i mewn i dai pobl?

Nac oes. Nid oes gan y VOA unrhyw bwerau newydd sy'n caniatáu i'w staff fynnu cael mynediad i gartrefi pobl. Nid oes angen y pwerau hyn arni, ac nid yw am gael y pwerau hyn. Mae adroddiadau yn y wasg am "siarter ysbïwr" yn hollol ddi-sail, ac maent wedi achosi pryder diangen i lawer o bobl, yn arbennig yr henoed a phobl ddiamddiffyn.

Pen y tud

A oes angen i'r VOA ymweld ag eiddo o bryd i'w gilydd i sicrhau bod ei gwybodaeth yn gywir?

Mae wedi bod yn ofynnol i'r VOA ddiweddaru ei gwybodaeth yn gyson a sicrhau ei bod yn gywir yn unol â'r ddeddfwriaeth. Dyna ei gwaith. Wrth wneud hynny mae'n ceisio sicrhau yr amherir cyn lleied â phosibl ar drethdalwyr.

  • Anaml iawn y bydd angen i'r VOA ymweld â chartrefi pobl a dim ond pan na ellir cael gwybodaeth ar gyfer prisio a bandio eiddo o ffynonellau eraill y bydd yn cynnal ymweliadau o'r fath.
  • Bydd llai nag 1% o berchnogion tai yng Nghymru a Lloegr yn cael ymweliadau gan staff y VOA mewn unrhyw flwyddyn.
  • Ar yr achlysuron prin hynny pan fydd angen i'r VOA edrych ar eich cartref, ar y cyfan, gall gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arni o'r tu allan, fel arfer o'r ffordd.
  • Gall ymweliad â chartref fod yn ddefnyddiol weithiau ond dim ond pan na ellir cael gwybodaeth mewn unrhyw ffordd arall y bydd staff y VOA yn gofyn am gael mynediad i eiddo. Ar achlysuron o'r fath, byddant yn gwneud pob ymdrech i drefnu apwyntiad ymlaen llaw ac yn cario cardiau adnabod bob amser gyda llun ohonynt hwy eu hunain arnynt ac yn eu cyflwyno i'r sawl sydd yn y tŷ. Dim ond â chaniatâd y perchennog y bydd staff y VOA yn mynd i mewn i gartref unrhyw un.
  • Nid yw pwerau'r VOA o ran ymweliadau ac archwiliadau wedi newid ers i'r dreth gyngor gael ei chyflwyno yn 1993. Mae'r swyddogion rhestru wedi meddu ar bwerau mynediad ers blynyddoedd lawer, fel y mae llawer o gyrff statudol eraill, ond nid oes ganddynt bwerau i gael mynediad i gartrefi drwy rym, ac nid ydynt erioed wedi meddu ar y pwerau hynny.
  • Nid oes neb wedi cael eu dirwyo na'u herlyn am wrthod caniatáu i aelod o'r VOA gael mynediad i'w heiddo.

Pen y tud

A fydd arolygwyr Pecynnau Gwybodaeth am Eiddo yn archwilio cartrefi at ddibenion y dreth gyngor?

Nonsens yw awgrymu bod Arolygwyr Eiddo, sy'n paratoi adroddiadau ar gyfer Pecynnau Gwybodaeth am Eiddo (HIP), yn casglu gwybodaeth at ddibenion y dreth gyngor. Caiff cyflogeion y sector preifat, a fydd yn gwneud y gwaith hwn eu rheoleiddio'n gaeth gan gynlluniau ardystio annibynnol, a bydd y rhai a gaiff edrych ar eu hadroddiadau yn gyfyngedig yn ôl y gyfraith i'r bobl sy'n prynu a gwerthu tai, eu cynghorwyr a benthycwyr morgeisi a'r rhai sy'n monitro perfformiad ac ansawdd yr adroddiadau. Nid oes unrhyw gysylltiad rhwng y cynllun hwn a gwaith y VOA ar brisio eiddo at ddibenion y dreth gyngor.

Pen y tud

A yw'r VOA yn tynnu lluniau o eiddo?

Bydd angen i'r VOA dynnu lluniau yn achlysurol o eiddo domestig - o'r tu allan yn unig fel arfer - i'w helpu i ymgymryd â'u cyfrifoldebau o ran cydymffurfio â'r gwaith o gynnal rhestrau prisio cynghorau. Fodd bynnag, mae adroddiadau bod staff y VOA yn casglu nifer enfawr o luniau amhriodol neu ymwthiol, unwaith eto, yn gamarweiniol iawn.

  • Tynnir lluniau fel arfer o'r tu allan yn unig, a dim ond o briffordd gyhoeddus pan fo hynny'n bosibl.
  • Ni chaiff lluniau o'r tu mewn eu tynnu ac eithrio ar adegau prin iawn pan fydd nodwedd benodol fewnol ar eiddo yn effeithio ar ei bris - ond ni fyddai hyn yn digwydd heb ganiatad y deiliad. Polisi'r VOA yw y caiff ffotograffau o'r fath eu dileu unwaith y byddant wedi ateb eu diben.

Diben hyn yw cynorthwyo'r prisiwr i asesu gwerth yr eiddo yn gywir.

Dim ond ar gyfer tua 5% o anheddau Cymru y mae ffotograffau ar gael. Mae'r mwyafrif helaeth o'r rhain yn ffotograffau o'r eiddo ar y tu allan. Polisi'r VOA yw na ddylai ffotograffau gynnwys unigolion nac unrhyw nodweddion a allai gysylltu'r eiddo ag unigolyn, er enghraifft rhif ar gar.

Pen y tud

Os bydd perchennog eiddo yn gwneud gwelliannau i'r eiddo a yw hyn yn golygu y byddant yn talu mwy o dreth gyngor?

Ni fyddai gwelliannau i eiddo sy'n cynyddu gwerth yr eiddo yn arwain at gynnydd ym mand y dreth gyngor hyd nes y caiff yr eiddo ei werthu. Diben hyn yw sicrhau na chaiff perchnogion tai eu cosbi am wella eu cartrefi, ac felly mae wedi bod erioed. Mae'r rhan fwyaf o'r tai a gaiff eu gwerthu yn newid dwylo, a'r deiliad newydd sy'n gyfrifol am unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor sy'n deillio o unrhyw newid yn y band.

Yn ogystal, mae bandiau'r dreth gyngor yn cwmpasu ystod o werthoedd, felly nid yw cynnydd yng ngwerth y cartref yn golygu band uwch yn awtomatig, cyn belled â bod y gwerth yn aros o fewn ystod y band presennol.

Pen y tud

Os yw perchennog yr eiddo yn gosod mesurau arbed ynni, a fydd hyn yn codi'r eiddo i'r band nesaf?

Ni fydd ychwanegu mesurau arbed ynni megis gwydro dwbl neu inswleiddio wal geudod yn cael unrhyw effaith ar fand treth gyngor presennol yr eiddo. Mae hyn yn wir hefyd o ran offer megis tyrbinau gwynt micro a phaneli haul. Os caiff eiddo ei werthu, gall y gwelliannau gael effaith, ond dim ond os ydynt yn welliannau sy'n gwthio gwerthu yr eiddo 'r ystod band nesaf. Ar eu pen eu hunain, nid yw'r mathau hyn o fesurau arbed ynni, yn debygol o wneud hynny.

Pen y tud

A yw'r VOA yn defnyddio unrhyw luniau awyrol i lunio barn am werth eiddo?

Nac ydy. Mae unrhyw adroddiadau bod y VOA yn defnyddio technoleg lloeren neu "ysbiwyr o'r awyr" unwaith eto yn anghywir.

Ystyrir hyn yn ddull defnyddiol mewn llawer o wledydd eraill ond nid oes gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) unrhyw drefniadau cytundebol i ddefnyddio ffotograffau awyrol na lloeren at ddibenion prisio.  Gall staff y VOA weld delweddau awyrol neu loeren sydd ar gael am ddim i'r cyhoedd ar y rhyngrwyd. Gall hyn helpu i benderfynu a oes angen ymweliad, er enghraifft pan fydd rhan o eiddo wedi cael ei dymchwel yn ôl pob tebyg a bod angen i gofnodion y VOA gael eu diweddaru o bosibl. Ond nid yw'r VOA yn dibynnu ar ddelweddau o'r fath yn unig ar gyfer penderfynu ar newidiadau i fandiau'r dreth gyngor.

Pen y tud

A oes camgymeriadau yn swm y Dreth Gyngor y mae pobl yn ei dalu sy'n seiliedig ar brisio eiddo yn anghywir?

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn fodlon i'r bandiau a gynhaliwyd pan bennwyd y broses ailbrisio'r dreth gyngor yng Nghymru yn 2005., gael eu gwneud yn gywir. Yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2005 i 31 Ionawr 2007 (sef y 22 mis cyntaf y daeth rhestrau treth gyngor 2005 i rym) dim ond 2.95% o gartrefi sydd wedi gwrthwynebu band y dreth gyngor hyd yn hyn, naill ai drwy ymholiad anffurfiol neu drwy apêl. Cafwyd traean yn is o apeliadau/ymholiadau ar Restrau Prisio'r Dreth Gyngor 2005 o'i gymharu â dwy flynedd gyntaf Rhestr 1993.

Trafododd y rhaglen 'Tonight with Trevor McDonald' a ddarlledwyd ar 26 Ionawr 2007 y mater o gartrefi sydd wedi cael eu rhoi yn y band anghywir o bosibl. Cyfeiriwyd at hyn rai astudiaethau achos. Er mai prin yw'r achosion bellach lle y gellir gwneud her ffurfiol, pan fo gan bobl bryderon gwirioneddol bod eu cartrefi yn y band anghywir, dylent gysylltu â'u Swyddog Rhestru VOA lleol a gofyn am adolygiad o'r band. Os yw'r Swyddog Rhestru yn fodlon y dylid newid y band, bydd yn gwneud hynny. Mewn rhai achosion, mae Swyddog Rhestru yn codi'r band yn hytrach na'i ostwng ar ôl adolygiad.

Pen y tud

Sut y gallaf gael gwybod mwy am rôl y Swyddfa Brisio a'r Dreth Gyngor?

Nid oes unrhyw beth cyfrinachol am y modd y mae'r VOA yn cynnal ei gwaith. Dros y misoedd diwethaf, mae wedi diweddaru ei gwefan - www.voa.gov.uk - i roi mwy o wybodaeth a gwell gwybodaeth i'r cyhoedd. Er enghraifft, ar y wefan, gall pobl ddod o hyd i wybodaeth am:

  • Ffeithiau Allweddol - i egluro'r gwir y tu ôl i'r storïau codi bwganod yn y wasg
  • Y rhestrau prisio sy'n nodi'r bandiau ar gyfer pob eiddo yng Nghymru a Lloegr
  • Y llawlyfr a ddefnyddir gan y staff i gynnal eu swyddogaethau, ac sy'n cwmpasu amrywiaeth o fanylion o sail y prisiad i newid rhestrau prisio'r dreth gyngor
  • Sut i gysylltu â'r VOA a'r swyddfa leol
  • Beth i'w wneud os ydych am ymholi ynglŷn â'r band y mae eich cartref ynddo a'r amgylchiadau ar gyfer gwneud apêl
  • Cyngor ar faterion megis estyniadau a gweithio o gartref
  • Ymweliadau ag eiddo a phryd y gallai'r rhain fod yn ddefnyddiol

Mae'r safle hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y modd y mae'r VOA yn cynnal ei gwaith, yn archwilio eiddo, amgylchiadau pan allai hyn fod o gymorth (yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd hyn yn ddefnyddiol) a chasglu gwybodaeth am eiddo - y math o wybodaeth a gaiff ei hystyried wrth brisio eiddo sydd ar gael yn y canllaw codio anheddau, sydd hefyd ar y wefan.

Ceir crynodeb fanylach o'r hyn sydd ar gael ar y wefan yn Atodiad A.

Mae'r ffaith bod y VOA wedi bod yn fwy agored am y modd y mae'n cynnal y gwaith o brisio eiddo ar gyfer y cyngor wedi cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth ei bod yn gwneud rhywbeth newydd, cyfrinachol neu annheg. Y gwir yw ei bod yn rhoi mwy o wybodaeth a gwell gwybodaeth i'r cyhoedd.

Pen y tud

Lloegr

A oes proses ailbrisio yn mynd rhagddi ar hyn o bryd yn Lloegr, neu a oes bwriad i gynnal un?

Nac oes. Nid oes proses ailbrisio yn mynd rhagddi ar hyn o bryd yn Lloegr. Mae adroddiadau am "ailbrisio yn llechwraidd" yn gelwydd noeth.

Cafodd proses ailbrisio a ddylai fod wedi mynd rhagddi yn Lloegr ar 1 Ebrill 2007, ei gohirio ym mis Medi 2005. Er mwyn paratoi ar gyfer y broses ailbrisio a chyn iddi gael ei gohirio, roedd y VOA wedi llunio cofnodion digidol o'i chofnodion papur presennol ac wedi datblygu model prisio awtomataidd, sy'n ddull a gaiff ei ddefnyddio gan lawer o weinyddiaethau ledled y byd i ategu gwaith prisio mawr. Mae'r VOA yn naturiol yn parhau i gynnal ei chronfa ddata o fanylion eiddo ar ei ffurf electronig newydd, gan mai dyma yw ei gwaith. Mae hyn yn rhatach ac yn fwy dibynadwy na chofnodion papur. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu bod unrhyw fath o broses ailbrisio yn llechwraidd yn mynd rhagddi yn barhaus. Mae hyn yn anghywir.

Ac, fel yr eglurwyd eisoes uchod, nid yw'r gronfa ddata o fanylion eiddo yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol - mae'n ymwneud ag eiddo yn unig, a dim ond y manylion hynny sydd eu hangen i ddarparu prisiad cywir o annedd a gynhwysir ynddi.

Pen y tud

Gogledd Iwerddon a'r Alban

Nid oes gan y VOA unrhyw ran i'w chwarae yn y gwaith o brisio tai ar gyfer y dreth gyngor yng Ngogledd Iwerddon na'r Alban. Mae gan Ogledd Iwerddon a'r Alban system gyllid llywodraeth leol wahanol. Bu Gogledd Iwerddon yn prisio cartrefi yn ddiweddar at ddibenion treth ond nid yw'r VOA yn cymryd unrhyw ran yn yr hyn sy'n digwydd yno.

Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA)
Mawrth 2007


Pen y tud

Atodiad A - GWYBODAETH GRYNO AM WEFAN ASIANTAETH Y SWYDDFA BRISIO

Ffeithiau Allweddol

Rhoi manylion syml ar y meysydd diweddaraf o ddiddordeb mwyaf. Yn arbennig - sut y caiff eich cartref ei brisio, archwilio cartrefi, gwella eich cartref, ailbrisio a band y dreth gyngor.

Ar dudalen y dreth gyngor gallwch weld eich band y dreth gyngor a nodi a oes adolygiad band ar y gweill ar gyfer cartrefi.

Gwybodaeth fanylach gyda chysylltiadau o adran 'Ffeithiau Allweddol' y wefan (ar gyfer Cymru a Lloegr)

  • Y diffiniad o annedd - y man cychwyn, trin mwy nag un eiddo fel un annedd
  • Sut y caiff eich eiddo ei brisio - pa ragdybiaethau sydd angen eu gwneud, maint, lleoliad, cymeriad, ardal, cyflwr rhesymol, yr anheddau a ddefnyddir hefyd at ddibenion busnes, yr hyn a gaiff ei ystyried a'r hyn na chaiff ei ystyried.
  • A gaf apelio - rwy'n meddwl bod fy mand yn rhy uchel? - Gwybodaeth am yr amgylchiadau pan gewch wneud apêl ffurfiol a chwblhau ffurflen cynnig ar-lein
  • Rôl y swyddog rhestru
  • Gwella eich cartref a band y dreth gyngor - eglurhad o pryd y gallai band newid
  • Darpariaethau ar gyfer pobl ag anableddau - beth a gaiff ei anwybyddu at ddibenion prisio.
  • Faint y byddaf yn ei dalu? - eglurhad o'r ffordd y caiff y bil ei gyfrifo
  • Arolygon a ffotograffau - pan fo angen i ni archwilio cartrefi, yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes angen hyn, pam, pryd a sut y caiff lluniau eu tynnu
  • Gweithio o gartref - eglurhad syml
  • Siarter y Dreth Gyngor - mae'n nodi'r safonau a gaiff eu dilyn wrth i staff yr Asiantaeth Swyddfa Brisio weithredu, beth y gallwch ei ddisgwyl gan y swyddfa brisio a'n hymrwymiad i drethdalwyr
  • Bandiau'r Dreth Gyngor yng Nghymru a Lloegr - beth ydynt, ac, yng Nghymru, cymharu'r hen fandiau â'r bandiau newydd
  • Ble i ddod o hyd i ni - manylion cyswllt ar gyfer eich swyddfa brisio leol
  • Gohirio'r Broses a Ailbrisio'r Dreth Gyngor yn Lloegr - y ffeithiau, gyda chysylltiadau â gwefannau Cymunedau a Lyons
  • Bandio eiddo sydd â mwy nag un uned hunangynhwysol - esboniadau ee ar gyfer estyniadau

Cymru

  • Ailbrisio'r Dreth Gyngor yng Nghymru 2005 - trosolwg
  • Y Dreth Gyngor - canllaw
  • Beth i'w wneud os ydych yn anghytuno â'ch band treth gyngor.
  • Ein Siarter ar gyfer y Dreth Gyngor 2005
  • Cynnydd wrth ymdrin ag apeliadau ac ymholiadau
  • Cylchlythyrau Ailbrisio'r Dreth Gyngor yng Nghymru

Dogfennau

Cyfarwyddiadau Mewnol Amrywiol a chyngor a baratowyd yn wreiddiol ar gyfer y broses Ailbrisio'r Dreth Gyngor yn Lloegr a hefyd:

  • Canllaw Codio Tŷ Annedd - ymdrin â'r ffordd y mae staff y VOA yn cofnodi gwahanol nodweddion eiddo
  • Llawlyfr y Dreth Gyngor - y llawlyfr a ddefnyddia'r staff eu hunain yn Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy'n cynnwys deddfwriaeth, yr ymarfer bandio, cynnal rhestrau prisio'r dreth gyngor, gweithdrefnau apelio a nodiadau ymarfer ar gyfer ymdrin ag ystod o faterion technegol a materion prisio

Ffeithlenni ar

  • Weithio o gartref
  • Prisio bythynnod gwyliau
  • Eiddo sydd â mwy nag un uned hynangynhwysol.
Access Keys | Search | Site Map | News | About Us | Privacy Statement | © Crown Copyright | Feedback | Contacts